Gwerthu gwasanaethau teithio wedi’u teilwra

URN: PPLTT12
Sectorau Busnes (Suites): Teithio a Thwristiaeth
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn disgrifio'r cymhwysedd sy'n ofynnol i adnabod, ymchwilio, llunio a chytuno ar drefniadau teithio wedi'u teilwra gyda chwsmeriaid. Mae cwsmeriaid yn dod yn fwyfwy gwybodus a gallant gael gafael ar fwy o wybodaeth am opsiynau ar gyfer teithio, gwyliau a chyrchfannau. Mae'r gallu i ddeall gofynion cwsmeriaid unigol yn llawn, canfod ac awgrymu trefniadau eraill ac opsiynau i wella profiadau'ch cwsmeriaid wrth deithio'n hanfodol er mwyn gallu creu pecynnau, rhai arbenigol yn aml, i ddiwallu eu hanghenion yn fanwl.  

Argymhellir y safon i unrhyw staff sydd angen creu pecynnau gwasanaethau teithio wedi'u teilwra, trwy gysylltu â chwsmeriaid wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy ddulliau electronig


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Adnabod ac ymchwilio i anghenion eich cwsmer o ran teithio:

  1. fel bod y cwsmeriaid yn cael amrywiaeth o opsiynau teithio cywir a gyflwynir yn glir oddi wrth wahanol gyflenwyr perthnasol
  2. fel bod anghenion y cwsmeriaid wedi cael eu deall, eu crynhoi a'u cadarnhau trwy ddefnyddio technegau cwestiynu priodol a gwrando effeithiol
  3. fel y rhoddir i'r cwsmeriaid yr holl opsiynau posibl i fodloni eu disgwyliadau yn y ffordd orau ac i wella eu profiad teithio
  4. fel y rhoddir gwybod i'r cwsmeriaid am yr holl opsiynau posibl a'u manteision 
  5. fel bod cofnodion addas o ymholiadau ac anghenion y cwsmeriaid yn cael eu cymryd a'u prosesu'n gywir

Llunio a chyflwyno gwasanaethau a chostiadau teithio wedi'u teilwra:
6. fel bod amserlenni a chostiadau teithio sy'n debygol o fodloni disgwyliadau'ch cwsmeriaid yn cael eu llunio gan ddefnyddio canlyniadau gwaith ymchwil
7. fel bod disgwyliadau'r cwsmeriaid yn cael eu bodloni ac fel bod amcanion eich sefydliad o ran gwerthiannau'n cael eu cyflawni trwy gynigion a gyflwynir i'r cwsmeriaid
8. fel y tynnir sylw at nodweddion a buddion penodol sy'n bodloni neu'n rhagori ar ofynion eich cwsmeriaid
9. fel y cyflwynir trefniadau eraill addas i'r cwsmeriaid lle nad yw'r cynigion yn bodloni eu gofynion gwreiddiol yn benodol
10. fel bod cynigion yn bodloni'r gofynion cyfreithiol a chodau ymarfer y diwydiant
11. fel bod dealltwriaeth y cwsmeriaid o'ch cynigion yn cael ei chadarnhau ac fel bod eu cwestiynau a'u gwrthwynebiadau'n cael eu hateb yn gywir

