Gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau sy’n gysylltiedig â theithio

URN: PPLTT01
Sectorau Busnes (Suites): Teithio a Thwristiaeth
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Mae cwsmeriaid yn gwybod mwy a mwy am y dewisiadau sydd ar gael iddynt wrth drefnu teithiau hamdden neu fusnes ac unrhyw wasanaethau ychwanegol mae arnynt eu hangen. Gall hyn fod yn rhannol oherwydd bod adnoddau ar-lein ar gael ar gyfer dod o hyd i wybodaeth a gwneud bwciadau wedi'u teilwra, ond mae'n golygu bod cwsmeriaid yn troi at ymarferwyr teithio i gael cyngor a chymorth arbenigol, y tu hwnt i ddarparu gwybodaeth sylfaenol iawn a gwefannau!

Mae'n bwysig bod cwsmeriaid yn gwybod am y cynhyrchion a'r gwasanaethau mwyaf addas sy'n unol â'u hanghenion, sydd erbyn hyn yn gallu bod yn fwy cymhleth i'w diwallu. Rhan o swydd yr ymarferydd yw helpu i ddiffinio'r anghenion hynny er mwyn cynnig y cynhyrchion mwyaf addas.

Mae'r safon hon yn disgrifio'r cymhwysedd y mae ei angen i werthu gwasanaethau hamdden neu fusnes ynghyd â chynhyrchion neu wasanaethau eraill y mae eu hangen ar y cwsmer i gwblhau ei brofiad teithio.

Argymhellir y safon i'r holl staff sydd mewn cysylltiad â chwsmeriaid ac sy'n gyfrifol am sicrhau y diwellir anghenion y cwsmeriaid yn unol â'r cynhyrchion a'r gwasanaethau sydd ar gael gan y sefydliad


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Canfod anghenion y cwsmeriaid o ran teithio:

  1. fel bod cynhyrchion a gwasanaethau teithio sy'n cyd-fynd orau ag anghenion y cwsmer yn cael eu hadnabod a'u cynnig
  2. fel bod gwybodaeth am y cwsmeriaid yn cael ei chofnodi, ei phrosesu a'i storio mewn modd sy'n dilyn gweithdrefnau'r sefydliad ac yn bodloni'r gofynion cyfreithiol
  3. fel bod unrhyw ofynion ychwanegol gan y cwsmer yn cael eu canfod
  4. fel bod y cwsmeriaid yn cael ymatebion clir i ymholiadau, ac atebion i broblemau
  5. fel bod y cwsmer yn cael gwybodaeth glir a chywir am wasanaethau, costau, y gofynion cyfreithiol a gwasanaethau ychwanegol ar gyfer y daith ar ddiwedd y gwerthiant

Hyrwyddo nodweddion a buddion cynhyrchion a gwasanaethau teithio:
6. fel y gwerthir gwasanaethau teithio i'r cwsmeriaid sy'n cyd-fynd â'u hanghenion ac sy'n unol â pholisïau'r sefydliad
7. fel bod nodweddion cynhyrchion a gwasanaethau teithio sy'n cyd-fynd yn gywir ag anghenion y cwsmer yn cael eu hesbonio'n glir ac y ceir cadarnhad bod y cwsmer yn deall
8. fel bod buddion yn cael eu hyrwyddo'n glir, yn gywir ac mewn ffordd sy'n ennyn mwy o ddiddordeb gan y cwsmer
9. fel y rhoddir cyfleoedd i'r cwsmeriaid drafod yn llawn ac ymchwilio i nodweddion a buddion
10. fel bod gwrthwynebiadau cwsmeriaid yn cael eu trin yn gadarnhaol
11. fel bod telerau, amodau a'r gofynion cyfreithiol perthnasol ynghylch y gwerthiant yn cael eu disgrifio'n glir

Cwblhau'r gwerthiant:
12. fel y ceisir sicrhau bwriad y cwsmer i brynu ar adeg addas yn y drafodaeth
13. fel bod cynhyrchion a gwasanaethau teithio ychwanegol yn cael eu hadnabod a'u gwerthu'n effeithiol
14. fel bod cost gyfan yr holl gynhyrchion a gwasanaethau'n cael ei rhoi i'r cwsmeriaid
15. fel bod unrhyw waith dilynol gyda chwsmeriaid yn cydymffurfio â gofynion y sefydliad a'r gofynion cyfreithiol
16. fel bod y cwsmeriaid yn cael tawelwch meddwl ar ôl dewis yr hyn maent am ei brynu
17. fel bod y gwerthiant yn dilyn gweithdrefnau'ch sefydliad ac yn bodloni'r gofynion cyfreithiol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. ffynonellau gwybodaeth (electronig, papur) ynghylch cynhyrchion a gwasanaethau, a sut i’w defnyddio a’u dehongli

2. sut i ddefnyddio technegau cwestiynu a sgiliau gwrando i ganfod anghenion cwsmeriaid

3. sut i ddefnyddio technegau gwerthu, gan gynnwys: meithrin perthynas, ymchwilio i anghenion; paru anghenion a dymuniadau; cyflwyno nodweddion a buddion; cynnig dewisiadau eraill; ennyn ymrwymiad a sicrhau’r gwerthiant

