Monitro a datrys problemau gwasanaethau cwsmeriaid sy’n codi dro ar ôl tro

URN: PPLTT24
Sectorau Busnes (Suites): Teithio a Thwristiaeth
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r rhan o’ch swydd sy’n cynnwys cysylltu â chwsmeriaid wrth ymateb i broblemau gwasanaethau cwsmeriaid sy’n codi dro ar ôl tro neu sy’n parhau.

Mae’n ymwneud â nodi problemau gwasanaethau cwsmeriaid sy’n codi dro ar ôl tro a’u datrys yn effeithiol. Mae hefyd yn ymwneud â newid systemau er mwyn osgoi problemau gwasanaethau cwsmeriaid sy’n codi dro ar ôl tro a sut yr ydych yn gwneud argraff ar y cwsmeriaid trwy ddatrys y problemau hynny’n effeithiol ac yn effeithlon.

Nid yw’r safon yn ymwneud â datrys problemau cwsmeriaid (fel tocynnau coll neu broblemau meddygol). Mae’n berthnasol lle mae cwsmeriaid yn teimlo nad ydynt wedi cael gwasanaeth boddhaol gan eich sefydliad.


Argymhellir y safon i’r staff sy’n ymwneud â chwsmeriaid sydd â phroblemau o ran y gwasanaeth a ddarperir.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Adnabod problemau gwasanaethau cwsmeriaid sy'n codi dro ar ôl tro ac opsiynau ar gyfer eu datrys


**1. adnabod problemau gwasanaethau cwsmeriaid sy'n codi dro ar ôl tro

2. adnabod yr opsiynau ar gyfer ymdrin â phroblem gwasanaethau cwsmeriaid sy'n codi dro ar ôl tro ac ystyried manteision ac anfanteision pob opsiwn
3. cydweithio ag eraill i ddewis yr opsiwn gorau er mwyn datrys problem gwasanaethau cwsmeriaid sy'n codi dro ar ôl tro, gan gydbwyso disgwyliadau'r cwsmer ag anghenion eich sefydliad
4. datrys problemau o ran systemau a gweithdrefnau'r gwasanaethau a allai effeithio ar y cwsmeriaid cyn iddynt ddod i wybod amdanynt

**Cymryd camau i sicrhau nad yw problemau gwasanaethau cwsmeriaid yn codi dro ar ôl tro

**

  1. cael cymeradwyaeth rhywun ag awdurdod digonol i newid canllawiau'r sefydliad er mwyn lleihau'r tebygolrwydd y bydd y broblem yn codi eto
    6. rhoi eich datrysiad cytunedig ar waith
    7. rhoi gwybod i'ch cwsmeriaid mewn ffordd gadarnhaol a chlir am y camau sy'n cael eu cymryd i ddatrys unrhyw broblemau â'r gwasanaeth
    8. monitro'r newidiadau a wnaethoch a'u haddasu os yw'n briodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

*Gwybodaeth a dealltwriaeth cyffredinol
*


1. gweithdrefnau a systemau’r sefydliad ar gyfer delio â phroblemau gwasanaethau cwsmeriaid
2. gweithdrefnau a systemau’r sefydliad ar gyfer adnabod problemau gwasanaethau cwsmeriaid sy’n codi dro ar ôl tro
3. canlyniadau posibl gwasanaethau cwsmeriaid sy’n methu dro ar ôl tro
4. effaith problemau gwasanaethau cwsmeriaid sy’n codi dro ar ôl tro ar gontractau neu gytundebau eraill â chwsmeriaid
5. sut mae datrys problemau gwasanaethau cwsmeriaid yn llwyddiannus yn cyfrannu at deyrngarwch cwsmeriaid gyda’r cwsmer allanol, a gwell perthnasoedd gweithio â phartneriaid gwasanaeth neu gwsmeriaid mewnol
6. sut i negodi â chwsmeriaid a rhoi tawelwch meddwl iddynt tra bo’u problemau’n cael eu datrys


Cwmpas/ystod

​Problemau: tynnwyd eich sylw atynt gan gwsmeriaid, neu cawsant eu hadnabod yn gyntaf gennych chi a/neu gan gydweithiwr; gwahaniaeth rhwng disgwyliadau'r cwsmer a chynhyrchion neu wasanaethau eich sefydliad, methiant system neu weithdrefn, prinder adnoddau neu gamgymeriad dynol, gwahaniaeth rhwng cytundebau â chwsmeriaid (e.e. cytundebau lefel gwasanaeth, contractau) a'r gwasanaeth a gânt

Opsiynau: dilyn gweithdrefnau neu ganllawiau ffurfiol y sefydliad, gwneud eithriadau awdurdodedig cytunedig i'r arferion arferol


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

​1. Ymchwilio i broblemau gwasanaethau cwsmeriaid
2. Defnyddio sgiliau negodi a chyfathrebu wrth ddod o hyd i ddatrysiadau posibl i broblemau gwasanaethau cwsmeriaid
3. Datrys problemau gan gynnal ewyllys da'r cwsmeriaid


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Teilwra

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

ICS Unit 32

Galwedigaethau Perthnasol

Ymgynghorydd Teithiau Busnes, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Ymgynghorydd Teithiau Hamdden, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

monitro, datrys, gwasanaethau cwsmeriaid, problemau