Trafod a chytuno ar y trafodyn:
12. fel bod pawb yn fodlon ar y cytundeb ynghylch cyflenwi'r gwasanaethau teithio
13. fel eich bod yn crynhoi ac yn cofnodi'n gywir y cytundeb y daethpwyd iddo
14. fel bod pob cytundeb a chofnod cytundeb yn cydymffurfio â gofynion
15. fel bod y cwsmeriaid yn cael tawelwch meddwl ar ôl dewis yr hyn maent am ei brynu
16. fel bod y trafodyn yn cael ei gwblhau, gan ddilyn gweithdrefnau'ch sefydliad a bodloni'r gofynion cyfreithiol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth cyffredinol
1. y mathau o yswiriant teithio sydd ar gael gan gynnwys faint sy’n cael ei yswirio, amodau, eithriadau a symiau cyntaf i’w talu gan ddeiliad y polisi
2. y cwestiynau i’w gofyn i ganfod cymhwysedd y cwsmeriaid ar gyfer yswiriant (e.e. ynghylch oedran, beichiogrwydd, hanes meddygol ac ati)
gofynion o ran Pasbort Dinesydd Prydeinig a Phasbort Deiliad Prydeinig ar gyfer ymadawiadau o’r Deyrnas Unedig
3. mathau o fisâu a ble i gael gwybodaeth am ofynion mynediad o ran fisâu a phasbortau
4. y gwahanol ofynion mynediad ar gyfer pobl sydd â phasbortau’r Undeb Ewropeaidd ac â phasbortau gwledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd i gyrchfannau o bwys ledled y byd
5. pa wybodaeth i’w rhoi i’r cwsmeriaid i’w galluogi i gael gwybod am y rhagofalon iechyd gorfodol ac argymelledig cyfredol 
6. ffynonellau arian tramor neu gardiau arian cyfred a sut i’w cael
7. cyfyngiadau ar fewnforion ac allforion a osodir gan rai gwledydd
8. termau a byrfoddau sylfaenol ym maes rhentu ceir
9. pam ei bod yn bwysig sicrhau bod y wybodaeth a roddir i’r cwsmeriaid yn gywir ac yn gyfredol
10. rôl cynigion clir a chywir wrth negodi a rhoi gwedd derfynol ar y trafodyn
11. sut i lunio a chyflwyno cynigion ysgrifenedig a llafar i’r cwsmeriaid ar gyfer teithiau wedi’u teilwra
12. sut i adnabod gofynion a disgwyliadau’ch cwsmeriaid
13. sut i atal anawsterau rhag codi o wahaniaeth rhwng cynigion a gofynion y cwsmeriaid a chyflwyno trefniadau eraill
14. sut i ragweld ymholiadau’r cwsmeriaid ynghylch y cynigion rydych wedi’u cyflwyno
15. sut i gyflwyno cynigion mewn ffordd sy’n briodol i’ch cwsmer
16. sut i esbonio amodau a chyfyngiadau bwcio perthnasol fel bod eich cwsmeriaid yn eu deall
17. sut i addasu cynigion a therfynau’ch awdurdod chi i wneud hynny
18. sut i adnabod agweddau ar gynigion nad ydynt wedi’u datrys
19. sut i ddylanwadu ar benderfyniadau’r cwsmeriaid gan ddefnyddio’ch profiad a’ch gwybodaeth i oresgyn gwrthwynebiadau
20. sut i gadw cydbwysedd rhwng anghenion eich sefydliad a’r cwsmeriaid 
21. sut i wrando ac ymateb mewn ffordd sensitif a datblygu pwyntiau a syniadau
22. sut i feithrin perthynas er mwyn hybu deialog agored a gofyn am fwy o wybodaeth am anghenion y cwsmeriaid
23. sut i addasu’ch iaith a’ch arddull i gyd-fynd â’r sefyllfa ac anghenion eich cwsmeriaid
24. sut i strwythuro’r hyn rydych yn ei ddweud i helpu’r cwsmeriaid i ddilyn cyfeiriad meddwl neu nifer o bwyntiau’n glir
25. sut i ddefnyddio darluniadau geiriol neu weledol i helpu’ch cwsmeriaid i ddeall pwyntiau rydych yn eu gwneud
26. sut i gymhwyso gwybodaeth am ofynion o ran fisâu a phasbortau i amgylchiadau unigolion
27. sut a phryd i holi’r cwsmeriaid am basportau a fisâu
28. y gwahaniaeth rhwng yswiriant busnes ac yswiriant hamdden
29. y rhannau perthnasol o’r ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail anabledd a’i goblygiadau wrth roi cyngor a gwybodaeth i gwsmeriaid
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r diwydiant
30. enwau a lleoliadau:
30.1 trefi, dinasoedd, meysydd awyr a phorthladdoedd porth a nodweddion ffisegol yn y Deyrnas Unedig
30.2 atyniadau i dwristiaid, rhanbarthau a mannau gwyliau, parciau cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig
31. y canlynol mewn perthynas â thwristiaeth allan o’r Deyrnas Unedig i gyrchfannau teithio o bwys yng ngweddill y byd:
31.1 lleoliad cyfandiroedd, gwledydd, prifddinasoedd, mannau gwyliau, meysydd awyr a phorthladdoedd porth, trefi mawr, dinasoedd, atyniadau i dwristiaid, cefnforoedd a moroedd, prif nodweddion ffisegol
31.2 hinsawdd, cylchfeydd amser, mathau o arian cyfred ac ieithoedd
31.3 bwyd, dillad, siopa, adloniant a diwylliant 
32. lleoliadau a nodweddion cyrchfannau arbenigol mewn perthynas â:
32.1 gwyliau antur a gweithgareddau
32.2 iechyd a llesiant
32.3 digwyddiadau chwaraeon
32.4 gwyliau a digwyddiadau arbennig eraill
32.5 diddordeb hanesyddol, diwylliannol a phensaernïol 
32.6 canolfannau busnes a chyrchfannau cynadledda
33. ble i gael elfennau teithiau wedi’u teilwra
34. goblygiadau defnyddio ffynonellau mewnol a/neu allanol mewn perthynas ag ATOL a deddfwriaeth gwyliau pecyn, lle bo’n berthnasol i’r prif fathau o gynhyrchion a chyflenwyr teithiau awyr
