Cynnal Gweithdrefnau Electrocardiograff (ECG) Cyffredin

URN: SFHCHS130
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal recordiadau Electrocardiograff (ECG) pan fydd rhywun yn llonydd a gweithdrefnau Electrocardiograff symudol.

Mae'n cynnwys cysylltu a datgysylltu electrodau a chaffael data yn barod i'w ddadansoddi.

Gellir cyflawni'r gweithdrefnau mewn nifer o leoliadau gofal, fel adrannau cleifion allanol, ardaloedd ward a meddygfeydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. darparu cymorth i'r unigolyn a gofalwyr a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  8. cymryd camau rhagofalus safonol ar gyfer atal a rheoli heintiau a chamau iechyd a diogelwch priodol eraill
  9. cadarnhau pwy yw'r unigolyn a'r rheswm dros yr atgyfeiriad
  10. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
  11. nodi unrhyw anghenion arbennig a allai effeithio ar gynnal y prawf neu ddylanwadu ar ganlyniadau
  12. sicrhau cysur, diogelwch a chyflwr cyffredinol yr unigolyn a chi'ch hunan trwy gydol y weithdrefn
  13. cael cymorth a chyngor pan fydd angen trefniadau eraill i fodloni'r anghenion arbennig
  14. cadarnhau bod yr unigolyn yn ffit i gael y gweithdrefnau
  15. cadarnhau bod yr unigolyn yn deall yr angen am gofnodi arwyddion a symptomau trwy gydol electrocardiograff
  16. sefydlu addasrwydd nodweddion a pharamedrau gweithredol cyfarpar
  17. labelu dogfennau a dyfeisiau cofnodi â gofynion y sefydliad yn gywir
  18. hysbysu a chyfarwyddo'r unigolyn ynghylch y weithdrefn a'r gofynion i'r unigolyn gydymffurfio
  19. annog yr unigolyn i ymlacio a pheidio â symud yn ystod gweithdrefn pan fydd yr electrocardiograff yn cael ei gynnal ar berson llonydd
  20. paratoi safleoedd a lleoli electrodau i gael y canlyniadau cywir, gan gyfrif am anghenion arbennig a nodwyd
  21. profi a gweithredu'r ddyfais fonitro a gwirio ansawdd yr allbwn
  22. rhoi gwybod i'r unigolyn am y cam gweithredu nesaf
  23. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  11. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  12. pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol wrth gynnal electrocardiograffau cyffredin, cymhwysedd, a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
  13. unrhyw anghenion arbennig posibl sydd gan yr unigolyn a allai effeithio ar gynnal yr ECG neu ansawdd yr ECG
  14. pwysigrwydd sicrhau nad yw'r unigolyn yn symud wrth gynnal yr electrocardiograff pan fydd rhywun yn llonydd
  15. yr amodau clinigol ar gyfer atgyfeirio i gael archwiliadau electrocardiograff a'r rhesymau dros atgyfeirio
  16. effeithiau newidiadau mewn osgo a newidiadau resbiradol ar ganlyniadau electrocardiograff
  17. strwythur a gweithrediad y galon
  18. system ddargludo'r galon
  19. yr electrocardiograff normal
  20. y mathau o ddyfeisiau recordio a ddefnyddir mewn gweithdrefnau electrocardiograff a'u nodweddion cyffredin, a sut i'w gosod a phrofi
  21. gweithdrefnau sicrhau ansawdd perthnasol y cyfarpar
  22. diben gweithdrefnau electrocardiograff
  23. lleoliad cywir yr electrodau ar gyfer gweithdrefnau electrocardiograff pan fydd rhywun yn llonydd ac yn symud, a pham mae hyn yn bwysig
  24. ymyrraeth drydanol bosibl a ffynonellau arteffact, a sut i'w hadnabod
  25. sut i wirio bod ôl yr electrocardiograff yn glir er mwyn darllen a dadansoddi'n glir
  26. pwysigrwydd cofnodi arwyddion/symptomau'r unigolyn yn gywir yn ystod gweithdrefnau electrocardiograff symudol
  27. y gofynion datgelu a chyfrinachedd yn gysylltiedig â gwybodaeth feddygol a gwybodaeth yr unigolyn
  28. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS130

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lechyd, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Cynnal, Electrocardiograff