Delio’n effeithiol â theithwyr anodd

URN: PPLRPVD04
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Cludo Teithwyr ar y Ffordd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 31 Maw 2013

Trosolwg

​Mae’r Safon hon yn ymwneud â delio â theithwyr anodd. Dylech allu deall pan fydd ymddygiad teithiwr yn amhriodol a gallu delio â hyn mewn ffordd sy’n cydymffurfio â gweithdrefnau a chanllawiau sefydliadol perthnasol. Dylech allu gofyn am help os bydd angen a gwybod a deall pwy a all eich helpu. Dylech wybod a deall pa gamau y caniateir i chi eu cymryd. Mae cyfathrebu’n nodwedd allweddol o’r Safon hon.

Mae'r safon hon yn cynnwys dwy elfen:

1.Asesu sefyllfaoedd a phenderfynu pa gamau sydd angen eu cymryd
2. Cymryd camau i ddelio â theithwyr anodd

Mae'r Safon hon ar gyfer     **                                                          
Mae'r safon hon ar gyfer gyrwyr yn y diwydiant cludiant cymunedol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Asesu sefyllfaoedd a phenderfynu pa gamau sydd angen eu cymryd

P1 deall ar unwaith sefyllfaoedd sy’n cynnwys ymddygiad amhriodol gan deithwyr
P2 rhoi blaenoriaeth i’r camau mae angen eu cymryd, yn unol â chanllawiau sefydliadol cymeradwy
P3 gwneud yn siŵr bod y camau rydych yn bwriadu eu cymryd, pan yn bosibl, yn cydymffurfio â chanllawiau neu weithdrefnau sefydliadol cymeradwy
P4 ystyried anghenion teithwyr eraill gymaint â phosibl pan fyddwch yn delio â’r sefyllfa
P5 cael help gan ffynonellau priodol mewn sefyllfaoedd sut y tu hwnt i’ch awdurdod neu eich gallu i ddelio â hwy
P6 cynnal morâl ac ewyllys da teithwyr eraill, yn unol â chanllawiau sefydliadol cymeradwy

Cymryd camau i ddelio â theithwyr anodd

P7 cymryd camau i ddelio ag ymddygiad amhriodol teithwyr yn unol â gweithdrefnau a chanllawiau eich sefydliad
P8 cymryd camau mewn ffordd na fydd yn gwneud y sefyllfa’n waeth
P9 cymryd rheolaeth dros y sefyllfa mewn ffordd sy’n lleihau, i’r graddau posibl, unrhyw wrthdaro posibl
P10 cael help o ffynonellau priodol mewn sefyllfaoedd sydd y tu hwnt i’ch awdurdod neu eich gallu i ddelio â hwy
P11 ystyried anghenion teithwyr eraill, i’r graddau posibl, wrth weithredu
P12 sicrhau eich diogelwch eich hun, ac eraill, a’r cerbyd, pan fyddwch yn gweithredu
P13 rhoi gwybod am fanylion unrhyw ddigwyddiadau’n unol â gweithdrefnau eich sefydliad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Asesu sefyllfaoedd a phenderfynu pa gamau sydd angen eu cymryd

K1 sefyllfaoedd posibl sy’n ymwneud ag ymddygiad teithwyr y gall fod angen i chi ddelio â hwy
K2 y camau y gallwch eu cymryd ac y mae gennych awdurdod i’w cymryd
K3 gweithdrefnau a chanllawiau eich sefydliad ar gyfer delio a chofnodi manylion digwyddiadau sy’n ymwneud ag ymddygiad teithwyr
K4 y cyfrifoldebau sefydliadol a chyfreithiol perthnasol sydd arnoch wrth ddelio ag argyfyngau a digwyddiadau
K5 pryd a sut i gael help os bydd angen
K6 y pethau sy’n effeithio ar forâl ac ewyllys da teithwyr mewn argyfyngau neu ddigwyddiadau

Cymryd camau i ddelio â theithwyr anodd

K7 y camau y gallwch eu cymryd ac y mae gennych awdurdod i’w cymryd yn achos ymddygiad amhriodol
K8 y cyfrifoldebau sefydliadol a chyfreithiol perthnasol sydd arnoch wrth ddelio â digwyddiadau sy’n cynnwys teithwyr
K9 sut i gymryd camau ymatebol positif i ddelio â digwyddiadau sy’n cynnwys teithwyr
K10 pa bryd a sut y dylech gael help os oes angen
K11 sicrhau eich diogelwch eich hun, ac eraill, a’ch cerbyd
K12 y pethau sy’n effeithio ar forâl ac ewyllys da cwsmeriaid mewn argyfyngau neu ddigwyddiadau, gan gynnwys rhoi cyngor i deithwyr
K13 gweithdrefnau a chanllawiau eich sefydliad ar gyfer delio a chofnodi manylion argyfyngau a digwyddiadau
K14 y camau dilynol i’w cymryd ar ôl delio â theithiwr anodd gan gynnwys delio â’r effaith arnoch eich hun


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwybodaeth ychwanegol

Teithiwr Anodd
Yn y Safon hon y diffiniad o deithiwr anodd yw teithiwr sy’n arddangos ymddygiad amhriodol
Ymddygiad amhriodol
Byddai hyn yn ymddygiad sy’n cynnwys cam-drin geiriol neu gorfforol; gweithredoedd a allai achosi perygl i eraill, neu ddifrod i eiddo; sy’n mynd yn groes i amodau gwasanaeth; gweithredoedd anghyfreithlon neu sarhaus.
Eich sefydliad
Hwn fyddai’r cwmni rydych yn gweithio iddo (gan gynnwys gwirfoddolwyr) neu, os ydych yn hunangyflogedig, y rheolau rydych wedi’u gosod ar eich cyfer eich hun i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a thrwyddedu perthnasol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLRPVD04

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth

Cod SOC

8213

Geiriau Allweddol

Teithwyr; ymddygiad; gwrthdaro; digwyddiad; argyfwng; cludiant cymunedol