Cynorthwyo â gweithredu rhaglenni symudedd a symudiadau i unigolion er mwyn adfer y symudiadau gorau posibl ac annibyniaeth weithredol

URN: SFHCHS138
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn berthnasol i bawb y mae eu rôl yn gofyn iddynt helpu’r ymarferwr i gynorthwyo unigolion sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni a luniwyd i adfer y symudiadau gorau posibl ac annibyniaeth weithredol. Gallai rhaglenni a thriniaethau nodweddiadol gynnwys rhaglenni ymarfer corff a defnyddio cyfarpar campfa.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu
  8. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
  9. cynnal y gweithgareddau penodedig yn gywir gan ddefnyddio dulliau a chyfarpar a amlinellir yng nghynllun triniaeth yr unigolyn
  10. symud ymlaen drwy'r rhaglen benodedig yn unol ag anghenion yr unigolyn a'r nodau therapiwtig cytunedig
  11. rhoi digon o amser, cyfle ac anogaeth i'r unigolyn ymarfer sgiliau sydd eisoes yn bodoli a sgiliau newydd eu datblygu
  12. annog yr unigolyn i fanteisio ar gyfleoedd wedi'u cynllunio a chyfleoedd heb eu cynllunio i integreiddio sgiliau a ddatblygwyd yn y rhaglen i'w weithgareddau bob dydd arferol
  13. cefnogi ac annog yr unigolyn i reoli ei hun cymaint â phosibl trwy gydol y rhaglen
  14. cymryd camau priodol a phrydlon, yn unol â phrotocolau a chanllawiau perthnasol, i ymateb i unrhyw gyflwr neu ymddygiad sy'n awgrymu adwaith niweidiol a rhoi gwybod am hyn i'r aelod priodol o dîm gofal yr unigolyn
  15. monitro'r unigolyn yn ystod ac ar ôl y rhaglen/y driniaeth, fel yr amlinellir yng nghynllun triniaeth yr unigolyn
  16. darparu adborth cywir a phrydlon i dîm gofal yr unigolyn i gefnogi cynllunio effeithiol at y dyfodol
  17. sicrhau bod yr unigolyn yn yr osgo cywir, gan gyfrif am gyflwr a gwedduster yr unigolyn, a'r driniaeth/rhaglen i'w chynnal
  18. rhoi adborth i'r ymarferwr yn rheolaidd neu pan fydd newid yng nghyflwr yr unigolyn
  19. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  11. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  12. arwyddion adwaith niweidiol i wahanol raglenni a thriniaethau
  13. y mathau o raglenni a thriniaethau sy'n cael eu cynnal gydag unigolion y mae eu symudedd a'u symudiadau wedi'u cyfyngu
  14. beth sydd ynghlwm â monitro cyflwr unigolyn a pham mae'n bwysig bod hyn yn cael ei wneud yn gywir
  15. pam ddylech geisio cefnogi ac annog yr unigolyn i hybu'i iechyd a'i les ei hun
  16. y camau y dylech eu cymryd os bydd adweithiau niweidiol yn cael eu dangos
  17. y ffactorau sy'n hwyluso perthynas waith gydweithredol ac effeithiol
  18. y cyfarpar a'r deunyddiau y gellir eu defnyddio yn gysylltiedig â gwahanol raglenni a thriniaethau
  19. pa fath o wybodaeth fyddai'n briodol ei rhoi i aelod o'r teulu, gofalwr anffurfiol neu weithiwr gofal iechyd arall ynghylch rhaglen/triniaeth yr unigolyn
  20. effeithiau a buddion ymarfer corff gweithredol, actif
  21. y strwythurau anatomegol syml sydd ynghlwm â'r gwahanol fathau o raglen/triniaeth
  22. y cyflwr sy'n achosi anawsterau i'r unigolion o ran symudiadau a symudedd
  23. effeithiau seicolegol anabledd oherwydd anaf neu glefyd
  24. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS138

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Cynorthwyo, gweithredu, rhaglenni, symudedd, symudiadau, adfer, annibyniaeth, gweithredol, gorau posibl