Cynnal gweithgarwch gwella busnes

URN: SEMPEO2-64
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg Perfformio Cyfres 2
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 31 Rhag 2011

Trosolwg

Mae’r safon hon yn disgrifio ystod eang o gymwyseddau sylfaenol sydd eu hangen arnoch i gynnal gweithgarwch gwella busnes gan ddefnyddio cynllun systematig, dull gwneud, gwirio, gweithredu. Bydd yn eich paratoi ar gyfer mynediad i’r diwydiant peirianyddol neu’r sector gweithgynhyrchu peirianyddol, gan ffurfio cam ymlaen rhwng addysg a chyflogaeth a gweithredu fel sail i ddatblygu sgiliau ychwanegol a chymwyseddau galwedigaethol yn yr amgylchedd gwaith. Bydd disgwyl i chi fabwysiadu dull systematig wrth gynnal gweithgarwch gwella busnes ar weithrediad neu broses beirianyddol/gweithgynhyrchu i ganfod cyfleoedd i ddileu gwastraff.

Bydd angen i chi gynnal archwiliad 5S/5C a chanfod gweithgarwch gwastraffus neu rai nad ydynt yn ychwanegu gwerth yn y gweithrediad neu broses. Bydd angen i chi gynhyrchu gweithdrefn gweithredu safonol (SOP) newydd neu gyfrannu at wella SOP presennol. Bydd y gweithgareddau hyn yn cynnwys creu’r systemau rheoli gweledol priodol gofynnol, cyfrifo dangosyddion perfformiad allweddol gofynnol a’r gofynion rheoli ansawdd a chyflwyno cofnodion o’r gweithgarwch gwella busnes a sut y byddant yn cyflawni eu nodau.

Bydd eich cyfrifoldebau’n golygu y bydd yn rhaid i chi gydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch a pholisi a gweithdrefnau sefydliadol y gweithgarwch gwella busnes yr ymgymerir â hwy. Bydd angen i chi ystyried unrhyw anawsterau neu broblemau posibl a all godi yn sgil y gweithgarwch gwella busnes a gofyn am help a chyngor priodol i benderfynu ar ac i weithredu datrysiad addas. Byddwch yn gweithio o dan lefel uchel o oruchwyliaeth gan gymryd cyfrifoldeb am eich gweithredoedd eich hun ac am ansawdd a chywirdeb y gwaith a wneir gennych.

Bydd eich gwybodaeth sylfaenol yn golygu bod gennych ddealltwriaeth o’ch gwaith, er mwyn gweithredu egwyddorion peirianyddol priodol yn achos gweithgarwch gwella busnes. Byddwch yn deall y systemau a’r technegau a ddefnyddir mewn gweithredoedd gwella busnes a’r gweithdrefnau a ddefnyddir, a’r defnydd ohonynt a byddwch yn gwybod am y broses, y deunyddiau a’r deunyddiau traul, gyda gwybodaeth ddigon trylwyr i gyflawni’r gweithgarwch gwella a chynhyrchu cynlluniau prosiect a fydd yn arwain at ganlyniad llwyddiannus i’r prosiect.

