Sicrhau iechyd a diogelwch yn eich amgylchedd gwaith yn y diwydiant trafnidiaeth teithwyr ffyrdd

URN: PPLRPVD01
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Cludo Teithwyr ar y Ffordd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 31 Maw 2013

Trosolwg

Mae’r Safon Galwedigaethol Cenedlaethol hon yn ymwneud â sicrhau iechyd a diogelwch yn eich amgylchedd gwaith. Dylech allu adnabod y peryglon y gallech ddod ar eu traws pan fyddwch yn gweithio, asesu’r risgiau, a chyfyngu’r perygl i chi eich hun ac i eraill, a difrod i eiddo. Dylech wybod a deall beth yw’r risgiau, sut i’w cofnodi a pha gamau mae gennych yr awdurdod i’w cymryd i leihau’r perygl.

Mae’r Safon hon yn cynnwys dwy elfen:
1. Adnabod risgiau ac asesu risgiau i iechyd a diogelwch
2. Cyfyngu risg o anaf neu niwed i bobl ac eiddo

Mae’r Safon hon ar gyfer
Mae’r Safon hon ar gyfer pawb sy’n gweithio mewn gweithrediadau trafnidiaeth teithwyr ffyrdd gan gynnwys gyrwyr a rhai mewn rolau cynorthwyo teithwyr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Adnabod risgiau ac asesu risgiau i iechyd a diogelwch


P1 cydnabod eich dyletswyddau a’ch rhwymedigaethau statudol o ran iechyd a diogelwch
P2 adnabod peryglon a lefel y risg wirioneddol a phosibl sy’n gysylltiedig ag iechyd a diogelwch yn eich gweithle arferol
P3 penderfynu ar lefel y risg, a phwy a all gael eu heffeithio gan y risg honno
P4 cael help gan unigolyn priodol os nad ydych yn siŵr ynglŷn â lefel y risg
P5 canfod camau ataliol sy’n lleihau’r risg i’r graddau posibl, ac unrhyw effeithiau posibl y risg
P6 cofnodi digon o fanylion fel y bydd modd cymryd camau priodol yn y dyfodol
P7 rhoi canlyniadau asesiad risg ar waith
P8 hysbysu’r unigolyn priodol o fanylion llawn a manwl am y risgiau

*Cyfyngu risg o anaf neu niwed i bobl ac eiddo
*


P9 cymryd camau prydlon ac effeithiol i gyfyngu ar y risg heb gynyddu’r risg neu’r bygythiad i chi eich hun nac eraill
P10 bod yn sicr bod y camau rydych yn eu cymryd o fewn terfynau eich awdurdod a’ch gallu
P11 dilyn cyfarwyddiadau neu ganllawiau ar gyfer cyfyngu risgiau
P12 cael help ar unwaith os na allwch ddelio’n effeithiol â’r risg
P13 rhoi gwybodaeth neu gyfarwyddiadau eglur i eraill i’w galluogi i gymryd camau penodol
P14 cofnodi a/neu roi gwybod am fanylion risg yn unol â’r canllawiau perthnasol
P15 rhoi gwybod am unrhyw anawsterau rydych yn eu cael wrth gadw at bolisïau, cyfarwyddiadau neu ganllawiau iechyd a diogelwch eich sefydliad, gan roi manylion llawn a manwl


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Adnabod risgiau ac asesu risgiau i iechyd a diogelwch

K1 beth yw perygl a risg
K2 eich dyletswydd i sicrhau eich iechyd a diogelwch eich hun a phobl eraill
K3 y peryglon a’r risgiau nodweddiadol yn eich gweithle arferol gan gynnwys rhai ar y ffordd
K4 costau ariannol ac effeithiau personol posibl anafiadau
K5 sut i asesu risgiau a pheryglon i iechyd a diogelwch sy’n debygol o ddigwydd
K6 sut mae penderfynu ar lefel risgiau, pwy a all fod mewn perygl a lefel y camau ataliol sydd eu hangen
K7 y manylion y dylech eu cofnodi a/neu eu hysbysu sy’n gysylltiedig â risgiau, peryglon ac achosion fu bron a digwydd
K8 y camau ataliol y gellir eu cymryd i leihau lefelau’r risg i lefel dderbyniol                                                                    
K9 y canllawiau o ran delio â risgiau
K10 sut mae rhoi canlyniadau asesiad risg ar waith
K11 lle a sut mae cael help pan fydd angen
K12 sut mae atal risgiau ffisegol o ganlyniad i godi a chario, symudiadau a bod yn ymwybodol o bwysigrwydd ffitrwydd corfforol                                                                       

K13 sut i amddiffyn eich hun rhag sylweddau a all fod yn niweidiol

Cyfyngu risg o anaf neu niwed i bobl ac eiddo

K14 pan fydd yn ddiogel ac yn briodol i gymryd camau ar unwaith a hynny heb beryglu eich hun nac eraill
K15 pa gamau y gallwch eu cymryd, y mae gennych yr awdurdod i’w cymryd, i gyfyngu’r risg o anaf neu niwed
K16 cyfarwyddiadau eich sefydliad neu ganllawiau eraill yn gysylltiedig â delio gyda a rhoi gwybod am sefyllfaoedd peryglus
K17 sut mae defnyddio cyfarpar priodol a systemau larwm i gyfyngu ar beryglon
K18 y dulliau cyfathrebu effeithiol a phriodol i adael i eraill wybod am y risgiau
K19 lle a sut i gael help i ddelio â sefyllfaoedd peryglus


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwybodaeth ychwanegol
**

**

**Eich sefydliad**

*
*
**

Hwn fyddai'r cwmni rydych yn gweithio iddo (gan gynnwys gwirfoddolwyr) neu, os ydych yn hunangyflogedig, y rheolau rydych wedi'u gosod ar eich cyfer eich hun i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a thrwyddedu perthnasol.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLRPVD01

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth

Cod SOC

8213

Geiriau Allweddol

Iechyd; diogelwch; risg; perygl; cerbydau; gyrru; cludiant cymunedol