Prosesu pris siwrnai yn y diwydiant cludiant cymunedol

URN: PPLRPVD17
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Cludo Teithwyr ar y Ffordd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 31 Maw 2013

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymwneud â phrosesu pris siwrneiau. Dylech allu derbyn taliadau am siwrneiau, rhoi derbynebau, prosesu tocynnau dilys a chadw cofnod o bris siwrneiau a thaliadau. Dylech wybod a deall gofynion diogelwch ar gyfer taliadau, a’ch awdurdod eich hun wrth ddelio â phroblemau â thaliadau.

Mae’r Safon hon yn cynnwys dwy elfen:
1. Derbyn taliadau a rhoi derbynebau.
2. Cadw cofnod o daliadau am siwrneiau a thaliadau eraill

Mae’r Safon hon ar gyfer
Mae’r Safon hon ar gyfer gyrwyr cerbydau cludiant cymunedol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Derbyn taliadau a rhoi derbynebau

P1 casglu pris y siwrnai a thaliadau’n gywir yn unol â chanllawiau eich sefydliad
P2 dweud wrth eich teithwyr yn eglur ac mewn ffordd gwrtais a chyfeillgar beth yw cyfanswm y gost a’r dulliau talu priodol sydd ar gael iddynt
P3 derbyn a chydnabod taliadau gan eich teithwyr yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
P4 cadarnhau bod swm y taliadau’n gywir, a chanfod a delio â phroblemau’n unol â gweithdrefnau eich sefydliad
P5 rhoi’r newid cywir i’ch teithwyr ynghyd â derbynneb ddilys os oes angen
P6 storio’r holl daliadau mewn man diogel
P7 defnyddio systemau rhagdalu pan yn berthnasol

Cadw cofnod o daliadau am siwrneiau a thaliadau eraill

P8 talu prisiau siwrneiau i mewn yn brydlon yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
P9 rhoi cyfrif am daliadau heb eu gwneud a chamgymeriadau â thaliadau am siwrneiau a thocynnau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
P10 cynnal gwiriadau diogelwch addas i wneud yn siŵr eich bod yn ddiogel cyn symud arian o’ch cerbyd
P11 cwblhau dogfennau eich sefydliad (os oes angen) yn gywir ac eglur P12 sicrhau bod y taliadau a gasglwyd gennych yn cyfateb i ddogfennau eich sefydliad
P13 darparu gwybodaeth ychwanegol sy’n ymwneud â thaliadau am siwrneiau, taliadau eraill a theithwyr yn ôl yr angen, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Derbyn taliadau a rhoi derbynebau

K1 gweithdrefnau eich sefydliad sy’n ymwneud â thalu am siwrneiau, a sut i’w dilyn, gan gynnwys dulliau talu
K2 yr angen i roi gwybodaeth gywir i deithwyr ynglŷn â thalu am siwrneiau a thaliadau eraill
K3 y gwahanol ddulliau talu, gan gynnwys arian parod, talebau neu basys
K4 eich awdurdod i ddelio â phroblemau’n ymwneud â thalu am siwrneiau K5 y gofynion diogelwch ar gyfer storio taliadau
K6 y rheoliadau a’r polisïau sy’n gysylltiedig â thocynnau gostyngol
K7 sut i ddefnyddio systemau rhagdalu fel docedi
K8 y gwahanol fathau o systemau talu gan gynnwys rhai ar gyfer oedolion, plant, tocynnau gostyngol a grwpiau teithwyr arbennig
K9 sut i ddelio â phroblemau fel taliadau sy’n cael eu gwneud â phasys sydd wedi dod i ben neu sydd heb eu hawdurdodi neu symiau arian anghywir

Cadw cofnod o daliadau

K10 gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi taliadau
K11 pwysigrwydd gwiriadau diogelwch a diogelwch personol, a sut i’w cynnal
y tu mewn a’r tu allan i’r cerbyd wrth drosglwyddo arian
K12 gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwirio’r taliadau rydych wedi’u cael, yn enwedig os oes problemau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwybodaeth Ychwanegol

Eich sefydliad
Hwn fyddai’r cwmni rydych yn gweithio iddo (gan gynnwys gwirfoddolwyr) neu, os ydych yn hunangyflogedig, y rheolau rydych wedi’u gosod ar eich cyfer eich hun i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a thrwyddedu perthnasol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLRPVD17

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth

Cod SOC

8213

Geiriau Allweddol

Taliadau am siwrneiau; taliadau, derbynneb; diogelwch