Cludo parseli, bagiau ac eitemau eraill yn y diwydiant cludiant cymunedol

URN: PPLRPVD15
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Cludo Teithwyr ar y Ffordd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 31 Maw 2013

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymwneud â chludo parseli, bagiau ac eitemau eraill. Dylech allu derbyn a llwytho eitemau, dadlwytho a throsglwyddo eitemau a delio ag eitemau heb eu hawlio. Dylech wybod a deall polisïau eich sefydliad ar ddelio ag eitemau.

Mae’r Safon hon yn cynnwys dwy elfen:
1. Derbyn a llwytho parseli, bagiau ac eitemau eraill i’w cludo
2. Dadlwytho a throsglwyddo parseli, bagiau ac eitemau eraill

Mae’r Safon hon ar gyfer
Mae’r safon hon ar gyfer gyrwyr cerbydau cludiant cymunedol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Derbyn a llwytho parseli, bagiau ac eitemau eraill i’w cludo

P1 cadarnhau, pan yn briodol, bod manylion adnabod eitemau yn cyrraedd y safon angenrheidiol ar gyfer eu cludo
P2 rhoi gwybod i gwsmeriaid a theithwyr mewn ffordd gwrtais a chymwynasgar os na ellir derbyn a chludo eitemau
P3 rhoi gwybod i gwsmeriaid neu deithwyr am eitemau sydd wedi’u difrodi neu sy’n broblemus cyn eu llwytho
P4 llwyddo a diogelu eitemau (er enghraifft, bagiau siopa) drwy ddefnyddio’r dulliau cymeradwy ac arferion diogel, gan gynnwys defnyddio cyfarpar yn gywir os yw ar gael
P5 dosbarthu’r eitemau o fewn y cerbyd i gadw at arferion diogel
P6 cludo unrhyw eitemau’n unol â’r rheoliadau neu’r canllawiau perthnasol
P7 defnyddio technegau codi priodol i godi bagiau
P8 bod yn ymwybodol o gynnwys unrhyw eitemau sy’n cael eu cludo heb berchennog y gofynnwyd i chi eu cludo ac asesu a ydynt yn briodol i gael eu cludo yn y cerbyd

Dadlwytho a throsglwyddo parseli, bagiau ac eitemau eraill Rhaid i chi allu:

**P9 osgoi achosi difrod i eitemau wrth eu dadlwytho
P10 dadlwytho eitemau drwy ddefnyddio’r dulliau cymeradwy ac arferion diogel, gan gynnwys defnyddio cyfarpar yn gywir
P11 gofyn i bobl eraill am help os bydd angen
P12 cadarnhau bod pob parsel neu fag yn cael eu trosglwyddo i’r bobl gywir
P13 cael derbynneb am barseli neu fagiau, os yn gymwys, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
P14 ailddosbarthu ac ailddiogelu llwythi rhannol yn unol ag arferion diogel
P15 cadarnhau bod y cerbyd a’r cyffiniau o’i gwmpas yn glir o eitemau sydd i’w dadlwytho
P16 defnyddio dulliau codi priodol i godi bagiau
P17 cofnodi a delio â bagiau wedi’u difrodi yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Derbyn a llwytho parseli, bagiau ac eitemau eraill i’w cludo

K1 y ffyrdd priodol o godi a thrafod eitemau’n ddiogel
K2 sut i ddelio ag eitemau problemus neu sydd wedi’u difrodi
K3 yr arferion diogel priodol ar gyfer llwytho eitemau ar gerbydau, gan gynnwys defnyddio cyfarpar os yw ar gael
K4 arferion diogel perthnasol i ddosbarthu eitemau
K5 y rheoliadau/canllawiau perthnasol, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â chodi a chario eitemau sy’n cael eu cludo
K6 y gweithdrefnau gwasanaethau cwsmeriaid cymeradwy ar gyfer delio â gwahanol eitemau
K7 eich cyfrifoldebau chi ar gyfer llwytho’r cerbyd yn gywir a chadw’r eitemau’n ddiogel
K8 canlyniadau trafod bagiau’n amhriodol
K9 sut i ddelio â gwahanol fathau o fagiau gan gynnwys bagiau arferol, bagiau trwm neu dros bwysau, bagiau mawr ac eitemau afreolaidd fel sgis a phramiau
K10 y risgiau sy’n gysylltiedig â thrafod a throsglwyddo eitemau
K11 y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer (er enghraifft, COSSH) sy’n ymwneud â chario sylweddau a all fod yn beryglus i iechyd

Dadlwytho a throsglwyddo parseli, bagiau ac eitemau eraill

K12 y dulliau ar gyfer codi a thrafod eitemau’n ddiogel
K13 yr arferion diogel perthnasol ar gyfer dadlwytho eitemau o gerbydau, gan gynnwys defnyddio cyfarpar
K14 gweithdrefn eich sefydliad ar gyfer delio ag eitemau sydd wedi’u difrodi wrth eu cludo
K15 yr arferion diogel perthnasol ar gyfer dosbarthu eitemau
K16 y canllawiau cymeradwy ar gyfer gofyn am help gan eraill i ddelio ag eitemau
K17 eich cyfrifoldebau chi i lwytho’r cerbyd yn gywir a chadw’r eitemau’n ddiogel
K18 canlyniadau trafod bagiau’n amhriodol i ddiogelwch


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwybodaeth Ychwanegol

Eitemau
Pan gyfeirir atynt yn y meini prawf perfformiad a gwybodaeth a dealltwriaeth mae hyn yn golygu parseli a bagiau
Eich sefydliad
Hwn fyddai’r cwmni rydych yn gweithio iddo (gan gynnwys gwirfoddolwyr) neu, os ydych yn hunangyflogedig, y rheolau rydych wedi’u gosod ar eich cyfer eich hun i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a thrwyddedu perthnasol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLRPVD15

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth

Cod SOC

8213

Geiriau Allweddol

Cludo; parseli; bagiau; cerbyd, llwytho; dadlwytho