35. y cynlluniau graddio swyddogol sydd ar waith mewn gwledydd ledled y byd a’r gwahaniaethau rhyngddynt
36. y gwahanol fathau o lety gan gynnwys gwestai, hunanddarpar, hollgynhwysol; llety preifat a chanolfannau gwyliau; mathau o ystafelloedd, cyfleusterau a threfniadau prydau bwyd
37. y gwahanol ddulliau o fwcio a thalu am lety’n unig, gan gynnwys goblygiadau bwciadau wedi’u gwarantu
38. y derminoleg a ddefnyddir wrth fwcio llety’n unig (e.e. ‘o wneud cais’), y prif fathau o gynhyrchion a chategorïau archebwyr, gan gynnwys archebwyr a chynhyrchion arbenigol 
39. y berthynas rhwng asiantau ac archebwyr
40. y comisiynau sy’n daladwy gan wahanol gyflenwyr
taliadau gwasanaeth – beth ydynt a phryd mae angen eu codi
41. prif gymdeithasau masnach y diwydiant, eu prif ddibenion a buddion aelodaeth i’ch sefydliad a’r cwsmeriaid
42. codau meysydd awyr 3 llythyren, codau cwmnïau hedfan 2 lythyren a sut i’w hamgodio a’u datgodio
43. am beth mae ATOL yn sefyll a pha ddiogelwch mae ATOL yn ei gynnig; pryd mae trwydded ATOL yn ofynnol a pha gynhyrchion sydd wedi’u cynnwys a heb eu cynnwys
44. eich rhwymedigaethau cyfreithiol wrth gynghori’r cwsmeriaid (e.e. gofynion cyffredinol deddfwriaeth gwyliau pecyn, trefniadau diogelwch ariannol ATOL (os yn briodol); amodau bwcio; gofynion o ran pasbortau, fisâu, iechyd ac yswiriant, gan gynnwys y canllawiau rheoliadol cymwys cyfredol ar werthu yswiriant)
45. canlyniadau camliwio (e.e. yng nghyd-destun newidiadau a/neu ddiweddariadau i lyfrynnau hysbysebu/gwefannau) yn ystod trafodaethau gyda’r cwsmeriaid
46. polisïau’ch sefydliad ynghylch costau a phwysigrwydd cyfyngu ar gostau
47. ffynonellau gwybodaeth teithio Ewropeaidd a thros y byd a sut i gael gafael arnynt a’u dehongli 
48. sut i adnabod gofynion y cwsmeriaid o ran teithiau wedi’u teilwra
sut i ddefnyddio a dehongli unrhyw wefannau, cronfeydd data, llyfrynnau hysbysebu, amserlenni, rhestri prisiau tocynnau a rhestri prisiau er mwyn darparu gwybodaeth a chostiadau 
49. sut i roi amserlen deithio at ei gilydd er mwyn sicrhau’r dilyniant mwyaf rhesymegol, realistig a darbodus o ddigwyddiadau
50. sut i drefnu pecynnau trosglwyddo, llety, gweld golygfeydd ac arosiadau byr ac unrhyw drefniadau eraill
51. sut i gostio teithiau wedi’u teilwra
52. sut i ddarparu costiadau teithiau awyr (gan gynnwys atodiadau a gostyngiadau syml) a gwybodaeth am amodau bwcio (e.e. trosglwyddiadau, ail-gadarnhau, ffioedd canslo)
53. sut i gyfrifo taliadau am wasanaeth ac am ddefnyddio cardiau credyd yn unol â chanllawiau cyflenwyr a chanllawiau’ch sefydliad chi
54. sut a phryd i ddefnyddio’r wyddor ffonetig
55. sut i gyfrifo amserau lleol, pellteroedd a gwir amserau hedfan
56. sut i wirio’r gwahanol amodau bwcio sy’n gysylltiedig â chynhyrchion a gwasanaethau teithio ac unrhyw gyfyngiadau perthnasol
57. sut i ddefnyddio a dehongli ffynonellau cyfeirio er mwyn darparu costiadau (mewn punnoedd sterling) a gwybodaeth am wahanol grwpiau a modelau o gerbydau rhent, prif amodau rhentu gan gynnwys cymhwysedd (e.e. oedran, ardystiadau), yswiriant gan gynnwys ildiadau hawl difrod gwrthdrawiad, yswiriant damwain personol ac ychwanegiadau
58. yr angen am gyfrinachedd a goblygiadau deddfwriaeth diogelu data
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r cyd-destun
59. prif gyfrifoldebau’ch sefydliad o dan godau ymarfer cyfredol y diwydiant
60. safbwynt eich sefydliad o ran gweithredwyr a ffefrir
61. y gofynion cyfreithiol ar gyfer dyfynbrisiau cywir a chadw cofnodion
62. goblygiadau cyfreithiol indemniadau, hysbysebion, perthnasoedd contractiol a gweithredu ar ran cwsmeriaid ac archebwyr 
63. pwysigrwydd dilyn cyngor y Swyddfa Dramor
64. pwysigrwydd ATOL mewn perthynas â gwyliau wedi’u teilwra
65. amcanion eich sefydliad a’ch targedau personol chi
66. y codau ymarfer cyfreithiol a chodau ymarfer y sefydliad a’r diwydiant y mae’n rhaid i’ch cytundebau gyda’r cwsmeriaid a’ch cofnodion gydymffurfio â nhw
67. gweithdrefnau’ch sefydliad ynghylch gwerthu gwasanaethau teithio a phwysigrwydd eu dilyn
Mordeithiau (hamdden yn unig)
68. cwmnïau mordeithiau, llwybrau; mathau, capasiti a thunelledd llongau
69. porthladdoedd o bwys i fordeithiau 
70. termau mordeithiau a mathau o gabin
71. gwahaniaethau rhwng mordeithiau a chynhyrchion teithio eraill (e.e. codau gwisg, cildyrnau, dulliau talu ar fwrdd y llong)
72. sut i ddefnyddio a dehongli llyfrynnau hysbysebu neu wefannau er mwyn darparu gwybodaeth am:
72.1 pob math o fordeithiau, yn Ewrop a ledled y byd, gan gynnwys awyr/llong, diddordeb arbennig, o gwmpas y byd a mordeithiau gydag arosiadau
72.2 cynlluniau deciau, cyfleusterau ar fwrdd llongau, gwibdeithiau, adloniant a bwytai/eisteddiadau
73. sut i ddarparu costiadau ar gyfer pob math o fordeithiau

