Gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth

URN: PPLTT13
Sectorau Busnes (Suites): Teithio a Thwristiaeth
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Mae’r safon hon yn disgrifio’r cymhwysedd sy’n ofynnol i werthu amrywiaeth o gynhyrchion a gwasanaethau, a all gynnwys llety, arweinlyfrau, mapiau, cofroddion, tocynnau, teithiau a thrafnidiaeth.

Argymhellir y safon i staff sy’n gwerthu nwyddau a gwasanaethau i gwsmeriaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

*​Canfod gofynion eich cwsmeriaid:
*

1. fel bod opsiynau, cynhyrchion a gwasanaethau twristiaeth addas sy’n cyd-fynd orau ag anghenion eich cwsmeriaid yn cael eu hadnabod a’u cynnig
2. fel bod cyfleoedd yn cael eu hadnabod a’u defnyddio i werthu cynhyrchion a gwasanaethau twristiaeth ychwanegol ar adeg addas yn y drafodaeth gyda’ch cwsmeriaid
3. fel bod dewisiadau eraill sy’n berthnasol i’w cais yn cael eu cynnig i’r cwsmeriaid
4. fel bod camau addas yn cael eu cymryd os na ellir ateb ymholiadau’r cwsmeriaid

Hyrwyddo nodweddion a buddion cynhyrchion a gwasanaethau twristiaeth:

5. fel bod nodweddion cynhyrchion a gwasanaethau twristiaeth sy’n cyd-fynd ag anghenion eich cwsmeriaid yn gywir yn cael eu hesbonio’n glir
6. fel bod buddion yn cael eu hyrwyddo’n glir, yn gywir ac mewn ffordd sy’n ennyn rhagor o ddiddordeb gan eich cwsmeriaid
7. fel bod cyfleoedd yn cael eu rhoi i’r cwsmeriaid drafod ac ymchwilio’n llawn i nodweddion a buddion
8. fel bod telerau, amodau a gofynion cyfreithiol perthnasol ynghylch y gwerthiant yn cael eu disgrifio’n glir

Sicrhau’r gwerthiant:

9. fel y gofynnir am fwriad y cwsmeriaid i brynu ar adeg addas yn eich trafodaeth
10. fel eich bod yn ymateb os oes gan y cwsmer wrthwynebiadau neu rwystrau i brynu, ac yn goresgyn y gwrthwynebiadau a’r rhwystrau
11. fel bod y cwsmeriaid yn cael tawelwch meddwl ar ôl dewis yr hyn maent am ei brynu
12. fel bod cynhyrchion a gwasanaethau twristiaeth ychwanegol yn cael eu canfod a’u gwerthu’n effeithiol
13. fel bod cyfanswm cost yr holl gynhyrchion a gwasanaethau yn cael ei roi i’r cwsmeriaid
14. fel bod y gwerthiant yn dilyn gweithdrefnau’ch sefydliad ac yn bodloni’r gofynion cyfreithiol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth cyffredinol

1. ffynonellau gwybodaeth (electronig, papur, cydweithwyr) ynghylch  cynhyrchion a gwasanaethau a sut i’w defnyddio a’u dehongli
2. sut i ddefnyddio sgiliau gwrando a thechnegau cwestiynu agored a chaeedig i ganfod anghenion y cwsmeriaid
3. sut i ddefnyddio technegau gwerthu i sicrhau gwerthiannau, gan gynnwys meithrin perthynas; ymchwilio i anghenion; paru anghenion a dymuniadau; cyflwyno nodweddion a buddion; cynnig dewisiadau eraill; ennyn ymrwymiad a sicrhau’r gwerthiant
4. sut i gyfathrebu’n effeithiol â chwsmeriaid mewn sefyllfa gwerthu
5. yr angen am gyfrinachedd a goblygiadau deddfwriaeth diogelu data
6. y rhannau perthnasol o’r ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail anabledd a’i goblygiadau wrth roi cyngor a gwybodaeth i’r cwsmeriaid 
7. prif ofynion deddfwriaeth wrth ymdrin â’r cwsmeriaid

