Gyrru cerbydau sydd yn cludo teithwyr ar deithiau rhyngwladol

URN: PPLPCVD18
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau sy’n Cludo Teithwyr (Bws a Choets)
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 30 Maw 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gyrru cerbydau sydd yn cludo teithwyr ar deithiau rhyngwladol. Dylech fod yn gallu sicrhau bod gennych y dogfennau cerbyd a phersonol perthnasol cyn ymadael. Dylech wybod a deall deddfwriaeth berthnasol gyfredol yn y wlad lle'r ydych yn mynd i fod yn gyrru.

Dylid defnyddio'r safon hon ar y cyd â'r safonau eraill yn y gyfres sydd yn cynnwys y cymwyseddau sy'n ofynnol cyn ymadael, yn ystod taith ac yn cynnwys bagiau ac eitemau eraill sy'n cael eu cludo. Mae'r safon hon yn rhoi sgiliau a gwybodaeth ychwanegol sydd yn uniongyrchol berthnasol i deithiau rhyngwladol.

Mae'r safon hon ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr trafnidiaeth

Pan fyddwch wedi cwblhau'r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth a'ch gallu i:

Yrru cerbydau sydd yn cludo teithwyr ar deithiau rhyngwladol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​sicrhau bod gennych y dogfennau perthnasol ar gyfer y gwledydd yr ydych yn teithio drwyddynt ac iddynt
  2. sicrhau bod y cerbyd sydd yn cludo teithwyr yn cydymffurfio â'r gofynion ar gyfer gweithredu yn y gwledydd yr ydych yn teithio drwyddynt ac iddynt
  3. cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a'r rheoliadau perthnasol sydd yn llywodraethu'r defnydd o gerbydau sydd yn cludo teithwyr ym mhob gwlad y byddwch yn ymweld â hi ar eich taith ryngwladol
  4. cydymffurfio â'r holl ofynion cyfreithiol a'r codau ymarfer perthnasol sy'n ymwneud â gyrru cerbydau sydd yn cludo teithwyr yn cynnwys gwisgo gwregys
  5. cydnabod awdurdod y swyddog (neu'r swyddogion) sydd yn gofyn i chi aros wrth ffin
  6. sicrhau bod y camau a gymerir yn cydymffurfio â gofynion statudol y wlad honno a'u bod o fewn canllawiau eich sefydliad
  7. cynnal morâl a bodlonrwydd teithwyr yn unol â rheoliadau perthnasol a chanllawiau eich sefydliad wrth groesi ffiniau
  8. cael arweiniad gan y person priodol mewn sefyllfaoedd y tu hwnt i derfynau eich awdurdod eich hun
  9. cynnal a phrosesu cofnodion cywir y sefyllfa yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​deddfwriaeth gyfredol, berthnasol yn y wlad lle'r ydych yn gyrru sy'n ymwneud â'ch addasrwydd meddygol i yrru cerbydau sydd yn cludo teithwyr y mae'n rhaid cydymffurfio â nhw ar deithiau rhyngwladol
  2. deddfwriaeth trwyddedu gyrwyr cyfredol, perthnasol yn y wlad lle'r ydych yn gyrru sy'n ymwneud â cherbydau'n cael eu gyrru ar deithiau rhyngwladol
  3. deddfwriaeth gyfredol, berthnasol yn y wlad lle'r ydych yn gyrru sy'n ymwneud â'r dogfennau cerbyd sydd eu hangen
  4. gofynion cyfreithiau a chodau ymarfer perthnasol sy'n ymwneud â gyrru, yn arbennig cerbydau sydd yn cludo teithwyr yn y wlad lle'r ydych yn gyrru yn cynnwys gwisgo gwregys
  5. arwyddion ffordd a systemau ffordd fawr y gwledydd perthnasol yn ymwneud ag aros ar y ffordd fawr yn y wlad lle'r ydych yn gyrru
  6. y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau lleol yn ymwneud â chludo teithwyr yn y wlad lle'r ydych yn gyrru
  7. y ddeddfwriaeth leol berthnasol yn cwmpasu gweithredoedd gan yr heddlu a gwarchodwyr ffin yn y wlad lle'r ydych yn gyrru
  8. pa bryd, sut a ble y dylid galw am help pan fo angen

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLPCVD18

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth

Cod SOC


Geiriau Allweddol

teithiau rhyngwladol; deddfwriaeth; dogfennau; diogelwch