Byddwch yn deall y rhagofalon diogelwch sy’n ofynnol wrth gyflawni’r gweithgarwch gwella busnes yn achos gweithrediadau a phrosesau y cytunwyd arnynt. Bydd angen i chi arddangos arferion gweithio diogel gydol yr amser, a byddwch yn deall eich cyfrifoldeb am gymryd y camau diogelu angenrheidiol i amddiffyn eich hun ac eraill yn y gweithle.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 gweithio’n ddiogel bob amser, gan gydymffurfio â rheoliadau a chanllawiau iechyd a diogelwch ac eraill perthnasol
P2 gweithredu a dogfennu cynllun systematig, dull gwirio, gweithredu (PDCA) yn achos problemau / gweithgarwch gwella
P3 gweithredu egwyddorion trefniadaeth gweithle i weithrediad neu broses gan ddefnyddio archwiliad 5S/5C ac ymarferiad ‘tag coch’
P4 canfod lle mae gwybodaeth a/neu adnoddau ar goll a lle gellid gwneud gwelliannau i gynyddu’r sgôr 5S/5C
P5 gweithredu egwyddor a phrosesau rheoli gweledol yn achos gweithrediad neu broses gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau rheoli gweledol
P6 canfod rhannau priodol o weithrediad neu broses a fydd â rheolaethau gweledol
P7 canfod dangosyddion perfformiad allweddol a fydd yn cael eu harddangos yn y maes waith
P8 cynhyrchu neu ddiweddaru Gweithdrefn Gweithredu Briodol (SOP) a rheolaethau gweledol ar gyfer y weithred neu broses
P9 delio’n brydlon ac effeithiol â phroblemau o fewn eich rheolaeth a gofyn am help ac arweiniad gan y bobl berthnasol pan fydd gennych broblemau na allwch eu datrys


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 gofynion iechyd a diogelwch y maes lle’r ydych yn ymgymryd â’r gweithgarwch gwella busnes
K2 sut i gynnal cynllun systematig, dull gwneud, gwirio, gweithredu (PDCA) yn achos problemau / gweithredoedd gwella
K3 goblygiadau peidio ag ystyried deddfwriaeth, rheoliadau, safonau a chanllawiau wrth ymgymryd â gweithgarwch gwella busnes
K4 yr hyn a olygir wrth wella busnes, a sut y gall cwmni elwa ar weithgarwch gwella parhaus
K5 gweithredu saith mesur allweddol cystadleurwydd (wedi’i gyflawni’n iawn y tro cyntaf, cyflawni’r amserlen gwblhau, pobl yn gweithio’n gynhyrchiol, troeon stoc, effeithiolrwydd cyffredinol cyfarpar, gwerth y pen a ychwanegir, defnydd o ofod llawr)
K6 sut mae cael a dehongli gwybodaeth am ofynion y gweithrediad neu’r broses beirianyddol / gweithgynhyrchu neu (fel manylebau a chyfarwyddiadau cwsmeriaid, gofynion rheoli ansawdd, dyluniadau / manylebau cynnyrch, dulliau a thechnegau a ddefnyddir)
K7 yr wyth gwastraff (gorgynhyrchu, stocrestr, trafnidiaeth, gorbrosesu,
amser aros, symudiadau gweithredwyr, ansawdd gwael, methiant i fanteisio ar botensial pobl) a sut i ddileu’r mathau hyn o wastraff mewn proses neu weithrediad
K8 y camau mewn archwiliad 5S/5C ac ymarferiad ‘tag coch' a sut i’w cyflawni  

K9 sut i sgorio a chynnal archwiliad o’r ymarferiad 5S/5C
K10 sut i drefnu a labelu’r cyfarpar angenrheidiol ar gyfer canfod a mynediad cyflym
K11 sut i ddefnyddio’r dadansoddiad datrys problemau “achos sylfaenol” gan ddefnyddio’r dechneg 5 pam/sut
K12 sut mae gwerthuso syniadau ar gyfer gwella er mwyn dethol y rhai a gaiff eu mabwysiadu
K13 sut y gellir cyflawni gwelliannau i’r broses drwy fanteisio ar wybodaeth a phrofiad y bobl sy’n gweithio ar y broses
K14 sut mae creu Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP) a chreu cydberthynas rhyngddynt â gweithgarwch gwaith
K15 y technegau gofynnol i rannu gwybodaeth drwy ddefnyddio systemau rheolaeth weledol (fel systemau Kanban, systemau cerdyn, codau lliw, olion troed llawr, graffiau, byrddau tîm, byrddau cysgodol offer/ cyfarpar)
K16 sut y gellir arddangos gwybodaeth a chyfarpar ar gyfer cymwysiadau gwaith / systemau TG amrywiol
K17 graddfa eich awdurdod chi a phwy ddylech eu hysbysu os oes problemau na allwch eu datrys


