Ymgymryd â gofal am stoma

URN: SFHCHS10
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd Clinigol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag ymgymryd â gofal am stoma perfedd/pledren.  Gall hyn fod ar gyfer unigolion â stomata newydd neu unigolion sydd wedi cael stoma ers tro ac  yn methu gofalu am eu stoma eu hunain.

Pan fydd y stoma newydd ei ffurfio yn y cyfnod yn syth ar ôl llawdriniaeth, rhaid ymgymryd â'r gweithgareddau hyn gan ddefnyddio techneg aseptig a dilyn canllawiau a gweithdrefnau'r sefydliad.

Mae'r safon yn berthnasol mewn amrywiaeth o leoliadau gofal, gan gynnwys ysbytai, cartrefi gofal, cartref yr unigolyn ei hun neu leoliadau cymunedol eraill, fel meddygfeydd. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  8. gwirio pwy yw'r unigolyn a chadarnhau'r gweithgarwch arfaethedig
  9. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  10. cadarnhau bod yr holl gyfarpar a deunyddiau ar gyfer gofal stoma:

    • wedi'u nodi/hamlinellu yng nghynllun gofal yr unigolyn
    • yn briodol i'r weithdrefn
    • yn addas i'r diben 
  11. cyflawni gofal stoma:

    • ar amser priodol yn unol â chynllun gofal yr unigolyn
    • gan ddefnyddio technegau priodol
    • yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
    • mewn modd sy'n gwneud y mwyaf o gysur ac urddas yr unigolyn ac yn lleihau poen a thrawma 
  12. gwylio a chefnogi'r unigolyn trwy gydol gofal y stoma

  13. adnabod a rhoi gwybod am unrhyw gyflwr neu ymddygiad a allai fod yn arwydd o adweithiau niweidiol i'r gweithgaredd a chymryd y camau priodol
  14. annog unigolion i gyfleu unrhyw bryderon am weithrediad ac anghenion gofalu am eu stoma
  15. monitro ac adrodd ar batrwm gweithrediad stoma'r unigolyn, ansawdd gwastraff y corff ac unrhyw newidiadau a all fod wedi digwydd
  16. annog a chynorthwyo unigolion i ddewis a bwyta bwyd a diod a chymryd meddyginiaeth, os caiff ei rhoi ar bresgripsiwn, i gynnal gweithrediad effeithiol stoma
  17. darparu cymorth gweithredol i unigolion reoli'u stoma'u hunain mewn modd sy'n hybu hunan-barch, yn sicrhau'r preifatrwydd mwyaf ac sy'n gyson â'r cynllun gofal
  18. darparu cyfarpar gofal stoma ar adeg ac mewn man sy'n gyfleus i anghenion ac amgylchiadau unigolion
  19. cymryd camau priodol pan fydd y cyfarpar gofal stoma yn ymddangos yn amhriodol neu'n anaddas
  20. rhoi cyfle i unigolion gael gwared ar eu cyfarpar gofal stoma eu hunain sydd wedi'i ddefnyddio a chynnal eu hylendid personol
  21. sicrhau bod cyfarpar a llieiniau budr yn cael eu gwaredu yn ddiogel, yn hylan ac mewn ffyrdd sy'n lleihau risg croes-heintio
  22. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  11. pam y dylid cefnogi unigolion a rhoi gwybod iddynt am y gweithgaredd/neu'r weithdrefn
  12. sut gall eich credoau personol beri anawsterau i chi gyda rhai gweithdrefnau a sut rydych chi'n rheoli'r gwrthdaro hwn yn ymarferol
  13. y pryderon posibl sydd gan unigolion yn gysylltiedig ag ymgymryd â gofal am stoma
  14. pwysigrwydd bod yn sensitif i amgyffrediad yr unigolyn o'r sefyllfa
  15. y ffactorau a fydd yn effeithio ar lefel y cymorth y mae ei angen, fel oedran, cyflwr meddygol, credoau personol a dewisiadau
  16. yr adweithiau niweidiol a all ddigwydd yn ystod ac ar ôl gweithgareddau gofalu am stoma a sut i adnabod a delio â'r rhain
  17. rôl yr ymarferwr arbenigol ar Ofal Stoma a sut y gellir cysylltu â'r ymarferwr
  18. y gwahanol fathau o stoma
  19. yr anatomi yn gysylltiedig â safle a swyddogaeth
  20. colostomïau
  21. ileostomïau
  22. cwndidau ilëol
  23. neffrostomi
  24. effeithiau diet a symudedd ar weithrediad stoma
  25. canlyniadau posibl halogi systemau draenio stoma
  26. y cyfarpar, y deunyddiau a'r teclynnau sydd ar gael ar gyfer gofal stoma
  27. addasrwydd teclynnau stoma ar gyfer gwahanol fathau o stoma
  28. pwysigrwydd cynnwys yr unigolyn wrth ofalu am ei stoma
  29. pwysigrwydd darparu digon o ddeunyddiau gofal stoma i'r unigolyn fel y gall ofalu am y stoma ei hun
  30. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  31. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHCHS10

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Stoma, gofal