Gweithredu gwasanaeth cludiant cymunedol i blant a phobl ifanc

URN: PPLRPVD08
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Cludo Teithwyr ar y Ffordd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 31 Maw 2013

Trosolwg

​Mae’r Safon hon yn ymwneud â darparu gwasanaeth cludiant i blant a phobl ifanc. Dylech allu codi a gollwng plant a phobl ifanc, gweithredu’r gwasanaeth a delio â digwyddiadau a all godi yn ystod siwrnai. Dylech wybod a deall gweithdrefnau eich sefydliad o ran cludo plant a phobl ifanc, a’ch cyfrifoldeb i roi gwybod am ddigwyddiadau amheus a all fod yn gysylltiedig ag amddiffyn plant.

Mae’r Safon hon yn cynnwys pedair elfen:
1. Deall eich dyletswydd a’ch rhwymedigaethau wrth gludo plant a phobl ifanc
2. Cadarnhau amserlenni
3. Codi a gollwng plant a phobl ifanc
4. Delio â digwyddiadau yn ystod siwrnai

Mae’r Safon hon ar gyfer
Mae’r Safon hon ar gyfer gyrwyr cerbydau cludiant cymunedol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Deall eich dyletswydd a’ch rhwymedigaethau wrth gludo plant a phobl ifanc

P1 gosod a sicrhau seddi plant a seddi diogel yn gywir mewn ffordd sy’n cydymffurfio â’r rheoliadau perthnasol
P2 darparu cymorth pan fydd angen i osod gwregys diogelwch neu sedd ddiogel ar gyfer plentyn yn y ffordd briodol
P3 cyfathrebu’n effeithiol ac eglur â phlant neu bobl ifanc
P4 cynllunio eich amser pan fydd hynny’n bosibl i wneud yn siŵr eich bod yn cyrraedd y man casglu neu’r gyrchfan ar amser
P5 delio â phlant a phobl ifanc mewn ffordd gyfeillgar a chymwynasgar yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad i gynnal morâl ac ewyllys da
P6 cael help gan yr unigolyn priodol mewn sefyllfaoedd sut y tu allan i’ch awdurdod neu eich gallu i ddelio â hwy

Cadarnhau amserlenni

P7 bod ar ddyletswydd ar amser ac yn y lle cywir
P8 cael gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni gan gynnwys gwybodaeth am amodau gwael a chadarnhau bod yr wybodaeth yn gyflawn
P9 cael cyngor ar siwrneiau amgen gan yr unigolyn priodol os yw’r llwybrau a’r amserlenni a fwriadwyd wedi’u heffeithio
P10 dweud ar unwaith wrth yr unigolyn priodol am unrhyw amhariad neu newid i lwybrau neu amserlenni a fwriadwyd a hynny mewn ffordd gyfeillgar a chymwynasgar
P11 rhoi gwybod i’ch sefydliad am unrhyw bryderon yn ymwneud ag amddiffyn plant yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad (er enghraifft, oedolion amheus yn sefyllian mewn mannau gollwng)

Codi a gollwng plant a phobl ifanc

P12 trefnu i aros yn y mannau a fwriadwyd pan fydd hynny’n ymarferol ac yn bosibl
P13 cadw at y rheoliadau, yr arwyddion a’r cyfarwyddiadau ar stopio ac aros
P14 cadw mewn cof ddiogelwch a chyfforddusrwydd plant a phobl ifanc yn eich cerbyd, cerddwyr a defnyddwyr eraill y ffordd
P15 osgoi sefyllfaoedd peryglus posibl a achosir gan gerbydau eraill a rhwystrau
P16 Codi a gollwng plant a phobl ifanc mewn ffordd ddiogel, gyfeillgar a chymwynasgar
P17 cadw at y ddeddfwriaeth gyfredol, y rheoliadau a’r codau ymarfer sy’n ymwneud â chludo plant a phobl ifanc (er enghraifft, defnyddio gwregysau diogelwch)
P18 cadw cofnod o fanylion siwrneiau yn ôl yr angen

Delio â digwyddiadau yn ystod siwrnai

P19 ymateb yn brydlon ac effeithiol i blant a phobl ifanc yn eich cerbyd sy’n rhoi gwybod i chi am ddigwyddiadau annisgwyl
P20 cymryd camau priodol yn unol â chanllawiau cymeradwy os bydd plentyn neu berson ifanc yn cael ei anafu neu ei daro’n wael
P21 gwneud trefniadau i’r cerbyd gael ei barcio’n ddiogel os na allwch barhau i yrru, yn unol â chanllawiau cymeradwy eich sefydliad
P22 lleihau, i’r graddau posibl, anghyfleustra neu bryderon i’r plentyn neu berson ifanc, yn enwedig os bydd angen i chi eu trosglwyddo i gerbyd arall
P23 rhoi gwybod i’r unigolyn priodol os gall eich gwasanaeth chi, neu wasanaethau eraill, gael eu heffeithio gan y digwyddiad
P24 hysbysu eich sefydliad, gofalwr y teithiwr, yr ysgol neu goleg o unrhyw oedi i’r gwasanaeth yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
P25 cael help gan yr unigolyn priodol os na allwch ddelio’n effeithiol â’r digwyddiad
P26 ymateb yn bositif, o fewn y ddeddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau eich sefydliad, i ymddygiad amhriodol gan blant a phobl ifanc ar y siwrnai
P27 cadw a phrosesu cofnodion manwl o’r digwyddiad yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad            


