Gweithredu a rheoli trenau mewn gwasanaeth

URN: PPLRS08
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Rheilffyrdd
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2014

Trosolwg

Mae’r uned hon yn ymdrin â gweithredu a rheoli trên. Dylech allu gyrru trên yn ddiogel, yn effeithlon ac yn effeithiol. Rhaid ichi wybod a deall y rheolau, rheoliadau a chyfarwyddiadau cyfredol sy’n gysylltiedig â gweithredu trên mewn gwasanaeth. Byddwch hefyd yn gwybod ac yn deall buddion gyrru mewn ffordd sy’n defnyddio ynni yn y ffordd orau ac yn lleihau traul ar y cerbyd.

Mae’r uned hon yn cynnwys tair elfen:

1.  Gweithredu a rheoli trenau mewn gwasanaeth

Mae’r elfen hon yn ymdrin â rheoli trên o’i gychwyn i’w stopio gan ddilyn yr holl signalau, rheolau, rheoliadau a chyfarwyddiadau priodol.

2.  Monitro a chynnal rhediad y trên yn unol â’r rhaglen gweithredu

Mae’r elfen hon yn ymdrin â sicrhau bod trên yn dilyn y rhaglen/amserlen benodedig a’ch bod yn deall ac yn delio ag amrywiadau

​3.  Cynnal arferion gyrru effeithlon

Mae’r elfen hon yn ymdrin â gyrru trên yn y ffordd fwyaf effeithlon er mwyn lleihau’r gost a’r effaith amgylcheddol.

Mae’r uned hon i’r rheiny sy’n gweithio’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gyda theithwyr a’r gwaith o redeg trenau. Mae’n arbennig o briodol i’r rheiny sy’n cyflawni gwaith gyrrwr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​**Gweithredu trenau mewn gwasanaeth​

**

1 cyflawni gweithgareddau cyn-cychwyn yn unol â gweithdrefnau’ch sefydliad
2 cychwyn symudiadau trenau’n ddiogel 
3 ymateb yn gywir i signalau cymeradwy, arwyddion ar ochr y llinell a phersonél awdurdodedig ar neu yn ymyl y llinell, bob amser
4 cyfathrebu â staff signalau a pherson(au) perthnasol eraill yn unol â gweithdrefnau’ch sefydliad
5 gwirio effeithlonrwydd gweithredol y system brecio’n unol â gweithdrefnau’ch sefydliad
6 rheoli cyflymder er mwyn cydymffurfio â chyfyngiadau cyflymder y trên a’r llinell a’r amodau ar bennau’r cledrau
7 rheoli’r ffordd rydych yn gyrru er mwyn cymryd i ystyriaeth beryglon gwirioneddol neu bosibl a allai godi
8 bod yn wyliadwrus ac yn effro i bopeth o’ch cwmpas bob amser
9 ymateb i arwyddion rhybuddio yn y caban yn brydlon ac yn gywir
10 defnyddio ac ymateb i ddyfeisiau rhybuddio mewn modd priodol
11 lleoli a diogelu’r trên yn gywir fel bod modd llwytho a dadlwytho’n ddiogel
12 rhoi gwybod am ddiffygion a pheryglon yn unol â gweithdrefnau’ch sefydliad 

**Monitro a chynnal rhediad y trên yn unol â’r rhaglen gweithredu

**13 nodi unrhyw amrywiadau ym mherfformiad y trên

14 ymchwilio i unrhyw amrywiadau ym mherfformiad y trên o fewn terfynau’ch awdurdod chi a rhoi gwybod i’r person(au) perthnasol amdanynt
15 stopio mewn mannau rhaglenedig, o fewn y cyfyngiadau gweithredol, mewn modd sy’n cydymffurfio â gofynion yr amserlen
16 adnabod gwyriadau (neu wyriadau posibl) o’r rhaglen gweithredu a rhoi gwybod i’r person(au) perthnasol amdanynt 
17 lleihau i’r eithaf achosion o oedi a tharfu lle na ellir cadw at y rhaglenni gweithredu
18 cwblhau’r dogfennau gofynnol yn gywir a’u prosesu’n gywir
19 cydymffurfio ag unrhyw reolau, rheoliadau, cyfarwyddiadau a gweithdrefnau perthnasol

*Cynnal arferion gyrru effeithlon
*

20 lleihau i’r eithaf yr ynni mae trên yn ei ddefnyddio, o fewn y cyfyngiadau gweithredol

