Sicrhau bod y camau a gymerwch yn lleihau’r risg i iechyd a diogelwch

URN: PROHSS1W
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar: 30 Ebr 2007

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrifoldebau iechyd a diogelwch pawb yn eich gweithle. Mae’n disgrifio’r cymwyseddau gofynnol ar gyfer sicrhau:

nad yw eich camau gweithredu yn creu unrhyw beryglon o ran iechyd a diogelwch, nad ydych yn anwybyddu risgiau sylweddol yn eich gweithle, ac eich bod yn cymryd camau call i unioni pethau, gan gynnwys: rhoi gwybod am sefyllfaoedd a allai fod yn beryglus i bobl yn y gweithle a cheisio cyngor.

Mae deall y termau “perygl”, “risg” a “rheoli” yn elfennau hanfodol o’r uned hon.

Mae’r uned hon yn cynnwys y gweithgareddau canlynol:

Adnabod y peryglon a gwerthuso’r risgiau yn eich gweithle
Lleihau’r risgiau i iechyd a diogelwch yn eich gweithle

Grŵp Targed

Mae’r safon hon ar gyfer pawb yn y gwaith (boed y rheini'n gyflogedig, yn wirfoddol, yn amser llawn neu'n rhan-amser). Mae’n ymwneud â sylweddoli beth yw'r risgiau sylweddol yn eich gweithle, gwybod sut mae adnabod y risgiau hynny a sut mae delio â hwy.

Daw’r safon hon o’r gyfres o safonau’r Sefydliad Hyfforddi Cenedlaethol ar gyfer Cyflogaeth (ENTO) (yr hen NTO Cyflogaeth).


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Adnabod y peryglon a gwerthuso’r risgiau yn eich gweithle


1. nodi pa gyfarwyddiadau ar gyfer y gweithle sy’n berthnasol i’ch gwaith
2. nodi’r arferion gweithio hynny yn eich swydd a allai eich niweidio chi neu bobl eraill
3. nodi’r agweddau hynny yn eich gweithle a allai eich niweidio chi neu bobl eraill
4. gwirio pa arferion gweithio ac agweddau yn eich gweithle a allai fod yn niweidiol sy’n peri’r risgiau mwyaf i chi neu i bobl eraill
5. delio â’r peryglon yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithle a'r gofynion cyfreithiol
6. enwi a lleoli’n gywir y bobl sy’n gyfrifol am iechyd a diogelwch yn eich gweithle
7. rhoi gwybod i’r bobl sy’n gyfrifol am iechyd a diogelwch yn eich gweithle am y peryglon hynny sy’n peri’r risg fwyaf

Lleihau’r risgiau i iechyd a diogelwch yn eich gweithle

8. gwneud eich gwaith yn unol â lefel eich cymhwysedd, cyfarwyddiadau’r gweithle, cyfarwyddiadau cyflenwyr neu wneuthurwyr a’r gofynion cyfreithiol
9. rheoli’r risgiau iechyd a diogelwch hynny o fewn eich gallu a chyfrifoldebau’ch swydd
10. trosglwyddo awgrymiadau ar gyfer lleihau’r risgiau i iechyd a diogelwch i’r bobl gyfrifol
11. sicrhau nad yw eich ymddygiad yn peryglu eich iechyd a’ch diogelwch chi’ch hun nac iechyd a diogelwch pobl eraill yn eich gweithle
12. dilyn cyfarwyddiadau’r gweithle a chyfarwyddiadau’r cyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer defnyddio offer, deunyddiau a chynnyrch mewn ffordd ddiogel
13. rhoi gwybod am unrhyw wahaniaethau rhwng cyfarwyddiadau’r gweithle a chyfarwyddiadau’r cyflenwyr neu’r gwneuthurwyr
14. sicrhau bod eich ymarweddiad a’ch ymddygiad personol yn y gwaith: yn diogelu’ch iechyd a’ch diogelwch chi ac eraill, yn bodloni unrhyw gyfrifoldebau cyfreithiol, ac yn dilyn cyfarwyddiadau’r gweithle
15. sicrhau eich bod yn dilyn arferion gweithio ecogyfeillgar


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Gofynion cyfreithiol a gofynion y sefydliad​

*
*

1. beth yw “peryglon” a “risgiau” 2. eich cyfrifoldebau a’ch dyletswyddau cyfreithiol o ran iechyd a diogelwch yn y gweithle 3. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel sy'n ofynnol gan y gyfraith sy'n ymwneud â rôl eich swydd 4. y peryglon sydd yn eich gweithle a’r arferion gweithio diogel y mae’n rhaid i chi eu dilyn 5. y peryglon iechyd a diogelwch penodol a allai fod yn bresennol yn eich swydd eich hun a’r rhagofalon y mae’n rhaid i chi eu dilyn 6. pwysigrwydd bod yn effro bob amser i’r peryglon a all fod yn bresennol yn y gweithle drwyddo draw 7. pwysigrwydd delio â risgiau, neu roi gwybod amdanynt yn ddi-oed 8. cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch yn eich disgrifiad swydd 9. yr arferion gweithio diogel ar gyfer eich swydd eich hun 10. y bobl gyfrifol y dylech roi gwybod iddynt am faterion iechyd a diogelwch 11. ymhle y mae cymorth ychwanegol ar gael ar gyfer iechyd a diogelwch a pha bryd y dylid ceisio’r cymorth hwnnw 12. eich cwmpas a’ch cyfrifoldeb o ran rheoli risgiau 13. cyfarwyddiadau’r gweithle ar gyfer rheoli risgiau na allwch chi ddelio â hwy 14. cyfarwyddiadau y mae’n rhaid i chi eu dilyn gan gyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer defnyddio offer, deunyddiau a chynnyrch mewn ffordd ddiogel 15. pwysigrwydd ymarweddiad personol o ran sicrhau iechyd a diogelwch yn eich gweithle 16. pwysigrwydd ymddygiad personol o ran sicrhau eich iechyd a’ch diogelwch chi ac iechyd a diogelwch pobl eraill 17. y risgiau i’r amgylchedd a allai fod yn bresennol yn eich gweithle a/neu yn eich swydd chi’ch hun

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Ebr 2012

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ENTO

URN gwreiddiol

HSS1

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Iechyd, Diogelwch, Camau gweithredu, Lleihau, Sylweddol, Risgiau; Arweinyddiaeth ym maes y Celfyddydau; Celfyddydau Cymunedol; Celfyddydau Cyfranogol; Gweinyddu’r Celfyddydau; Ffasgau; gosod; bondoeau; estyll tywydd; domestig; Hapchwarae; lleoliad; Crefft