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Deall eich dyletswydd a’ch rhwymedigaethau wrth gludo plant a phobl ifanc

K1 y rheoliadau a’r gofynion perthnasol ar gyfer cludo plant a phobl ifanc gan gynnwys gwiriadau CRB/SCRO
K2 eich dyletswyddau, eich cyfrifoldeb a’ch rhwymedigaethau wrth gludo plant a phobl ifanc
K3 y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n gysylltiedig â gosod a defnyddio seddi plant, clustogau hybu, seddi diogel a gwregysau diogelwch
K4 cyfrifoldebau hebryngwyr plant
K5 sut mae cyfathrebu â phlant neu bobl ifanc i gael neu i roi gwybodaeth
K6 sut mae gwybod a yw plentyn neu berson ifanc yn drallodus, ar goll neu’n ansicr
ynglŷn â’u man codi
K7 y ffordd briodol o ymddwyn pan fydd plentyn neu berson ifanc yn y cerbyd
K8 cyfrifoldeb y gyrrwr o ran cludo plant a phobl ifanc yn ddiogel
K9 pwysigrwydd cadw amser

Cadarnhau amserlenni

K10 gwybod sut mae cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch am lwybrau, rhestrau dyletswyddau o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys rhestrau dyletswyddau, hysbysfyrddau, cydweithwyr neu ysgolion
K11 sut i asesu’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch am lwybrau ac amserlenni fel: y tywydd neu amodau ar y ffyrdd, damweiniau, cerbydau wedi torri neu ddargyfeiriadau
K12 pam mae’n bwysig cadw at y llwybrau a’r amserlenni a drefnwyd
K13 gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer newid llwybrau neu amserlenni
K14 sut i gyfleu i’r unigolion priodol a theithwyr pan fydd angen newid siwrnai a drefnwyd
K15 materion sy’n gysylltiedig ag amddiffyn plant a gweithdrefnau eich sefydliad
ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau

Codi a gollwng plant a phobl ifanc

K16 y ddeddfwriaeth a’r rheoliadau perthnasol ar gyfer stopio ac aros ar y briffordd
K17 y ddeddfwriaeth a’r rheoliadau perthnasol sy’n ymwneud â chludo plant a phobl ifanc
K18 sut mae adnabod ac addasu ar gyfer sefyllfaoedd peryglus posibl sy’n ymwneud â chychwyn neu stopio

Delio â digwyddiadau yn ystod siwrnai

K19 yr angen i ddelio’n brydlon ac effeithiol â digwyddiadau yn ystod siwrnai, gan
gynnwys: y cerbyd yn torri, damweiniau, anafiadau neu salwch, amodau ffyrdd neu dywydd gwael; neu ymddygiad annerbyniol teithwyr
K20 sut i asesu ac ystyried yr opsiynau os fewn eich gallu a’ch cyfrifoldeb wrth ddelio â digwyddiadau yn ystod siwrnai
K21 gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio ag anaf neu salwch a digwyddiadau lle na allwch barhau i yrru a bod yn rhaid trosglwyddo plant neu bobl ifanc o’ch cerbyd
K22 gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio â phlant ar eu pen eu hunain K23 gweithdrefnau eich sefydliad ar sut i gadw mewn cysylltiad â’r gweithredwr, gofalwyr y teithwyr, ysgolion neu golegau os bydd problem bosibl yn codi ynghylch y trefniadau teithio
K24 sut i dawelu meddyliau phlant a phobl ifanc a lleddfu eu pryderon i’r graddau posibl
K25 terfynau eich awdurdod wrth ddelio ag ymddygiad amhriodol ymhlith plant a phobl ifanc yn eich cerbyd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

*Gwybodaeth Ychwanegol*

Digwyddiad
Digwyddiad heb ei gynllunio, na ellir ei reoli, a allai fod wedi arwain at anafiadau i bobl neu ddifrod i gerbydau a chyfarpar, neu ryw golledion eraill
Eich sefydliad
Hwn fyddai’r cwmni rydych yn gweithio iddo (gan gynnwys gwirfoddolwyr) neu, os ydych yn hunangyflogedig, y rheolau rydych wedi’u gosod ar eich cyfer eich hun i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a thrwyddedu perthnasol



Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLRPVD08

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth

Cod SOC

8213

Geiriau Allweddol

Plant; pobl ifanc; cludiant; siwrnai; digwyddiad