21 lleihau i’r eithaf y draul ar drên, o fewn y cyfyngiadau gweithredol
22 addasu’ch technegau gyrru yn ôl y math o drên, amodau ar bennau’r cledrau a nodweddion y llwybr
23 addasu’ch technegau gyrru, lle bo’n berthnasol, er mwyn sicrhau’r boddhad mwyaf i’r cwsmeriaid

*
*


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

*Gweithredu trenau mewn gwasanaeth
*
 
1 gweithdrefnau’ch sefydliad chi ar gyfer gweithredu trenau mewn gwasanaeth

2 y llwybr, llwybrau neu wyriadau awdurdodedig y byddwch yn eu dilyn ar y daith
3 y mathau o gyfarpar signalau ac arwyddion ar ochr y llinell
4 sut i ymateb i signalau ac arwyddion ar ochr y llinell
5 pam y gallai personél awdurdodedig fod ar neu yn ymyl y llinell
6 cyfyngiadau cyflymder y trên a’r llinell ar y llwybr y byddwch yn gyrru arno
7 y mathau o amodau ar bennau’r cledrau y deuir ar eu traws a’r ymateb gweithredol cywir
8 lleoli a diogelu trên yn gywir ar gyfer llwytho a dadlwytho
9 cyfarwyddiadau effeithlonrwydd y systemau brecio
10 y mathau o bethau a all dynnu sylw wrth yrru
11 pam mae’n bwysig bod yn wyliadwrus ac yn effro bob amser
12 y dyfeisiau rhybuddio mae’n rhaid eu defnyddio ac ymateb iddynt
13 pam mae’n bwysig ymateb i rybuddion yn brydlon
14 y mathau o systemau a dyfeisiau rhybuddio 
15 peryglon gwirioneddol a phosibl
16 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddiffygion a pheryglon

*Monitro a chynnal rhediad y trên yn unol â’r rhaglen gweithredu
*

17 gweithdrefnau’ch sefydliad sy’n ymwneud â monitro a chynnal rhediad y trên yn unol â’r rhaglen gweithredu

18 sut i ddehongli amserlenni neu raglenni gweithio
19 nodweddion llwythi a’u heffaith ar berfformiad trenau
20 y camau gweithredu i’w cymryd pan na ellir cadw at raglenni gweithredu
21 sut i flaenoriaethu camau gweithredu er mwyn lleihau i’r eithaf achosion o oedi a tharfu
22 y gofynion perthnasol o ran cwblhau dogfennau yn eich sefydliad chi
23 terfynau’ch awdurdod chi

*Cynnal arferion gyrru effeithlon
*

24 gweithdrefnau’ch sefydliad chi mewn perthynas ag arferion gyrru effeithlon

25 pwysigrwydd cyflawni arferion gyrru effeithlon
26 y llwybr, llwybrau neu wyriadau awdurdodedig y byddwch yn eu dilyn ar y daith
27 sut y gellir lleihau i’r eithaf yr ynni a ddefnyddir
28 sut y gellir lleihau i’r eithaf draul ar drên
29 y gofynion o ran lleoli’r trên yn gywir ar gyfer llwytho a dadlwytho
30 argaeledd cymhorthion a thechnegau adlyniad a’r defnydd ohonynt
31 llinellau a dulliau cyfathrebu effeithiol yn eich sefydliad


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Eich sefydliad
**
D
yma'r cwmni rydych chi'n gweithio iddo neu, os ydych yn hunangyflogedig, y rheolau rydych wedi'u gosod i chi'ch hun er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol a thrwyddedu perthnasol

Perygl


Rhywbeth sydd â'r potensial i achosi niwed (gall hyn gynnwys eitemau, sylweddau, cyfarpar neu beiriannau, dulliau gweithio, yr amgylchedd gwaith ac agweddau eraill ar drefniadaeth y gwaith)

Gweithdrefnau'ch sefydliad**


Dyma'r gweithdrefnau sydd gan sefydliad i sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheolau, deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddiadau, polisïau, systemau, trwyddedu a chyfreithiau perthnasol i'r gweithgarwch a'i amgylchedd.​


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

GSKRS08

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a Gwaith Cynnal a Chadw Cludiant, Gyrwyr a Gweithwyr Cludiant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Trenau, gweithredu, rheoli, gwasanaeth, gyrru’n effeithlon