Cynghori a hyfforddi cwsmeriaid ar ddefnyddio cyfleusterau ar-lein

URN: PPLTT53
Sectorau Busnes (Suites): Teithio a Thwristiaeth
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chynghori a helpu cwsmeriaid i ddefnyddiocyfleusterau ar y we sydd ar gael iddynt yn eich sefydliad chi. Mae hyn yn cynnwys eu defnydd nhw o, er enghraifft, llechi, podiau ac apiau ar ffonau symudol, a sut y gall y cwsmeriaid ddefnyddio’r rhain i bori ac ymchwilio i gynhyrchion a gwasanaethau, i wirio a yw cynhyrchion a gwasanaethau ar gael, i fwcio neu brynu cynhyrchion a gwasanaethau, a lle bo’n briodol, i dalu am y pethau maen nhw’n eu prynu.

Wrth helpu, neu hyfforddi, cwsmeriaid i ddefnyddio’r cyfleusterau ar y we, bydd angen ichi ddangos y prosesau ar-lein mewn modd sy’n hybu dealltwriaeth ac sy’n sensitif i ddealltwriaeth bresennol gwahanol gwsmeriaid o dechnoleg ar-lein, a’u hagwedd ati.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. gweithredu’r holl agweddau ar gyfleusterau perthnasol eich sefydliad o ran ymchwilio a gwerthu ar y we yn gywir ac yn hyderus
2. canfod anghenion y cwsmeriaid wrth ddefnyddio’r cyfleusterau ar y we a lefel eu dealltwriaeth o ran sut i ddefnyddio’r cyfleusterau  
3. hybu defnyddio cyfleusterau’ch sefydliad ar y we gyda brwdfrydedd, gan gysylltu eu nodweddion a’u buddion ag anghenion perthnasol eich cwsmeriaid 
4. pennu ac esbonio’n glir ac yn gywir y defnydd o’r cyfleusterau ar y we i ddiwallu anghenion eich cwsmeriaid
5. pennu ac esbonio’r defnydd o’r cyfleusterau mewn modd sy’n hybu dealltwriaeth ac sy’n briodol i werthfawrogiad presennol eich cwsmeriaid o’r dechnoleg sy’n cael ei dangos a’u hagwedd bresennol ati  
6. annog y cwsmeriaid i ofyn cwestiynau, gwirio eu bod yn deall, ac ymateb mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo gwerthiannau ac ewyllys da
7. annog y cwsmeriaid i weithredu’r cyfleusterau ar y we fel sy’n briodol i’w hanghenion o ran dysgu a lefel eu hyder 
8. ceisio adborth oddi wrth y cwsmeriaid ar eu profiad o ddefnyddio cyfleusterau’ch sefydliad ar y we, ac ymateb yn briodol
9. defnyddio’r adborth yn adeiladol wrth roi gwybod i’r person perthnasol am sylwadau cadarnhaol ac unrhyw agweddau mae angen eu gwella


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. sut i weithredu’r ystod o gyfleusterau ​ar y we ar gyfer ymchwilio a gwerthu sydd ar gael yn eich sefydliad, gan gynnwys unrhyw apiau i ffonau symudol
2. nodweddion y cyfleusterau ar y we ar gyfer ymchwilio a gwerthu a’u buddion cysylltiedig, i’ch cwsmeriaid ac i’ch sefydliad
3. effaith manwerthu amlsianel ar werthu yn eich sefydliad, gan gynnwys ei effaith ar allu’ch cwsmeriaid i ymchwilio i gynhyrchion, a’u harchebu, oddi wrth eich sefydliad chi a’i gystadleuwyr
4. pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng dangos y cyfleusterau, hyfforddi a gweithgarwch y cwsmeriaid wrth eu gweithredu, fel sy’n briodol i lefelau medrusrwydd, agwedd a hyder y cwsmeriaid  
5. sut mae’r cwsmeriaid yn dysgu ac yn datblygu eu sgiliau wrth ddefnyddio’r dechnoleg ar y we 
6. gwahanol ddulliau dysgu a’u heffaith o ran hyfforddi’r cwsmeriaid ar ddefnyddio cyfleusterau ar-lein
7. arferion a gofynion eich sefydliad ynghylch cynghori a hyfforddi cwsmeriaid ar ddefnyddio cyfleusterau ar y we


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Teilwra

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLMCR16

Galwedigaethau Perthnasol

Ymgynghorydd Teithiau Busnes, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Ymgynghorydd Teithiau Hamdden, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ar-lein, cwsmer, gwe, rhyngrwyd, ar y we, amlsianel, hyfforddi, gwerthu