Delio ag argyfyngau a digwyddiadau yn ystod siwrnai sy’n cludo teithwyr yn y diwydiant cludiant cymunedol

URN: PPLRPVD05
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Cludo Teithwyr ar y Ffordd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 31 Maw 2013

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymdrin â digwyddiadau ac argyfyngau a all godi yn ystod siwrnai. Dylech allu asesu sefyllfa a phenderfynu pa gamau sydd angen eu cymryd i ddelio â gwiriadau ymyl y ffordd ac argyfyngau’n ymwneud â’r gyrrwr neu deithwyr. Dylech ddeall a bod yn gyfarwydd â gweithdrefnau eich sefydliad sy’n ymwneud â’r camau y gallwch eu cymryd yn ystod digwyddiad neu argyfwng.

Mae’r safon hon yn cynnwys tair elfen:
1. Asesu sefyllfaoedd a phenderfynu pa gamau sydd angen eu cymryd
2. Cymryd camau i ddelio â gwiriadau ymyl y ffordd gan yr heddlu neu awdurdodau ymyl y ffordd eraill
3. Cymryd camau i ddelio ag argyfyngau a digwyddiadau

Mae’r Safon hon ar gyfer
Mae’r safon hon ar gyfer gyrwyr cerbydau cludiant cymunedol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Asesu sefyllfaoedd a phenderfynu pa gamau sydd angen eu cymryd


P1 deall peryglon, argyfyngau neu ddigwyddiadau ar unwaith
P2 rhoi blaenoriaeth i’r camau sydd angen eu cymryd, yn unol â chanllawiau cymeradwy
P3 gwneud yn siŵr bod y camau y byddwch yn eu cymryd, pan yn bosibl, yn cydymffurfio â chanllawiau a gweithdrefnau eich sefydliad
P4 ystyried anghenion unigolion a gweddill y grŵp wrth benderfynu pa gamau i’w cymryd
P5 delio â theithwyr mewn ffordd gyfeillgar a chymwynasgar yn unol â chanllawiau eich sefydliad i gynnal eu morâl a chadw eu hewyllys da
P6 cael help gan yr unigolyn priodol mewn sefyllfaoedd sydd y tu allan i’ch awdurdod neu eich gallu i ddelio â hwy

Cymryd camau i ddelio â gwiriadau ymyl y ffordd gan yr heddlu neu awdurdodau ymyl y ffordd eraill

P7 cydnabod awdurdod y bobl hynny sydd â phwerau i ofyn i chi stopio ac i ofyn i chi am wybodaeth
P8 gwneud yn siŵr bod unrhyw gamau rydych yn eu cymryd yn cydymffurfio â’r gofynion statudol perthnasol a’u bod o fewn canllawiau eich sefydliad
P9 delio â theithwyr mewn ffordd gyfeillgar a chymwynasgar yn unol â chanllawiau eich sefydliad i gynnal eu morâl a chadw eu hewyllys da
P10 cael help gan yr unigolyn priodol mewn sefyllfaoedd sydd y tu allan i’ch awdurdod
P11 cadw a phrosesu cofnodion manwl o’r digwyddiad yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad

Cymryd camau i ddelio ag argyfyngau a digwyddiadau

P12 cymryd camau i ddelio ag argyfyngau a digwyddiadau â chanllawiau a gweithdrefnau eich sefydliad
P13 cymryd camau priodol os bydd teithiwr yn cael ei daro’n wael neu os bydd yn cael ei anafu yn unol â chanllawiau cymeradwy eich sefydliad
P14 cymryd camau sy’n lleihau anghyfleustra i deithwyr
P15 ystyried anghenion unigolion a gweddill y grŵp wrth benderfynu pa gamau i’w cymryd
P16 hysbysu teithwyr os na fydd modd parhau â’u siwrnai neu daith mewn ffordd sy’n hyrwyddo gofal i gwsmeriaid ac ewyllys da

P17 cadw a phrosesu cofnodion manwl o argyfyngau neu ddigwyddiadau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
P18 rhoi gwybod i’r holl bobl berthnasol a phriodol am newidiadau a wneir i siwrneiau neu wasanaethau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
P19 cael help o’r ffynonellau priodol mewn sefyllfaoedd sydd y tu hwnt i’ch awdurdod neu eich gallu i ddelio â hwy
P20 gwneud trefniadau’n unol â gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer parcio’r cerbyd os na allwch barhau i yrru


