Creu a chynnal proffiliau cwsmeriaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'r cymhwysedd sy'n ofynnol i ddatblygu a chynnal proffiliau cwsmeriaid i deithwyr. Mae proffiliau o'r fath yn cael eu defnyddio i lywio a darparu gwybodaeth ar gyfer argymell a bwcio trefniadau teithio i'r unigolyn dan sylw. Maen nhw hefyd yn werthfawr iawn wrth farchnata cynhyrchion a gwasanaethau teithio a thwristiaeth, gan ei gwneud yn bosibl i weld tueddiadau o ran teithio a chanfod anghenion a dewisiadau'r cwsmeriaid yn brydlon.
Argymhellir y safon i unrhyw un sy'n cysylltu â chwsmeriaid ac sydd mewn sefyllfa i gael gwybodaeth cwsmeriaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
**Cael manylion teithiau cwsmeriaid:
**
fel bod manylion cyswllt y cwsmeriaid yn gywir ac yn gyfredol
fel bod y wybodaeth am ddewisiadau personol y teithiwr o ran teithiau a data am ei ddogfennau teithio'n gywir ac yn gyfredol
fel y cadarnheir bod unrhyw wybodaeth sydd i gael ei defnyddio'n dal i fod yn gywir ac yn gyfredol cyn llunio neu ddiweddaru proffil y cwsmer
fel bod yr holl wybodaeth yn cael ei chadw'n ddiogel ac ar gael i bobl awdurdodedig yn unig gan ddilyn gweithdrefnau'ch sefydliad
Llunio a chynnal proffiliau teithiau cwsmeriaid:**
*
*
fel bod data am ddogfennau personol teithwyr yn cael eu cofnodi'n gywir a'u diweddaru wrth ymateb i newidiadau
fel bod cynnwys y proffil yn gydnaws ag arlwy'ch sefydliad o ran teithiau ac argaeledd y cyflenwyr
fel bod cynnwys y proffil yn adlewyrchu gofynion a dewisiadau'r cwsmeriaid yn gywir o fewn terfynau unrhyw bolisi teithio cytunedig
fel y cytunir ar y proffil gyda'r person(au) perthnasol cyn mewnbynnu'r wybodaeth ar system eich sefydliad
fel bod y proffil yn y fformat gofynnol
fel bod y proffil gorffenedig a chytunedig yn cael ei storio'n ddiogel gan ddilyn gweithdrefnau'ch sefydliad
fel bod y proffil ar gael ac yn hygyrch i'r holl bobl awdurdodedig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant
**
buddion proffiliau teithiau
sut a ble i gael gafael ar wybodaeth fanwl am gynhyrchion a gwasanaethau'r cyflenwyr
pwysigrwydd sicrhau bod ffeiliau'n gyfredol ac o dan ba amgylchiadau y bydd angen eu diweddaru
pwysigrwydd cofnodi data 'yn gywir y tro cyntaf'
pwysigrwydd sicrhau bod eich proffiliau'n gydnaws â'r arlwy teithiau ac argaeledd cyflenwyr
pam ei bod yn bwysig gwirio manylion proffiliau a'r person y dylech gytuno ag ef ar unrhyw ddiwygiadau
yr angen am gyfrinachedd a goblygiadau deddfwriaeth diogelu data
sut i gael budd o gynlluniau teyrngarwch cyflenwyr
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r cyd-destun**
*
*
ffynonellau gwybodaeth bersonol o'r tu mewn i sefydliadau'ch cwsmeriaid
math, maint ac ansawdd y wybodaeth bersonol i'w chasglu
y person y dylech gadarnhau cywirdeb data gydag ef
polisi cytunedig a chyfredol eich cwsmeriaid ar deithio
y fformat gofynnol ar gyfer proffiliau cwsmeriaid
pwy all weld proffiliau cwsmeriaid
sut mae'r cwsmeriaid yn cyrchu ac yn rheoli eu proffiliau electronig
gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad i gadw data'r cwsmeriaid yn ddiogel
sut i gyrchu a defnyddio System Dosbarthu Byd-eang (Global Distribution System / GDS) eich sefydliad
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r cyd-destun (busnes yn unig)
**
- y berthynas a'r rhyng-ddibyniaeth rhwng proffil personol y teithiwr corfforaethol a phroffil y busnes mae'r teithiwr yn gweithio iddo
Cwmpas/ystod
Manylion cyswllt: enw a theitl, cyfeiriad/au perthnasol, rhifau ffôn, manylion cyfathrebu electronig, adran o'r sefydliad
Dewisiadau personol o ran teithio: seddi, math o ystafell, llogi ceir, cwmni hedfan, maes awyr ymadael, smygu, diet, gofynion o ran symudedd, gofynion o ran golwg a chlyw
Data dogfennau teithio: rhif a dyddiad dod i ben y pasbort, cenedligrwydd, fisâu a ddelir, tystysgrifau brechu a ddelir a'r dyddiadau y dônt i ben, ardystiadau mynediad cyfyngedig, manylion yswiriant
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cwsmeriaid
I fusnesau twristiaeth a theithiau hamdden, yn aml y teithiwr unigol fydd y cwsmer. I fusnesau teithiau corfforaethol neu fusnes, y teithiwr unigol a hefyd y cwmni mae'r teithiwr yn gweithio iddo fydd y cwsmer.