Tynnu deunyddiau cau clwyf oddi ar unigolion

URN: SFHCHS14
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â thynnu deunyddiau cau clwyf oddi ar unigolion. Mae'n berthnasol mewn amrywiaeth o leoliadau gofal, gan gynnwys ysbytai, cartrefi gofal, cartref yr unigolyn ei hun neu leoliadau cymunedol eraill, fel meddygfeydd.

Mae'r safon hon yn ymwneud â thynnu a chael gwared ar ddeunyddiau cau clwyf gan ddefnyddio techneg aseptig a dilyn canllawiau a gweithdrefnau'r sefydliad, yn unol â chyfarwyddiadau ymarferwr perthnasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei gydsyniad, ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  8. gwirio pwy yw'r unigolyn ac yna cadarnhau'r gweithgaredd arfaethedig
  9. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
  10. cadarnhau bod yr holl gyfarpar a deunyddiau yn briodol i ddull tynnu'r deunydd cau clwyf a'u bod yn addas i'r diben
  11. cadarnhau bod gwrtharwyddion rhag tynnu deunydd cau clwyf yn absennol
  12. tynnu deunydd cau clwyf:

    • gan achosi cyn lleied â phosibl o drallod, anghysur neu boen i'r unigolyn
    • ar amser priodol yn unol â chynllun gofal yr unigolyn
    • gan ddilyn y weithdrefn gytunedig
    • gan ddefnyddio'r dechneg gywir
  13. atal y gweithgaredd, tawelu meddwl yr unigolyn a cheisio cyngor ar unwaith os cewch unrhyw broblemau wrth dynnu deunydd cau clwyf

  14. sicrhau bod holl ddeunydd cau clwyf wedi cael ei dynnu'n llwyr
  15. cael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  16. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. anghenion unigolion, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  11. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  12. pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth dynnu deunyddiau cau clwyf oddi ar unigolion a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
  13. pam y dylid cefnogi unigolion a rhoi gwybod iddynt am natur y gweithgaredd
  14. y pryderon a gofidiau allai fod gan unigolion yn gysylltiedig â chau clwyfau
  15. yr adweithiau niweidiol a all ddigwydd ar ôl gweithdrefnau a sut i adnabod a delio â nhw
  16. anatomeg a ffisioleg y croen a meinweoedd gwaelodol yn gysylltiedig â'r math o ddeunydd cau clwyf a ddefnyddiwyd a thynnu'r deunydd cau clwyf
  17. y canlynol o ran gwellhad clwyfau:

    • proses gwellhad clwyfau
    • ffactorau sy'n effeithio ar wellhad clwyfau
    • cymhlethdodau posibl gwellhad clwyfau
    • croes-heintiad
  18. yr egwyddorion a'r arferion gweithio sy'n gysylltiedig â sepsis

  19. sut mae techneg aseptig yn cyfrannu at reoli haint
  20. ffynonellau halogiad posibl wrth ymgymryd â thynnu deunydd cau clwyf a chamau priodol i'w lleihau neu i ddelio â nhw
  21. canlyniadau posibl halogiad clwyf
  22. y cyfarpar a'r deunyddiau y mae eu hangen i dynnu deunyddiau cau clwyf
  23. pam dylid paratoi adnoddau cyn i chi ddechrau'r gweithgaredd
  24. pwysigrwydd dilyn y weithdrefn yn union fel y'i disgrifir, ac effeithiau posibl peidio â gwneud hynny
  25. pwysigrwydd pacio cyfarpar a ddefnyddiwyd a gorchuddion budr cyn gadael ardal uniongyrchol y gofal
  26. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  27. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS14

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Tynnu, clwyf, cau, deunyddiau