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Asesu sefyllfaoedd a phenderfynu pa gamau sydd angen eu cymryd


K1 natur argyfyngau a digwyddiadau posibl y gall fod angen i chi ddelio â hwy (er enghraifft, cerbyd mewn damwain neu’n torri, ymddygiad teithwyr, salwch neu farwolaeth, eiddo’n cael ei ddwyn, trychinebau naturiol, tanau a rhybuddion diogelwch)
K2 pa bryd a sut i gyfathrebu â gyrwyr eraill ynglŷn â pheryglon posibl, argyfyngau neu ddigwyddiadau (er enghraifft, gwaith ar y ffordd)
K3 gwybod sut i asesu sefyllfaoedd argyfyngus a chymryd camau priodol (er enghraifft, galw am gymorth a gofyn i deithwyr adael y cerbyd)
K4 sut i ystyried diogelwch yr holl deithwyr ym mhob sefyllfa sydd o fewn terfynau eich awdurdod
K5 canllawiau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio gyda a chofnodi argyfyngau a digwyddiadau
K6 y cyfrifoldebau sefydliadol a chyfreithiol perthnasol sydd arnoch i ddelio ag argyfyngau a digwyddiadau
K7 y pethau sy’n effeithio ar forâl ac ewyllys da teithwyr mewn argyfyngau neu ddigwyddiadau
K8 gwybod pa bryd y dylech alw am help pan fydd angen

Cymryd camau i ddelio â gwiriadau ymyl y ffordd gan yr heddlu neu awdurdodau ymyl y ffordd eraill

K9 y digwyddiadau posibl y gallech orfod delio â hwy
K10 y camau y gallwch eu cymryd ac y mae gennych awdurdod i’w cymryd
K11 y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n gysylltiedig â gwiriadau ymyl y ffordd a’r wybodaeth, y gwaith papur a’r cymorth sylfaenol y mae’n rhaid i chi eu rhoi’n unol â’r gyfraith
K12 terfynau awdurdod yr heddlu neu swyddog o awdurdod perthnasol arall
K13 y pethau sy’n effeithio ar forâl ac ewyllys da teithwyr mewn digwyddiadau o’r fath
K14 pa bryd y dylech alw am help os bydd angen

Cymryd camau i ddelio ag argyfyngau a digwyddiadau

K15 y camau y gallwch eu cymryd ac y mae gennych awdurdod i’w cymryd
K16 sut i gymryd camau i ddelio ag argyfyngau a digwyddiadau
K17 sut i leihau, i’r graddau posibl, unrhyw beryglon posibl wrth ddelio ag argyfyngau a digwyddiadau nodweddiadol sy’n gysylltiedig â theithio


K18 canllawiau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio gyda a rhoi gwybod am argyfyngau a digwyddiadau
K19 y cyfrifoldebau sefydliadol a chyfreithiol perthnasol sydd arnoch i ddelio ag argyfyngau a digwyddiadau
K20 y pethau sy’n effeithio ar forâl ac ewyllys da teithwyr mewn digwyddiadau
K21 sut a pha bryd y dylech alw am help os bydd ei angen arnoch
K22 gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio â theithwyr sy’n cael ei hanafu neu eu taro’n wael yn ystod siwrnai
K23 gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer parcio eich cerbyd os na allwch barhau i yrru


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwybodaeth Ychwanegol

Eich sefydliad
Hwn fyddai’r cwmni rydych yn gweithio iddo (gan gynnwys gwirfoddolwyr) neu, os ydych yn hunangyflogedig, y rheolau rydych wedi’u gosod ar eich cyfer eich hun i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a thrwyddedu perthnasol
Digwyddiad
Digwyddiad heb ei gynllunio, na ellir ei reoli, a allai fod wedi arwain at anafiadau i bobl neu ddifrod i gerbydau a chyfarpar, neu ryw golledion eraill
Argyfwng
Digwyddiad sydyn, heb ei ragweld lle mae angen gweithredu ar unwaith


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLRPVD05

Galwedigaethau Perthnasol

Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Gweithredu a chynnal a chadw trafnidiaeth

Cod SOC

8213

Geiriau Allweddol

Argyfwng; digwyddiad; teithwyr; siwrnai; gyrrwr; cerbydau; cludiant cymunedol