Cwmpas/ystod

Cwmpas/ystod sy’n gysylltiedig â meini prawf perfformiad
1. Canfod gwelliannau o fewn y gweithrediad neu broses ar gyfer tri o’r canlynol:
1.1 lleihau cost y cynnyrch
1.2 gwella ansawdd
1.3 gwella diogelwch
1.4 gwelliannau mewn arferion gweithio
1.5 gwella perfformiad cyflawni
1.6 lleihau gwastraff a/neu ddefnydd o ynni
1.7 lleihau amseroedd arwain
1.8 defnydd o adnoddau
1.9 gwelliant ym modlonrwydd cwsmeriaid

2. Cynhyrchu/cyfrannu at welliannau mewn gweithdrefnau gweithredu safonol presennol ar gyfer tri o’r canlynol:
2.1 gwasanaeth i gwsmeriaid
2.2 arferion iechyd a diogelwch
2.3 ansawdd cynnyrch
2.4 glanhau cyfarpar/gofod gweithio
2.5 gweithdrefnau proses
2.6 cynnal a chadw cyfarpar
2.7 gweithrediadau gweithgynhyrchu
2.8 datblygu staff

3. Creu a/neu ddiweddaru rheolaeth weledol sy’n hyrwyddo chwech o’r canlynol:
3.1 cynhyrchu byrddau cysgodol i safoni storio a lleoli cyfarpar
3.2 codau lliw ar gyfer cyfarpar
3.3 diogelwch
3.4 mesurau perfformiad
3.5 system rheoli darnau
3.6 dim diffygion
3.7 byrddau rheoli prosesau
3.8 matricsau sgiliau
3.9 pryderon ynghylch prosesau neu gamau cywiro
3.10 trefniadaeth y gweithle
3.11 lleoliadau lle mae gwaith yn digwydd a meintiau (WIP)
3.12 datrys problemau (fel byrddau Kaizen)
SEMPEO2-64 Cynnal gweithgarwch gwella busnes 4
SEMPEO2-64
Cynnal gweithgarwch gwella busnes

3.13 gweithdrefnau gweithredu safonol
3.14 taflenni gwaith cynnal a chadw awtonomaidd

4. Penderfynu a chyfrifo pob un o’r canlynol:
4.1 heb fod yn iawn y tro cyntaf
4.2 cyflawni’r amserlen ar gyfer cwblhau
Ynghyd ag un arall o’r canlynol:
4.3 rhannau fesul awr gweithredwr (PPOH)
4.4 effeithiolrwydd cyffredinol cyfarpar (OEE)
4.5 gwerth y pen a ychwanegir (VAPP)
4.6 troeon stoc
4.7 dadansoddi’r gost o ran llafur, deunyddiau a gorbenion
4.8 defnydd o ofod llawr (FSU)

5. Cofnodi a chyflwyno’r cofnodion o weithgarwch gwella busnes i’r bobl briodol gan ddefnyddio:
5.1 adroddiadau llafar gan ddefnyddio cymhorthion gweledol fel siartiau troi a byrddau gwyn
Ynghyd ag un dull o’r canlynol:
5.2 adroddiad ysgrifenedig neu wedi’i deipio
5.3 cyflwyniad ar gyfrifiadur
5.4 dogfennaeth benodol y cwmni


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Rhag 2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SEMTA

URN gwreiddiol

64

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianegol, Technolegau peirianegol a gweithgynhyrchu

Cod SOC

2112

Geiriau Allweddol

Peirianneg, gweithrediadau peirianyddol, gweithgarwch gwella busnes, gweithgynhyrchu, archwiliad 5S/5C, gwastraff, gwerth heb ei ychwanegu, Gweithdrefn Gweithredu Safonol, system rheoli gweledol, dangosydd perfformiad allweddol