Cael samplau gwaed gwythiennol

URN: SFHCHS132
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio technegau a gweithdrefnau tynnu gwaed/fflebotomi i gael samplau gwaed gwythiennol gan unigolion ar gyfer ymchwiliadau. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  6. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  7. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  8. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
  9. cymryd camau rhagofalus safonol ar gyfer atal a rheoli heintiau ac unrhyw gamau iechyd a diogelwch perthnasol eraill
  10. rhoi gwybodaeth berthnasol, cymorth a sicrwydd i'r unigolyn mewn modd sy'n sensitif i'w anghenion a'i bryderon
  11. dewis a pharatoi:

    • safle priodol
    • cyfarpar priodol i gael y gwaed gwythiennol 
  12. gosod, defnyddio a rhyddhau rhwymyn tynhau ar adegau priodol yn y weithdrefn

  13. cael mynediad gwythiennol gan ddefnyddio'r system casglu gwaed a ddewiswyd, mewn modd a fydd yn achosi'r anghysur lleiaf i'r unigolyn
  14. cael y gwaed o'r safle a ddewiswyd:

    • gan ddefnyddio'r cynhwysydd cywir yn ôl yr ymchwiliad y mae ei angen
    • gan gael y cyfaint cywir ohono
    • yn y drefn gywir wrth gymryd nifer o samplau
  15. cymryd camau priodol i ysgogi llif y gwaed os bydd problem â chael gwaed o safle a ddewiswyd, neu ddewis safle arall

  16. cymysgu'r gwaed a'r gwrthgeulydd yn drylwyr pan fydd angen gwaed â gwrthgeulydd
  17. nodi'n brydlon unrhyw awgrym y gall yr unigolyn fod yn dioddef unrhyw adwaith niweidiol a chymryd camau priodol
  18. tynnu'r cyfarpar casglu gwaed ac atal llif y gwaed gyda digon o bwysau ar y man cywir ac am ddigon o amser i sicrhau bod y gwaedu wedi'i atal
  19. gosod gorchudd addas ar safle'r nodwydd yn unol â chanllawiau a/neu brotocolau, a chynghori'r unigolyn am sut i ofalu am y safle
  20. labelu samplau gwaed yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  21. gosod samplau yn y pecynnu priodol gyda dogfennau perthnasol
  22. gosod samplau yn y man a enwebwyd ar gyfer casglu a chludo, gan sicrhau bod y gwaed yn cael ei gadw ar y tymheredd gofynnol i gynnal ei uniondeb
  23. sicrhau bod y gwaed yn cael ei gludo ar unwaith i'r adran berthnasol pan fydd samplu'r gwaed ac archwiliadau yn rhai brys
  24. cael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  25. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. anghenion unigolion, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  11. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  12. sut i gael cadarnhad cadarnhaol o bwy yw unigolyn cyn dechrau'r weithdrefn
  13. pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth gael samplau gwaed gwythiennol, a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
  14. sut caiff haint ei ledaenu a sut gellir cyfyngu ar ei ledaeniad – gan gynnwys sut i ddefnyddio neu gymhwyso'r mesurau rheoli haint penodol y mae eu hangen wrth weithio gyda gwaed
  15. strwythur pibellau gwaed
  16. safle gwythiennau hygyrch ar gyfer mynediad gwythiennol, yn gysylltiedig â rhydwelïau, nerfau a strwythurau anatomegol eraill
  17. prosesau ceulo'r gwaed a ffactorau sy'n dylanwadu ar geulo'r gwaed
  18. y gwrthrybuddion a'r newidiadau mewn ymddygiad a chyflwr, sy'n dangos y dylid rhoi'r gorau i'r weithdrefn a cheisio cyngor
  19. y pryderon allai fod gan unigolion yn gysylltiedig â chi'n mynd ati i gael gwaed gwythiennol
  20. sut i baratoi unigolion ar gyfer cael gwaed gwythiennol, gan gynnwys sut y gall eu credoau personol a'r hyn sy'n well ganddynt effeithio ar eu paratoad
  21. beth sy'n debygol o achosi anghysur i unigolion yn ystod ac ar ôl i ni gael gwaed gwythiennol, a sut gellir lleihau anghysur o'r fath 
  22. adweithiau niweidiol cyffredin i samplu gwaed, sut i'w hadnabod a'r cam(au) i'w cymryd
  23. y math o wahanol systemau casglu gwaed a'u gweithrediad
  24. pa orchuddion y mae eu hangen ar gyfer gwahanol fathau o safleoedd nodwydd, a pha gyngor i'w roi i unigolion ar ofalu am y safle
  25. y ffactorau i'w hystyried wrth ddewis y safle gorau i'w ddefnyddio ar gyfer mynediad gwythiennol
  26. y cyfarpar a'r deunyddiau y mae eu hangen ar gyfer tynnu gwaed/fflebotomi a sut i wirio a pharatoi systemau casglu gwaed
  27. pwysigrwydd sicrhau bod safleoedd mynediad gwythiennol yn cael eu glanhau yn effeithiol, a sut a phryd dylai hyn gael ei wneud
  28. y defnydd cywir o rwymynnau tynhau
  29. pwysigrwydd gosod a thynnu nodwyddau yn gywir ac yn ddiogel
  30. sut i adnabod tyllu rhydweliol a'r camau i'w cymryd os bydd hyn yn digwydd
  31. y ffactorau sydd ynghlwm â'r weithdrefn a allai effeithio ar ansawdd y gwaed
  32. y camau lliniaru y gallwch eu cymryd os bydd problemau â chael gwaed
  33. pryd a sut i orchuddio safleoedd tyllu gwythiennol
  34. y wybodaeth y mae angen ei chofnodi ar labeli a dogfennaeth eraill
  35. pwysigrwydd cwblhau labeli a dogfennaeth yn glir, yn ddarllenadwy ac yn gywir
  36. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  37. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS132

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Sbesimenau gwaed, tynnu gwaed, fflebotomi