Gweithredu gyrru amddiffynnol yn y diwydiant trafnidiaeth teithwyr ffyrdd

URN: PPLRPVD11
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Cludo Teithwyr ar y Ffordd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 31 Maw 2013

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymwneud â gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau i yrru’n amddiffynnol a sut i leihau risgiau a damweiniau. Dylech allu gwella eich ymwybyddiaeth, eich gallu i ragweld a chynllunio i fod yn yrrwr mwy amddiffynnol. Dylech allu rhagweld ymddygiad ac agwedd defnyddwyr eraill y ffordd a datblygu gwybodaeth am yr arddull gywir y byddai gyrrwr amddiffynnol yn ei fabwysiadu tuag atynt.

Mae’r Safon hon yn cynnwys dwy elfen:
1. Deall buddiannau gyrru amddiffynnol a’r ffactorau sy’n effeithio ar yrru
2. Gyrru’n amddiffynnol

Mae’r Safon hon ar gyfer
Mae’r safon hon ar gyfer gyrwyr yn y diwydiant trafnidiaeth teithwyr ffyrdd


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Deall buddiannau gyrru amddiffynnol a’r ffactorau sy’n effeithio ar yrru

P1 deall buddiannau gyrru amddiffynnol i chi eich hun, i ddefnyddwyr eraill y ffordd ac i’ch sefydliad
P2 deall prif nodweddion y cerbyd y mae angen eu hystyried wrth yrru
P3 deall y pethau i’w hystyried wrth gludo nwyddau neu deithwyr

Gyrru’n amddiffynnol

P4 bod yn ymwybodol o swyddogaethau a chyfleusterau’r cerbyd sy’n bwysig i yrru’n amddiffynnol
P5 gwirio eich cerbyd cyn cychwyn ar siwrnai
P6 gyrru’r cerbyd yn ddiogel mewn sefyllfa beryglus
P7 gyrru’n amddiffynnol mewn gwahanol amodau ar y ffordd
P8 gyrru’n amddiffynnol ar ffyrdd gwahanol gan osgoi nodweddion a pheryglon a all effeithio ar eich gyrru
P9 bod yn ymwybodol o ddefnyddwyr y ffordd y dylech eu hystyried wrth yrru
P10 gyrru mewn amodau tywydd gwahanol
P11 rhagweld ac adweithio i weithredoedd defnyddwyr eraill y ffordd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Deall buddiannau gyrru amddiffynnol a’r ffactorau sy’n effeithio ar yrru

K1 sut mae gyrru amddiffynnol yn lleihau risgiau a damweiniau
K2 sut mae gyrru amddiffynnol yn lleihau straen
K3 sut mae gyrru amddiffynnol yn arwain at ddefnyddio llai o danwydd
K4 sut mae gyrru amddiffynnol yn lleihau traul ar y cerbyd
K5 buddiannau ariannol eraill gyrru amddiffynnol fel yswiriant
K6 gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am ddiffygion neu broblemau
K7 y ddeddfwriaeth genedlaethol a lleol, yr is-ddeddfau perthnasol a’r arferion cyfredol sy’n ymwneud â’r gwasanaeth
K8 y rheoliadau perthnasol ar gyfer cludo teithwyr
K9 sut mae ffactorau fel maint, mannau dall a hydrinedd yn effeithio ar yrru amddiffynnol
K10 sut i ystyried nodweddion y cerbyd wrth yrru, fel uchder a hyd
K11 sut i yrru’r cerbyd mewn amodau gwahanol ar y ffordd
K12 ystyriaethau’n ymwneud â chodi teithwyr, gyrru a gollwng teithwyr a nwyddau
K13 sut i wneud yn siŵr bod y cerbyd yn ddiogel ac mewn cyflwr digon da i’w yrru
K14 sut mae cyflwr y cerbyd ar gyfer y ffordd yn gallu effeithio ar yrru amddiffynnol

Gyrru’n amddiffynnol

K15 swyddogaeth cyfleusterau’r cerbyd fel rheolaeth cyflymder, y gerau ac ati K16 sut i wynebu a delio â gwahanol beryglon
K17 sut i yrru i ffwrdd, stopio a llywio’r cerbyd
K18 sut i fagio’r cerbyd yn ddiogel
K19 sut i ddelio â gwahanol fathau o nodweddion ar y ffordd a’r peryglon all godi eu sgil
K20 sut i fod yn ymwybodol o ddefnyddwyr eraill y ffordd ac eraill yn y cyffiniau, fel plant ac anifeiliaid
K21 y gwahanol beryglon a achosir gan y tywydd a sut y dylid rhoi sylw iddynt wrth yrru
K22 sut i ragweld ac adweithio i weithredoedd defnyddwyr eraill y ffordd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

*Gwybodaeth Ychwanegol*

Gyrru amddiffynnol
Gyrru mewn ffordd sy’n arbed bywydau, amser ac arian, er gwaethaf yr amgylchiadau o’ch cwmpas a gweithredoedd pobl eraill. Adwaenir hefyd fel gyrru er mwyn diogelwch a darbodusrwydd
Eich sefydliad
Hwn fyddai’r cwmni rydych yn gweithio iddo (gan gynnwys gwirfoddolwyr) neu, os ydych yn hunangyflogedig, y rheolau rydych wedi’u gosod ar eich cyfer eich hun i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a thrwyddedu perthnasol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLRPVD11

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth

Cod SOC

8213

Geiriau Allweddol

Gyrru; amddiffynnol; cerbyd