Cael samplau gwaed capilarïaidd a’u profi

URN: SFHCHS131
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chasglu samplau gwaed capilarïaidd gan ddefnyddio naill ai cyllell meddyg awtomataidd neu un â llaw, profi'r sampl lle y bo angen hynny, neu ei hanfon i rywle arall am brofion labordy.

Gall samplau gynnwys samplau ar gyfer pennu lefel siwgr gwaed, lefelau hemoglobin a sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  6. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  7. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  8. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  9. cymryd camau rhagofalus safonol ar gyfer atal a rheoli heintiau ac unrhyw gamau iechyd a diogelwch perthnasol eraill
  10. dewis a pharatoi'r safle ar gyfer cael y sampl gwaed capilarïaidd yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  11. cael y swm gofynnol o waed o'r ansawdd gofynnol, gan ddefnyddio'r deunyddiau a'r cyfarpar a ddewiswyd yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  12. cymryd camau priodol i ysgogi llif y gwaed os bydd problem â chael gwaed o'r safle a ddewiswyd, neu ddewis safle arall
  13. rhoi pwysau ar safle'r nodwydd ar ôl gorffen i annog cau a cheulo'r gwaed
  14. adnabod ar unwaith unrhyw awgrym y gall yr unigolyn fod yn cael adwaith niweidiol a chymryd camau priodol
  15. labelu'r sampl yn gywir ac yn ddarllenadwy, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  16. gosod y sampl yn y pecynnu priodol gyda'r ddogfennaeth briodol a'i rhoi yn y man priodol i'w chludo neu ei storio, os bydd angen
  17. sicrhau bod y sampl yn cael ei chludo ar unwaith i'r adran berthnasol pan fydd samplu'r gwaed ac ymchwiliadau yn rhai brys
  18. pan fo'n briodol, profi'r sampl gwaed yn gywir gan ddefnyddio'r dull priodol, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  19. adnabod a dehongli canlyniadau'n gywir neu eu trosglwyddo i aelod priodol o'r staff i'w dehongli
  20. sicrhau bod yr unigolyn yn cael gwybod os bydd angen unrhyw weithredu pellach
  21. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. anghenion unigolion, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  11. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  12. sut i gael cadarnhad cadarnhaol o bwy yw unigolyn cyn dechrau'r weithdrefn
  13. pwysigrwydd cyfrinachedd a'r mesurau a gymerir i sicrhau bod cyfrinachedd yn cael ei gynnal yn briodol
  14. pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth gael samplau gwaed capilarïaidd a'u profi, a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
  15. sut caiff haint ei ledaenu a sut gellir cyfyngu ar ei ledaeniad
  16. strwythur a diben pibellau gwaed capilarïaidd
  17. prosesau ceulo'r gwaed a ffactorau sy'n dylanwadu ar geulo'r gwaed
  18. canlyniadau normal neu ddisgwyliedig profion penodol a beth sy'n cael ei ystyried yn ganlyniad annormal
  19. y gwahanol resymau dros gael samplau gwaed capilarïaidd
  20. y pryderon allai fod gan unigolion ynghylch samplu gwaed capilarïaidd
  21. y safleoedd y gellir eu defnyddio ar gyfer samplu capilarïaidd a'r ffactorau y mae angen eu hystyried wrth ddewis y safle gorau i'w ddefnyddio, gan gynnwys yr hyn sy'n well gan yr unigolyn ei hun
  22. pam mae'n bwysig glanhau'r safleoedd y cewch samplau ohonynt, a'r ffyrdd priodol o wneud hynny
  23. y gwrthrybuddion sy'n dangos y dylid rhoi'r gorau i samplu capilarïaidd a cheisio cyngor
  24. beth sy'n debygol o achosi anghysur i unigolion yn ystod ac ar ôl casglu samplau gwaed capilarïaidd, a sut gellir lleihau anghysur o'r fath cymaint â phosibl
  25. beth all achosi problemau wrth gael samplau gwaed capilarïaidd, beth y gellir ei wneud i ysgogi llif y gwaed a phryd dylid defnyddio safle arall
  26. yr adweithiau niweidiol cyffredin y gall unigolion eu cael, sut i'w hadnabod nhw a'r cam(au) i'w cymryd
  27. y cyfarpar a'r deunyddiau y mae eu hangen ar gyfer samplu a phrofi gwaed capilarïaidd
  28. y mathau o gyfarpar a deunyddiau sy'n sensitif i newidiadau yn yr amgylchedd a sut mae hyn yn effeithio ar eu storio a'r defnydd ohonynt
  29. pa gyfarpar a deunyddiau sy'n gallu cael eu defnyddio eto a pha rai y mae'n rhaid eu taflu ar ôl eu defnyddio unwaith
  30. sut a phryd i labelu samplau
  31. i ble yr anfonir y sampl ar gyfer profion labordy:
  32. pwysigrwydd sicrhau bod safleoedd ar gyfer samplu gwaed capilarïaidd wedi'u glanhau yn effeithiol, a sut a phryd y dylid gwneud hyn
  33. y broses a'r weithdrefn ar gyfer cael samplau gwaed capilarïaidd, gan gynnwys trefn gywir y camau
  34. y ffactorau sy'n gysylltiedig â'r gweithdrefnau, a allai effeithio ar ansawdd y gwaed
  35. pwysigrwydd casglu samplau gwaed capilarïaidd o'r ansawdd cywir, a sut i gyflawni hyn
  36. y cymhlethdodau a'r problemau a all ddigwydd yn ystod casglu samplau gwaed capilarïaidd, sut i'w hadnabod nhw a pha gam(au) i'w cymryd
  37. sut i gynnal profion perthnasol ar samplau gwaed capilarïaidd
  38. pa wybodaeth y mae angen ei chofnodi ar labeli a dogfennau eraill wrth anfon samplau gwaed capilarïaidd i'r labordy
  39. pwysigrwydd cwblhau labeli a dogfennaeth yn glir, yn ddarllenadwy ac yn gywir, a chanlyniadau posibl drysu samplau neu labelu anghywir
  40. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS131

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Cael, profi, samplau, gwaed, capilarïaidd