Cludo teithwyr sy’n talu o fewn fframwaith y diwydiant hurio preifat

URN: PPLRPVD24
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Cludo Teithwyr ar y Ffordd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 31 Maw 2013

Trosolwg

​Mae’r Safon hon yn ymwneud â chludo teithwyr sy’n talu yn y diwydiant hurio preifat. Rhaid i chi wybod a deall y rheoliadau sy’n ymwneud â chodi teithwyr sy’n weithredol yn y diwydiant hurio preifat.

Mae’r Safon hon yn cynnwys pum elfen, ac mae pedair o’r elfennau’n ymwneud â gwybodaeth a dealltwriaeth yn unig gan ei bod yn hanfodol bod gennych ddealltwriaeth o’r broses a’r rheolau trwyddedu ar gyfer gyrwyr hurio preifat.
1. Deall y rhesymau pam fod yn rhaid i yrwyr, cerbydau a gweithredwyr fod â thrwydded i weithredu
2. Deall sut i gydymffurfio â’r gofynion i ddal a chadw trwydded gyrrwr
3. Sicrhau bod cerbyd hurio preifat yn cydymffurfio â gofynion yr awdurdod trwyddedu
4. Gweithio o fewn y fframwaith rheoleiddio ar gyfer cludo teithwyr er mwyn hurio ac enillion
5. Cyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau gweithredwr trwyddedig

Mae’r Safon hon ar gyfer
Mae’r Safon hon ar gyfer gyrwyr cerbydau hurio preifat.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Gweithio o fewn y fframwaith rheoleiddio ar gyfer cludo teithwyr er mwyn hurio ac enillion

P1 ymateb i archeb gan weithredwr
P2 ymateb i archeb drwy gais radio neu anfon data


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Deall y rhesymau pam fod yn rhaid i yrwyr, cerbydau a gweithredwyr fod â thrwydded i weithredu**

K1 pam mae gyrwyr, cerbydau a gweithredwyr wedi’u trwyddedu yn y diwydiannau hurio preifat a thacsis

Deall sut i gydymffurfio â’r gofynion i ddal a chadw trwydded gyrrwr**

K2 sut mae cael trwydded gyrrwr hurio preifat
K3 pam y gellir caniatáu tystysgrif eithrio meddygol i:
  K3.1 safonau meddygol Grŵp 2
  K3.2 cludo cŵn cymorth
  K3.3 darparu cymorth i bobl anabl o dan ddeddfwriaeth
K4 y term ‘cymwys a phriodol’ yng nghyd-destun cais am drwydded gyrrwr
K5 y term ‘datgeliad llawn’ yng nghyd-destun cais am drwydded gyrrwr
K6 hyd dilysrwydd trwydded gyrrwr fel a bennir gan y rheoliadau neu’r awdurdod trwyddedu
K7 rhannau perthnasol y Rheoliadau Statudol sy’n gymwys i drwyddedu gyrwyr hurio preifat
K8 y weithdrefn apelio o fewn y rheoliadau perthnasol i ymgeiswyr y mae eu cais am drwydded wedi’i wrthod, ei atal dros dro neu ei ddirymu  
K9 yr amgylchiadau lle gall trwydded gyrrwr gael ei hatal dros dro neu ei dirymu ar unwaith
K10 y bobl a ganiateir i yrru cerbyd trwyddedig
K11 y bobl awdurdodedig sydd â’r awdurdod i ofyn am weld trwydded gyrrwr neu weithredwr

Sicrhau bod cerbyd hurio preifat yn cydymffurfio â gofynion yr awdurdod trwyddedu

K12 y math o gymeradwyaeth a’r categorïau sy’n ymwneud â thrwyddedu cerbyd hurio preifat
K13 amodau trwyddedu cerbydau
K14 y term dim cyfyngiad wrth gyhoeddi trwyddedau hurio preifat
K15 y math o arwydd y bernir a fyddai’n anghyfreithlon pe bai’n cael ei arddangos ar gerbyd hurio preifat
K16 y mathau o gerbydau a gweithrediadau a all gael eu heithrio rhag trwyddedu
K17 canlyniadau peidio ag arddangos plât trwydded fel sydd wedi’i ragnodi gan yr awdurdod trwyddedu
K18 y prif fanylion sydd i’w gweld ar blât trwydded

Cludo teithwyr sy’n talu o fewn fframwaith y diwydiant hurio preifat

K19 yr amserlen ar gyfer dychwelyd platiau a disgiau trwydded i’r awdurdod trwyddedu os cânt eu gwahardd, eu dirymu neu os ydynt yn dod i ben
K20 yr amgylchiadau lle gellir gwahardd dros dro neu ddirymu trwydded cerbyd ar unwaith
K21 y weithdrefn apelio os yw trwydded cerbyd wedi’i gwrthod, ei hatal dros dro neu ei dirymu

Gweithio o fewn y fframwaith rheoleiddio ar gyfer cludo teithwyr er mwyn hurio ac enillion

K22 y term ‘archebu ymlaen llaw’
K23 sut mae taliadau cerbydau hacni a hurio preifat yn cael eu cyfrifo
K24 y ddeddfwriaeth statudol lle mae’n ymwneud â chwilio am gwsmeriaid yn anghyfreithlon, gan gynnwys towtio am fusnes
K25 canlyniadau chwilio am gwsmeriaid heb drwydded cerbyd hacni gan gynnwys y goblygiadau yswiriant
K26 yr amgylchiadau lle gall gyrwyr fod yn agored i gael eu cyhuddo o drosedd o dan is-ddeddfau lleol
K27 y gwahaniaeth rhwng arwyddion sydd wedi’u gwahardd neu wedi’u cyfyngu ar gerbydau hurio preifat a’r arwyddion a’r hysbysebu a ganiateir ar gerbydau hacni
K28 y gofyniad cyfreithiol ynglŷn â dim ysmygu gan gynnwys arwyddion

Cyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau gweithredwr trwyddedig

K29 y gofynion ar gyfer trwyddedu gweithredwr
K30 hyd trwydded gweithredwr
K31 pwy sy’n gyfrifol am gymryd archebion hurio preifat 

K32 gwybod bod archebion yn cael eu cyflawni’n unol â’r ddeddfwriaeth

K33 gofynion gweithredwr trwyddedig yn achos y canlynol:
  K33.1    cofnodi archebion  
  K33.2    cynhyrchu cofnodion
  K33.3    cadw cofrestr o yrwyr a manylion cerbydau
  K33.4    trwyddedau gweithredwyr
  K33.5    arddangos taflenni tariff y cwmni
  K33.6    bod ag ystafell aros lân a thaclus
K34 y gofynion deddfwriaethol sy’n weithredol yn achos y defnydd o gerbydau a gyrwyr a ddefnyddir o dan drwydded gweithredwr o fewn y rhanbarth (hurio ar draws ffiniau)
K35 o dan ba amgylchiadau y gellir gwrthod, gwahardd dros dro neu ddirymu trwydded gweithredwr
K36 y weithdrefn apelio os yw trwydded gweithredwr wedi’i gwrthod, ei gwahardd dros dro neu ei dirymu  


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

*​Gwybodaeth Ychwanegol * *
*

Tacsi
Mae’n cynnwys Cerbyd Hacni trwyddedig


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLRPVD24

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth

Cod SOC

8213

Geiriau Allweddol

hurio preifat; gyrrwr; gweithredwr; deddfwriaeth