Gosod i fyny a chynnal a chadw arddangosiadau hyrwyddo

URN: PPLTT05
Sectorau Busnes (Suites): Teithio a Thwristiaeth
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod i fyny amrywiaeth o arddangosiadau hyrwyddo a chynnal a chadw stociau o ddeunyddiau hyrwyddo. Mae hefyd yn cynnwys cynhyrchu cardiau a phosteri.

Argymhellir y safon i staff sy'n cyflawni gweithgareddau blaen tŷ mewn sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau teithio a thwristiaeth, ac sy'n dod i gysylltiad â chwsmeriaid yn rheolaidd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Paratoi ar gyfer hyrwyddiadau:

  1. fel eich bod yn gwybod beth yw'r gofynion ar gyfer yr hyrwyddiad ac wedi cael cadarnhad ac eglurhad os nad yw'r wybodaeth yn gyflawn neu'n glir
  2. fel bod y man arddangos o'r maint iawn ac nad yw'n effeithio ar fynediad
  3. fel bod gennych y deunyddiau, cyfarpar a stoc cywir y mae eu hangen ar gyfer yr arddangosiad a'u bod yn lân, yn gyfredol, yn ddiogel ac mewn cyflwr da
  4. fel bod y man arddangos yn cael ei glirio, ei lanhau a'i baratoi'n briodol cyn cael ei ddefnyddio
  5. fel bod y cardiau a'r posteri a gynhyrchir yn ddarllenadwy ac yn cyfateb i'r cyfarwyddiadau a roddwyd ichi ac i arddull eich sefydliad a'r safon ofynnol

Gosod i fyny a chynnal a chadw deunyddiau hyrwyddo a'u symud i ffwrdd:
6. fel bod deunyddiau hyrwyddo'n cael eu gosod i fyny a'u symud i ffwrdd yn gywir o fewn yr amser a ganiateir
7. fel bod arddangosiadau'n cael eu cadw mewn cyflwr glân, taclus a diogel trwy gydol cyfnod yr hyrwyddiad
8. fel bod y lefelau gofynnol a'r math o stoc sy'n cael ei arddangos yn cael eu cynnal trwy gydol cyfnod yr hyrwyddiad
9. fel bod gwybodaeth yn gyfredol ac mewn cyflwr da bob amser
10. fel bod cyfarpar a deunyddiau dros ben yn cael eu rhoi'n ôl mewn storfa
11. fel bod unrhyw ddeunyddiau sydd wedi dyddio neu wedi'u difrodi neu nad oes eu hangen mwyach yn cael eu gwaredu'n ddiogel, gan ddilyn gweithdrefnau'ch sefydliad ar gyfer gwaredu gwastraff


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

>
Gwybodaeth a dealltwriaeth cyffredinol
>
1. goblygiadau cyfreithiol sicrhau bod y wybodaeth yn gywir ac yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol gyfredol
2. y ddeddfwriaeth berthnasol o ran iechyd a diogelwch ynghylch storio a chodi deunyddiau
3. pam ei bod yn bwysig glanhau unrhyw ddeunyddiau a chyfarpar yr ydych yn eu defnyddio mewn arddangosiadau a gwaredu deunyddiau gwastraff yn ddiogel ac mewn ffordd ecogyfeillgar
4. sut i chwilio am beryglon o ran iechyd a diogelwch a sut i ddefnyddio unrhyw gyfarpar arddangos yn ddiogel, gan gynnwys gwirio a yw’n gweithio’n gywir
5. sut i storio deunyddiau hyrwyddo’n ddiogel a’u cadw mewn cyflwr da
6. pam y dylai deunyddiau hyrwyddo fod yn gyfredol ac yn hawdd cael atynt a goblygiadau posibl dosbarthu gwybodaeth sydd wedi dyddio
7. pam ei bod yn bwysig chwilio am beryglon posibl o ran iechyd a diogelwch cyn, yn ystod ac ar ôl y gwaith o osod arddangosiadau i fyny
8. sut mae gosod eitemau mewn mannau penodol yn denu sylw ac yn hyrwyddo gwerthiannau
>
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r diwydiant
>
9. sut i ddefnyddio gofod yn effeithiol wrth arddangos eitemau
10. pwysigrwydd arddangosiadau wrth hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau teithio a thwristiaeth
11. pam ei bod yn bwysig gwirio bod y wybodaeth ar ddeunyddiau hyrwyddo’n gywir ac yn gyfreithlon a sut i wirio’r wybodaeth hon
>
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r cyd-destun
>
12. gofynion eich sefydliad o ran:
12.1 safonau ar gyfer hyrwyddiadau, eu cynnal a’u cadw a’u symud i ffwrdd
12.2 lefelau stoc gofynnol ar gyfer yr holl ddeunyddiau hyrwyddo
12.3 delwedd gorfforaethol ac arddull y sefydliad ar gyfer cardiau a phosteri sy’n cael eu gwneud yn lleol
12.4 gwaredu deunyddiau hyrwyddo sydd wedi dyddio
13. eich cyfrifoldebau chi am gynnal stoc ofynnol o ddeunyddiau hyrwyddo
​​14. sut i wirio bod yr holl eitemau sy’n cael eu harddangos yn gywir ac yn gyfredol ac yn cydymffurfio â gofynion eich sefydliad
15. y cyfarwyddiadau ar gyfer gweithgareddau hyrwyddo penodol a ble i gael gwybodaeth am y gweithgareddau hyrwyddo cyfredol
16. delwedd a brandio proffesiynol eich sefydliad
>
 

Cwmpas/ystod

Y gofynion ar gyfer yr hyrwyddiad: stoc a gofod, safle a dyddiadau'r arddangosiad, diogelwch, safonau'r sefydliad ar gyfer deunyddiau hyrwyddo

Cyfarwyddiadau: cynnwys, terfynau amser, safle, cyfryngau, technoleg

Deunyddiau hyrwyddo: llyfrynnau hysbysebu, posteri, cardiau, labeli, taflenni, amlgyfrwng / ar y we


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Gweithio'n drefnus a chan ddilyn gweithdrefnau'ch sefydliad

  2. Sicrhau cadarnhad i'ch gweithgareddau gyda'r person(au) perthnasol bob amser


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLTT05

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Ymgynghorydd Teithiau Busnes, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Ymgynghorydd Teithiau Hamdden

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gosod i fyny, cynnal a chadw, hyrwyddo, arddangosiadau