Trefnu a chyflawni gweithgareddau hyrwyddo teithio a thwristiaeth

URN: PPLTT42
Sectorau Busnes (Suites): Teithio a Thwristiaeth
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn disgrifio'r cymhwysedd angenrheidiol i gynllunio, cyflawni a gwerthuso gweithgareddau hyrwyddo sy'n gysylltiedig â theithio a thwristiaeth. Gallant fod yn weithgareddau lleol untro, yn rhan o gyfres o weithgareddau a/neu'n rhan o raglen fwy ar lefel genedlaethol y mae'n rhaid eu trefnu a'u cyflawni'n lleol. 

Argymhellir y safon hon i staff sy'n ymwneud â threfnu a chyflawni gweithgareddau hyrwyddo.​


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

**​Cynllunio gweithgareddau hyrwyddo:

1. fel bod nodau, amcanion a meini prawf llwyddiant y gweithgaredd hyrwyddo’n cael eu cytuno gyda’r person(au) perthnasol
2. fel bod cyfleoedd i sicrhau’r gweithgareddau hyrwyddo mwyaf posibl yn cael eu canfod
3. lle bo’n briodol, fel bod eraill yn cael eu hannog i gyfrannu syniadau ar gyfer y gweithgaredd hyrwyddo
4. fel bod yr holl adnoddau angenrheidiol ar gyfer y gweithgaredd hyrwyddo’n cael eu hadnabod ac y sicrheir eu bod ar gael
5. fel bod logisteg realistig ar gyfer y gweithgaredd hyrwyddo’n cael eu cynnwys yn y cynllun
6. fel bod gweithgareddau’n cael eu cynllunio i ddiwallu anghenion y sefydliad, i ddilyn ei weithdrefnau ac i fodloni’r gofynion cyfreithiol
7. fel bod y cynlluniau’n cynnwys trefniadau wrth gefn i gymryd i ystyriaeth unrhyw broblemau y gellir eu rhagweld
8. fel bod y cynlluniau’n cael eu cyflwyno mewn fformat sy’n addas i anghenion pawb arall sy’n ymwneud â’r gweithgaredd
9. fel bod trefniadau addas yn cael eu gwneud i werthuso’r gweithgaredd hyrwyddo

Cyflawni gweithgareddau hyrwyddo:

**

10. fel bod y gweithgaredd hyrwyddo a’r gwerthusiad yn cael eu cyflawni’n unol â’r cynllun cytunedig
11. fel bod adnoddau hyrwyddo addas ar gael ac yn diwallu anghenion y gweithgaredd o ran nifer ac ansawdd
12. fel bod unrhyw broblemau’n cael eu canfod a’u datrys er mwyn tarfu cyn lleied ag sy’n bosibl
13. fel y rhoddir gwybod am unrhyw newidiadau angenrheidiol i’r cynllun i bawb mae hyn yn effeithio arnynt

**Gwerthuso a diwygio gweithgareddau hyrwyddo:

**

14. fel y caiff y gweithgareddau eu gwerthuso yn erbyn yr amcanion a’r meini prawf llwyddiant sydd wedi’u cynllunio
15. fel y rhoddir gwybod am ganlyniadau’r gwerthusiad yn brydlon, yn glir ac yn gywir i’r person(au) perthnasol
16. fel bod canlyniadau’r gwerthusiad yn cael eu defnyddio i lywio’r math o weithgareddau hyrwyddo yn y dyfodol, y defnydd ohonynt a’u cynnwys
17. fel bod argymhellion ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol yn cael eu cefnogi gan y wybodaeth yn y gwerthusiad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

**Gwybodaeth a dealltwriaeth cyffredinol

1. rolau gweithgareddau hyrwyddo yng nghyd-destun ehangach marchnata cynhyrchion a gwasanaethau 

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r diwydiant

**

2. beth sy’n ysgogi busnesau teithio a thwristiaeth i gyflawni gweithgareddau hyrwyddo
3. y ffactorau sy’n effeithio ar lwyddiant gweithgareddau hyrwyddo ym maes teithio a thwristiaeth
4. y ddeddfwriaeth a’r rheoleiddio sy’n berthnasol i’r gweithgaredd sy’n cael ei gynllunio a’i gyflawni
5. digwyddiadau lleol a chenedlaethol posibl a allai ddarparu cyfleoedd i gyflawni gweithgareddau hyrwyddo

**Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r cyd-destun

**

6. y math o weithgareddau hyrwyddo a gyflawnir gan y sefydliad
7. sut i gyflawni gweithgareddau hyrwyddo yn unol â gweithdrefnau ac amcanion y sefydliad
8. sut i gyflawni gweithgareddau hyrwyddo mewn digwyddiadau lleol neu genedlaethol
9. y meini prawf llwyddiant a ddefnyddir gan y sefydliad i fesur effaith gweithgareddau hyrwyddo
10. nodweddion y cynhyrchion a gwasanaethau teithio a thwristiaeth sydd i gael eu hyrwyddo
11. gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer cael a diogelu adnoddau hyrwyddo
12. canlyniadau gweithgareddau hyrwyddo blaenorol a gyflawnwyd gan y sefydliad


Cwmpas/ystod

Adnoddau: amser, arian, pobl, deunyddiau, lleoliad/gofod, technoleg, cyfryngau

Gofynion cyfreithiol: iechyd, diogelwch, cyfrinachedd, asesu risg, disgrifiad masnach

Cynlluniau: nodau, amcanion, gweithgareddau, adnoddau, meini prawf llwyddiant, cludiant, amserlenni ac amseriadau, costio, rolau a chyfrifoldebau, dulliau gwerthuso

Adnoddau hyrwyddo: deunyddiau arddangos, deunyddiau gwybodaeth, technoleg, cyfryngau, rhoddion neu bethau i'w rhoi am ddim


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Cydweithio â phobl eraill i lunio a gweithredu cynllun

  2. Sicrhau cefnogaeth pobl eraill sy'n ymwneud â chyflawni'r gweithgaredd hyrwyddo

  3. Hybu adborth oddi wrth gydweithwyr a chwsmeriaid


Sgiliau


Geirfa

​Mae digwyddiadau lleol a chenedlaethol yn cynnwys digwyddiadau
mae’r sefydliad yn rhoi cychwyn iddynt neu’n eu trefnu yn ogystal â ffeiriau masnach, sioeau ac arddangosfeydd y diwydiant, digwyddiadau cymunedol lleol, digwyddiadau elusennol a digwyddiadau cysylltiedig.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLTT42

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Ymgynghorydd Teithiau Busnes, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Ymgynghorydd Teithiau Hamdden

Cod SOC


Geiriau Allweddol

trefnu, gweithredu, cyflawni, teithio, twristiaeth, hyrwyddo, gweithgareddau, digwyddiadau