Cynorthwyo dysgwyr drwy fentora a hyfforddi yn y gweithle

URN: PPLRPVD12
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Cludo Teithwyr ar y Ffordd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 31 Maw 2013

Trosolwg

Mae’r Safon hon wedi’i hanelu at staff sy’n hyfedr yn eu disgyblaeth benodol ond sy’n dymuno datblygu a chynorthwyo staff newydd a phresennol i natur y ddwy swyddogaeth o fentora a hyfforddi’n gwbl ddealladwy a bod amgylchiadau priodol yn cael eu creu lle gall y ddwy swyddogaeth hon ddigwydd. Mae’n cynnwys y sgiliau a’r cymwyseddau gofynnol i roi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i ddysgwyr am eu rolau a’u disgwyliadau yn ogystal â rhoi anogaeth a chymorth iddynt i sicrhau eu bod yn parhau i gael eu symbylu. Yn benodol, mae’n edrych ar y broses fentora, meithrin a chynnal perthynas fentora, rhoi cymorth mentora a darparu hyfforddiant sy’n ymwneud â’r swydd.

Bydd dilyn arferion gweithio perthnasol yn allweddol bob amser. Bydd eich cyfrifoldebau’n golygu eich bod yn cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol ar gyfer y gweithgarwch mentora a hyfforddi sy’n digwydd a rhoi gwybod am unrhyw broblemau yn ymwneud â’r gweithgarwch i’r awdurdod perthnasol. Os, wrth adolygu gweithgarwch mentora a hyfforddi, y gwelir fod angen newid neu addasu’r cynlluniau gwreiddiol, disgwylir y byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad i lunio cynllun arall heb amharu ar ansawdd y canlyniad.

Mae’r Safon hon yn cynnwys dwy elfen:
1. Cynllunio, cyflwyno a chynnal y broses hyfforddi
2. Cynllunio, cyflwyno a chynnal y broses fentora

Mae’r Safon hon ar gyfer
Mae’r Safon hon yn benodol ar gyfer y sawl sy’n gyfrifol am fentora a hyfforddi


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynllunio, cyflwyno a chynnal y broses hyfforddi

P1 rhestru priodoleddau personol hyfforddwr effeithiol
P2 rhestru’r buddiannau a all ddeillio o hyfforddiant
P3 canfod anghenion y dysgwyr a’r adnoddau a’r cyfleusterau sydd eu hangen, gan gynnwys adnoddau TG, i ymgymryd â rôl hyfforddwr i’w helpu i ddiwallu’r anghenion hynny
P4 canfod ffynonellau gwybodaeth a chymorth i helpu i gyflawni rôl yr hyfforddwr
P5 cytuno sut i fwrw ymlaen ac y bydd unrhyw broblemau’n cael eu hadolygu yn ystod y broses hyfforddi
P6 cynllunio a chynnal y broses hyfforddi o fewn terfynau eich cyfrifoldebau

Cynllunio, cyflwyno a chynnal y broses fentora

P7 rhestru priodoleddau personol mentor effeithiol
P8 rhestru’r buddiannau a all ddeillio o raglen fentora
P9 canfod anghenion y dysgwyr a’r adnoddau a’r cyfleusterau sydd eu hangen, gan gynnwys adnoddau TG, i ymgymryd â rôl fentora i’w helpu i ddiwallu’r anghenion hynny
P10 canfod ffynonellau gwybodaeth a chymorth i helpu i gyflawni rôl y mentor
P11 cytuno sut i fwrw ymlaen ac y bydd unrhyw broblemau’n cael eu hadolygu yn ystod y broses fentora
P12 cynllunio a chynnal y broses fentora o fewn terfynau eich cyfrifoldebau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynllunio, cyflwyno a chynnal y broses hyfforddi**

K1 y ddeddfwriaeth, rheoliadau ac arferion iechyd a diogelwch perthnasol a’r arferion gweithio diogel sy’n berthnasol i’r gweithle
K2 rôl yr hyfforddwr
K3 y broses hyfforddi, yn benodol sut mae:
  K3.1 darparu gweithgarwch hyfforddi priodol ar gyfer sefyllfaoedd penodol gan gynnwys rhaglenni TG
  K3.2 cynnig cyfleoedd yn y gweithle i ddysgwyr gael datblygu sgiliau a magu hyder
  K3.3 cynllunio a monitro gweithgarwch hyfforddi
  K3.4 hybu’r strwythurau sydd ar gael i ddysgwyr