Gwyliau rheilffyrdd (hamdden yn unig)
74. cwmnïau trenau a rheilffyrdd, mathau o drenau, mathau o deithiau trên
75. y prif lwybrau gwyliau trên neu lwybrau twristiaid ledled y byd ac yn Ewrop
76. sut i ddefnyddio a dehongli llyfrynnau hysbysebu neu wefannau er mwyn darparu gwybodaeth am wyliau trên neu reilffyrdd gan gynnwys diddordeb arbennig
77. sut i ddarparu costiadau ar gyfer pob math o wyliau trên neu reilffyrdd


Cwmpas/ystod

Technegau cwestiynu: cwestiynau agored, cwestiynau caeedig

Opsiynau: pennu llwybrau, dulliau teithio, mathau o lety, costiadau, mannau o ddiddordeb, diwylliant ac arferion lleol, diddordebau arbennig

Gofynion: codau ymarfer cyfreithiol a chodau ymarfer y sefydliad a'r diwydiant

Cofnodion o ymholiadau ac anghenion y cwsmeriaid: i wneud y gwasanaeth i'r cwsmeriaid yn fwy effeithlon, i'w dadansoddi er mwyn creu proffiliau cwsmeriaid


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Cyfarch y cwsmeriaid mewn ffordd brydlon, gyfeillgar a hyderus

  2. Cael gwybod beth yw anghenion a disgwyliadau'ch cwsmeriaid trwy ddefnyddio technegau cwestiynu addas a sgiliau gwrando effeithiol a chofnodi'r canlyniadau

  3. Crynhoi'ch dealltwriaeth o anghenion a disgwyliadau'ch cwsmeriaid yn gywir

  4. Gwerthuso gwybodaeth am opsiynau posibl er mwyn adnabod y manteision ac anfanteision posibl i'ch cwsmeriaid ac i'ch sefydliad

  5. Cyflwyno'ch cynigion mewn ffordd sy'n helpu dealltwriaeth y cwsmeriaid, yn creu ewyllys da ac yn hyrwyddo delwedd gadarnhaol ohonoch chi ac o'ch sefydliad


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLTT12

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Ymgynghorydd Teithiau Busnes, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Ymgynghorydd Teithiau Hamdden

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gwerthu, wedi’u teilwra, teithio, gwasanaethau