Dod â threnau i mewn i wasanaeth

URN: PPLRS07
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Rheilffyrdd
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2014

Trosolwg

​Mae’r uned hon yn ymdrin â sicrhau bod trenau’n ddiogel i redeg ac yn addas i’r diben. Mae hyn yn golygu dod o hyd i drenau mewn modd diogel a chadarnhau bod trenau’n addas i redeg a threfnu trenau. Rhaid i drenau gael eu trefnu’n gywir mewn cyflwr addas a diogel cyn y gallant weithredu mewn gwasanaeth. Pan nad ydynt mewn gwasanaeth, mae’n bosibl y bydd angen i drenau gael eu siyntio a’u hail-ffurfio er mwyn ei gwneud yn bosibl cynnal a chadw a gwasanaethu cerbydau.


Mae’r uned hon yn cynnwys dwy elfen:

1.  Canfod a yw trenau’n addas i wasanaethu

Mae’r elfen hon yn ymdrin â gwneud yn siŵr bod y systemau ar drenau’n gweithio’n gywir fel eu bod yn addas i fynd i mewn i wasanaeth a lle bo’n briodol y caiff namau eu hatgyweirio ac yr adroddir amdanynt.

2.  Trefnu trenau

Mae’r elfen hon yn ymdrin â gwneud yn siŵr y caiff trenau eu trefnu’n unol â’r fanyleb weithredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​**Canfod a yw trenau'n addas i wasanaethu

*

1 lleoli’r trên, gan ddilyn y systemau diogelwch perthnasol a gweithdrefnau’ch sefydliad
2 cyflawni profion a gwiriadau ar systemau a chyfarpar, ar gyfer y mathau perthnasol o drenau rydych yn gymwys i’w gweithredu
3 dod o hyd i namau ar y systemau a chyfarpar ar drenau, a chanfod natur y namau hynny 
4 cywiro namau o fewn terfynau’ch awdurdod chi
5 cofnodi a rhoi gwybod am namau’n unol â gweithdrefnau’ch sefydliad
6 dilyn cyfarwyddiadau mewn perthynas â chamau gweithredu sy’n ofynnol pan ddewch o hyd i namau
*

Trefnu trenau

**

7 cytuno ar weithrediadau trefnu gyda staff dynodedig, cyn y symudiad
8 cadarnhau bod y dulliau gwarchod a rheoli signalau perthnasol ar waith, fel bo’n briodol
9 gwirio bod trenau wedi cael eu bachu, eu dadfachu a’u diogelu fel bo’n briodol
10 cyflawni gweithgareddau trefnu, yn unol â gweithdrefnau’ch sefydliad 
11 gwirio bod trenau wedi cael eu ffurfio’n gywir yn unol â’r gofynion gweithredol
12 Rhoi gwybod i’r person(au) perthnasol am anawsterau wrth gwblhau gweithrediadau trefnu 
13 cwblhau a phrosesu’r dogfennau gofynnol

**

**


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Canfod a yw trenau’n addas i wasanaethu
*
1 y systemau a gweithdrefnau diogelwch perthnasol a’u pwysigrwydd

*

2 y systemau a chyfarpar gweithredu trenau perthnasol
​​3​ pwysigrwydd cyflawni gweithgareddau yn unol ag amserlen gytunedig
4 y dulliau a’r technegau ar gyfer cynnal profion a gwiriadau ar systemau a chyfarpar
5 terfynau’ch awdurdod chi
6 y namau a all godi ar y systemau a’r cyfarpar ar drenau a’r effaith y gallant ei chael
7 pam ei fod yn bwysig dod o hyd i namau a rhoi gwybod amdanynt cyn dod â thrên i mewn i wasanaeth
8 dulliau rhoi gwybod am namau ac anawsterau yn eich sefydliad
9 sut i gadarnhau nad oes modd defnyddio trên 
10 y mathau o gyfarpar mae eu hangen wrth gyflawni profion a gwiriadau

Trefnu trenau

11 y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer dod â threnau i mewn i wasanaeth
12 yr ystod o systemau bachu sy’n berthnasol i systemau gweithredu trenau
13 y ffactorau amgylcheddol y dylid eu hystyried wrth ddod â thrên i mewn i wasanaeth
14 rôl / rolau pobl eraill sy’n ymwneud â threfnu trenau
15 y dulliau a chyfarwyddiadau perthnasol sydd ar waith i warchod a rheoli signalau 
16 y dulliau rheoli symudiadau trenau sy’n berthnasol i’r amgylchedd gwaith
17 gweithdrefnau adrodd eich sefydliad
18 patrwm y man trefnu trenau
19 y gofynion perthnasol o ran cwblhau dogfennau yn eich sefydliad


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Eich sefydliad
*
Dyma'r cwmni rydych chi'n gweithio iddo neu, os ydych yn hunangyflogedig, y rheolau rydych wedi'u gosod i chi'ch hun er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol a thrwyddedu perthnasol

Trefnu
*

Proses trefnu a chydosod trenau ac eitemau o stoc rholio mewn trefn benodol. Mae hyn yn cynnwys Siyntio.

*Gweithdrefnau'ch sefydliad
*

**Dyma'r gweithdrefnau sydd gan sefydliad i sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheolau, deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddiadau, polisïau, systemau, trwyddedu a chyfreithiau perthnasol i'r gweithgarwch a'i amgylchedd.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

GSKRS07

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a Gwaith Cynnal a Chadw Cludiant, Gyrwyr a Gweithwyr Cludiant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Trenau, trefnu, siyntio