K4 technegau hyfforddi, yn benodol sut i ddefnyddio:
  K4.1 pennu amcanion a thechnegau
  K4.2 dadansoddi tasgau
  K4.3 datblygu cynllun
  K4.4 cyfarwyddo drwy rannu gwybodaeth a sgiliau
  K4.5 cyfleu’r ffordd fwyaf effeithiol i ddysgwyr, er enghraifft, wynebu yn wyneb, grwpiau bach
  K4.6 cael a rhoi adborth
  K4.7 dadansoddi cryfderau a gwendidau dysgwyr a’u helpu i gywiro gwendidau
K5    priodoleddau hyfforddwyr effeithiol  
K6    ffactorau sy’n rhwystro dysgu
K7     y problemau mae newydd-ddyfodiaid yn eu profi gan gynnwys, pan yn berthnasol, rhai o dramor sydd angen sgiliau iaith er enghraifft, yn ogystal â staff profiadol sydd angen datblygiad pellach yn sgiliau’r gweithle
K8    graddau eich cyfrifoldebau eich hun a phwy y dylech gysylltu â hwy os oes gennych broblemau na allwch eu datrys

Cynllunio, cyflwyno a chynnal y broses fentora**

K9    y ddeddfwriaeth, gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol a gweithdrefnau gweithio diogel sy’n berthnasol i’r gweithle
K10    rôl mentor
K11    gweithdrefnau mentora gan gynnwys rheolau cyfrinachedd a’u rôl yn y polisi hyfforddi
K12    y broses fentora, yn benodol sut i:
  K12.1 deall buddiannau rhaglen fentora
  K12.2 cynnig cyfleoedd yn y gweithle i ddysgwyr fyfyrio ar eu perfformiad, i ddatblygu sgiliau a magu hyder                 
  K12.3 cynllunio a monitro gweithgarwch mentora
K13 nodweddion personol mentoriaid effeithiol
K14 y problemau a brofir gan bob newydd-ddyfodiad gan gynnwys, pan yn berthnasol, rhai o dramor sydd angen, er enghraifft, sgiliau iaith, yn ogystal â staff profiadol sydd angen datblygiad pellach yn sgiliau’r gweithle
K15 graddfa eich cyfrifoldeb eich hun ac at bwy y dylech droi os oes gennych broblemau na allwch eu datrys


Cwmpas/ystod

Gwybodaeth Ychwanegol

Gweithgarwch mentora a hyfforddi
Dylech allu cyflwyno gweithgarwch mentora a hyfforddi i ystod o unigolion a fydd yn cynnwys, fel bydd yn briodol:
1. Newydd-ddyfodiaid
2. Unigolion sy’n anghyfarwydd â mater technegol penodol
3. Unigolion dan hyfforddiant i gynyddu sgiliau’r gweithle
4. Unigolion sy’n profi anhawster mewn agweddau technegol penodol ar eu gwaith.

Dulliau o gyflwyno gweithgarwch
Dylech allu cyfathrebu yn y ffyrdd canlynol:
1. Cyfathrebu geiriol wyneb yn wyneb
2. Trafodaethau mewn grwpiau bach
3. Cyflwyniad i faterion technegol ar gyfer grwpiau bach
4. Cyfathrebu ysgrifenedig
5. Rhaglenni hyfforddi seiliedig ar TG.


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Hyfforddi
Helpu, rhoi adborth a chynghori pobl i ddysgu a/neu wella yn eu rôl. Rhaid i hyfforddwr feddu ar brofiad o’r rôl maent yn hyfforddi unigolyn i’w chyflawni
Mentora
Helpu ac annog pobl i fyfyrio ar eu perfformiad ac i reoli eu dysgu eu hunain i’w galluogi i wneud y gorau o’u potensial, i ddatblygu eu sgiliau a gwella eu perfformiad


Dolenni I NOS Eraill

Mae'r Safon hon yn seiliedig ar NOS PPLBACEM38 a PPLBACEM39 o gyfres Peirianneg a Chynnal a Chadw Bysiau a Choetsys People 1st.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLRPVD12

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth

Cod SOC

8213

Geiriau Allweddol

Mentora; hyfforddi; dysgwyr; gweithle