Meithrin perthynas waith effeithiol â chydweithwyr yn y diwydiant trafnidiaeth teithwyr ffyrdd
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymdrin â pherthynas waith effeithiol â’ch cydweithwyr a chydnabod pwysigrwydd cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle. Dylech gydnabod a deall effeithiau ymddygiad negyddol ar berthnasoedd gwaith. Mae cyfathrebu effeithiol â chydweithwyr yn rhan bwysig o’r Safon hon.
Mae’r Safon hon yn cynnwys tair elfen:
1. Meithrin perthynas waith effeithiol â’ch cydweithwyr
2. Cyfathrebu’n effeithiol â’ch cydweithwyr
3. Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle
Mae’r Safon hon ar gyfer
Mae’r Safon hon ar gyfer pawb sy’n gweithio mewn gweithrediadau trafnidiaeth teithwyr ffyrdd gan gynnwys gyrwyr a rhai mewn rolau sy’n helpu teithwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Meithrin perthynas waith effeithiol â’ch cydweithwyr
P1 ymddwyn tuag at gydweithwyr mewn ffordd gwrtais
P2 ymateb i geisiadau gan gydweithwyr yn brydlon a pharod, heb amharu’n ormodol ar eich gwaith eich hun
P3 cyflawni unrhyw ymgymeriadau rydych wedi’u rhoi i gydweithwyr yn y ffordd y cytunwyd ac o fewn yr amserlen
P4 darparu gwybodaeth y mae eich cydweithwyr yn gofyn amdani yn gywir, eglur a phrydlon
P5 cymryd rhan yn ôl yr angen mewn trafodaethau am berthnasoedd gweithio
P6 helpu cydweithwyr sy’n dysgu, i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth
P7 trafod problemau â’r unigolyn priodol os oes anawsterau mewn perthnasoedd gweithio, neu arferion gweithio
P8 bod yn ymwybodol o feysydd gwrthdaro posibl â chydweithwyr
P9 trafod â chydweithwyr i ddatrys unrhyw wrthdaro
Cyfathrebu’n effeithiol â’ch cydweithwyr
P10 cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch gan gydweithwyr drwy ddefnyddio gweithdrefnau’r sefydliad
P11 rhoi gwybodaeth i gydweithwyr sy’n berthnasol ac a fydd yn ateb eu hanghenion
P12 cyfleu gwybodaeth mewn ffordd sy’n briodol i’ch gwaith
P13 cadarnhau eich bod wedi’ch awdurdodi i roi’r wybodaeth a ddarperir gennych
P14 cael help mewn achosion lle’r ydych yn cael anhawster i gyfathrebu’n effeithiol â’ch cydweithwyr
P15 deall gwendidau eich sgiliau cyfathrebu eich hun
Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle
P16 gwneud yn siŵr bod eich ymddygiad, eich geiriau a’ch gweithredoedd yn hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle
P17 deall eich cyfrifoldebau a’ch rhwymedigaethau personol o dan y ddeddfwriaeth cydraddoldeb a’r codau ymarfer perthnasol
P18 canfod rhagfarn, gwahaniaethu a bwlio yn y gweithle
P19 delio ag achosion o ragfarn, gwahaniaethu a bwlio yn y gweithle o fewn cyfyngiadau eich awdurdod eich hun a gweithdrefnau’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cyflawni perthynas waith effeithiol â’ch cydweithwyr
K1 yr angen am berthnasoedd gweithio effeithiol ac ewyllys da yn y gweithle K2 safonau a chanllawiau eich sefydliad sy’n ymwneud ag ymddygiad yn y gweithle
K3 sut mae cydbwyso help i’ch cydweithwyr a’ch llwyth gwaith eich hun
K4 cyfyngiadau eich cyfrifoldebau eich hun a’ch cydweithwyr
K5 anghenion dysgu cydweithwyr sy’n cael eu hyfforddi
K6 gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio gyda a thrafod anawsterau mewn perthnasoedd gweithio
K7 gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio â gwrthdaro yn y gweithle
K8 y sgiliau y gellid eu defnyddio i ddatrys gwrthdaro a delio ag ymddygiad ymosodol yn y gweithle
Cyfathrebu’n effeithiol â’ch cydweithwyr
K9 yr angen i gyfleu gwybodaeth gywir a pherthnasol yn y gweithle
K10 y dulliau o gael a rhoi gwybodaeth rhwng cydweithwyr
K11 terfynau eich awdurdod o ran darparu gwybodaeth
K12 y gwahanol fformatau y gallwch eu defnyddio i gyfleu gwybodaeth a’r defnydd ohonynt
K13 yr angen i ddarparu, a ffyrdd o roi, cyfleoedd i gydweithwyr i gyfathrebu’n agored a dirwystr
K14 gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio ac i roi gwybod am anawsterau rhag cyfathrebu’n agored a dirwystr
K15 sut i adnabod a delio â gwendidau yn eich sgiliau cyfathrebu eich hun
Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle
K16 pam mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle’n bwysig
K17 yr hyn sy’n gallu achosi rhagfarn yn y gweithle
K18 polisi eich sefydliad ar gydraddoldeb ac amrywiaeth
K19 y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol sydd â’r nod o gyflawni cydraddoldeb ac amrywiaeth
K20 eich cyfrifoldeb o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwybodaeth Ychwanegol
Eich sefydliad
Hwn fyddai’r cwmni rydych yn gweithio iddo (gan gynnwys gwirfoddolwyr) neu, os ydych yn hunangyflogedig, y rheolau rydych wedi’u gosod ar eich cyfer eich hun i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a thrwyddedu perthnasol