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r diwydiant

8. enwau a lleoliad nodweddion daearyddol allweddol yn eich rhanbarth lleol a’r wlad rydych yn gweithio ynddi (e.e. mynyddoedd a chadwyni o fynyddoedd o bwys, dyfrffyrdd o bwys, nodweddion allweddol o waith dyn, ynysoedd a grwpiau o ynysoedd, parciau cenedlaethol)
9. lleoliad y mannau mae pobl yn ymweld â nhw amlaf yn eich rhanbarth lleol a’r wlad rydych yn gweithio ynddi
10. y rhesymau mwyaf cyffredin dros ymweld â mannau yn eich rhanbarth lleol a’r wlad rydych yn gweithio ynddi e.e. iechyd a llesiant, gwyliau gweithgareddau neu antur
11. lleoliad atyniadau o bwys i dwristiaid a digwyddiadau arbennig yn eich rhanbarth lleol a’r wlad rydych yn gweithio ynddi e.e. gwyliau 
12. y mathau o drafnidiaeth a thocynnau sydd ar gael yn eich ardal leol
13. y gwahaniaeth rhwng graddau swyddogol a chategorïau llety
14. y gwahanol fathau o lety, e.e. gwestai, hunanddarpar, tai llety a llety gwely a brecwast, meysydd carafanau a gwersylla a chanolfannau gwyliau; mathau o ystafelloedd, cyfleusterau a threfniadau prydau bwyd
15. y gwahanol ddulliau o fwcio a thalu am lety, gan gynnwys goblygiadau bwciadau wedi’u gwarantu
16. strwythur y diwydiant twristiaeth lleol
17. y prif ddarparwyr gwasanaethau a’u cynhyrchion, e.e. cwmnïau fferi a’u llwybrau 
18. comisiynau a ffioedd bwcio – beth ydynt a pham mae angen eu codi
19. sut i gyfrifo comisiynau a ffioedd bwcio
20. prif gymdeithasau masnach y diwydiant, eu prif ddibenion a’r buddion i’ch cwsmeriaid
21. sut a phryd i ddefnyddio’r wyddor ffonetig
22. sut i ddarllen a dehongli mapiau er mwyn adnabod porthladdoedd o bwys, cyrchfannau twristiaeth, prifddinasoedd, dinasoedd mawr ac unrhyw grwpiau o ynysoedd yn y wlad rydych yn gweithio ynddi a’r rhai sy’n berthnasol i’ch rhanbarth lleol
23. sut i ddefnyddio a dehongli gwefannau, llyfrynnau hysbysebu ac amserlenni er mwyn darparu gwybodaeth a chostiadau
24. sut i adnabod a dehongli amodau bwcio a chyfyngiadau penodol sy’n ymwneud â’r cynhyrchion a’r gwasanaethau a gynigir gan eich sefydliad
25. pam ei bod yn bwysig sicrhau bod y wybodaeth a roddir i’r cwsmeriaid yn gywir ac yn gyfredol
26. canlyniadau camliwio (e.e. yng nghyd-destun newidiadau a/neu ddiweddariadau i lyfrynnau hysbysebu a gwefannau) yn ystod trafodaethau gyda’r cwsmeriaid

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r cyd-destun

27. sut y gellir cyfuno’r pecyn o wasanaethau twristiaeth a gwasanaethau ychwanegol i gyd-fynd ag anghenion y cwsmeriaid
28. pa yswiriant sy’n gysylltiedig â’r cynhyrchion a’r gwasanaethau rydych yn eu gwerthu a’r pris
29. gofynion eich sefydliad ac unrhyw ofynion cyfreithiol o ran cynghori’r cwsmeriaid (e.e. gofynion yn ymwneud â manwerthu, amodau bwcio a gofynion o ran yswiriant, gan gynnwys y canllawiau rheoliadol cymwys cyfredol ar werthu yswiriant)
30. polisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad ynghylch gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau a phwysigrwydd eu dilyn 
31. pryd ac at bwy y dylid ailgyfeirio ymholiadau cwsmeriaid
32. eich prif gyfrifoldebau am roi gwybodaeth a chyngor o dan safonau gweithredu gofynnol eich sefydliad


Cwmpas/ystod

​Cynhyrchion: deunydd darllen, cofroddion, tocynnau, mapiau

Gwasanaethau: gwybodaeth i ymwelwyr, cyngor, cyfarwyddiadau

Gweithredu addas: gofyn i gydweithiwr am gymorth, cyfeirio cwsmeriaid at gydweithiwr addas, ymddiheuro am beidio â gallu bwrw ymlaen â phethau ymhellach


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

​1. Cyfarch y cwsmeriaid mewn ffordd brydlon, gyfeillgar a hyderus
2. Defnyddio technegau cwestiynu addas a sgiliau gwrando effeithiol
3. Crynhoi’ch dealltwriaeth o anghenion eich cwsmeriaid yn gywir
4. Dehongli arwyddion o brynu yn gywir a gweithredu arnynt
5. Hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau twristiaeth i’ch cwsmeriaid mewn ffordd gadarnhaol, gyfeillgar a chymwynasgar
6. Hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau twristiaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad
7. Ymdrin ag ymholiadau mewn ffordd sy’n hyrwyddo gwerthiannau a/neu geisiadau ac yn cynnal hyder eich cwsmeriaid


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLTT13

Galwedigaethau Perthnasol

Ymgynghorydd Teithiau Busnes, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Ymgynghorydd Teithiau Hamdden, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gwerthu, twristiaeth, cynhyrchion, gwasanaethau