4. sut i gyfathrebu’n effeithiol â chwsmeriaid mewn gwahanol sefyllfaoedd gwerthu

5. prif egwyddorion darparu gwasanaeth a gwybodaeth i gwsmeriaid

6. pwysigrwydd systemau gwybodaeth cyfredol

7. yr angen am gyfrinachedd a goblygiadau deddfwriaeth diogelu data

8. y rhannau perthnasol o’r ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail anabledd a’i goblygiadau wrth roi cyngor a gwybodaeth i gwsmeriaid

9. prif ofynion deddfwriaeth wrth ymdrin â chwsmeriaid 

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r diwydiant

10. enwau, lleoliadau a chyflwr cyrchfannau poblogaidd a daearyddiaeth teithio; nodweddion cyrchfannau

11. y gwahanol fathau o lety, e.e. gwestai, hunanddarpar, tai llety a llety gwely a brecwast, meysydd carafanau a gwersylla a chanolfannau gwyliau; mathau o ystafelloedd, cyfleusterau a threfniadau prydau bwyd

12. y gwahanol ffyrdd o dalu am wasanaethau teithio

13. sut i ddefnyddio a dehongli gwefannau, llyfrynnau hysbysebu ac amserlenni er mwyn darparu gwybodaeth a chostiadau

14. sut i adnabod a dehongli amodau bwcio a chyfyngiadau penodol sy’n ymwneud â’r cynhyrchion a’r gwasanaethau a gynigir gan eich sefydliad

15. cyfrifoldebau contractiol y prif deithiwr

16. prif godau ymarfer cyfredol y fasnach wrth werthu teithiau hamdden neu fusnes

17. pam ei bod yn bwysig sicrhau bod y wybodaeth a roddir i’r cwsmeriaid yn gywir ac yn gyfredol

18. canlyniadau camliwio (e.e. yng nghyd-destun newidiadau a/neu ddiweddariadau i lyfrynnau hysbysebu) yn ystod trafodaethau gyda’r cwsmeriaid

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i’r cyd-destun

19. yr ystod o gynhyrchion a gwasanaethau sydd ar gael gan y sefydliad

20. nodweddion allweddol y cynhyrchion a’r cyrchfannau sy’n boblogaidd gyda chwsmeriaid eich sefydliad

21. polisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad ynghylch gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau a phwysigrwydd eu dilyn

22. ble y gellir dod o hyd i wybodaeth am wasanaethau

23. yr ystod o dechnolegau sydd ar gael ichi a sut y gellir eu defnyddio

24. gofynion eich sefydliad ac unrhyw ofynion cyfreithiol o ran cynghori’r cwsmeriaid (e.e. gofynion sy’n gysylltiedig â manwerthu, amodau bwcio a gofynion o ran yswiriant, gan gynnwys canllawiau rheoliadol perthnasol cyfredol ar werthu yswiriant) 

25. sut y gellir cyfuno’r pecyn o wasanaethau teithio a gwasanaethau ychwanegol i gyd-fynd ag anghenion cwsmeriaid


Cwmpas/ystod

​Cynhyrchion a gwasanaethau teithio: gwyliau pecyn, hediadau, llety, coetsis, rheilffyrdd, mordeithiau

Gofynion ychwanegol: dietegol, iechyd, symudedd

Cynhyrchion a gwasanaethau teithio ychwanegol: llogi ceir, lolfeydd VIP, parcio ceir, cludiant i ac o'r man ymadael, llety, gwibdeithiau a thocynnau mae modd eu bwcio ymlaen llaw, ychwanegiadau gweithredwyr teithiau, pecynnau sgïo, uwchraddiadau, cludiant arall, pasbortau a fisâu.


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. ​Cyfarch y cwsmeriaid mewn modd prydlon, cyfeillgar a hyderus
  2. Meithrin a chynnal perthynas gadarnhaol â'r cwsmeriaid fel bod yr ymwneud yn gadarnhaol ac yn gyfeillgar
  3. Cael gwybod am anghenion eich cwsmeriaid trwy ddefnyddio technegau cwestiynu addas a sgiliau gwrando effeithiol
  4. Cofnodi gwybodaeth y cwsmeriaid yn gywir a chynnal cyfrinachedd digonol
  5. Dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth clir o'r amrywiaeth o wahanol gwsmeriaid a'u hanghenion
  6. Hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau teithio'n unol â pholisïau a gweithdrefnau'ch sefydliad
  7. Ymdrin ag ymholiadau mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo gwerthiannau a/neu geisiadau a meithrin hyder y cwsmeriaid
  8. Aros yn agored ac yn hyblyg wrth ymateb i gwsmeriaid, gan ddilyn eu ciwiau a defnyddio technegau cwestiynu addas a sgiliau gwrando
  9. Achub ar gyfleoedd i hyrwyddo posibiliadau newydd a gwahanol er mwyn gwella profiadau'r cwsmeriaid

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLTT01

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Ymgynghorydd Teithiau Busnes, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Ymgynghorydd Teithiau Hamdden

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gwerth, yn gysylltiedig â theithio, cynhyrchion, gwasanaethau