Cludo bagiau ar eu pen eu hunain

URN: PPLPCVD15
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau sy’n Cludo Teithwyr (Bws a Choets)
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 30 Maw 2017

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â chludo bagiau ar eu pen eu hunain.  Dylech fod yn gallu derbyn a, lle bo angen, llwytho bagiau yna sicrhau eu bod yn cael eu trosglwyddo i’r person cywir. Dylech wybod a deall gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin â bagiau ar eu pen eu hunain ac eitemau amheus

Mae’r safon hon ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr trafnidiaeth.

Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth a’ch gallu i:

Gludo bagiau ar eu pen eu hunain


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cadarnhau bod labeli bagiau'n bodloni safon eich sefydliad
  2. hysbysu teithwyr mewn ffordd gwrtais a defnyddiol pan na ellir derbyn bagiau (er enghraifft, deunydd peryglus)
  3. hysbysu teithwyr am fagiau wedi eu niweidio neu sy'n achosi problemau, cyn llwytho
  4. rhoi derbynneb ar gyfer bagiau os oes angen, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. llwytho bagiau gan ddefnyddio dulliau cymeradwy eich sefydliad ac arferion diogel, yn cynnwys defnyddio offer yn gywir
  6. llwytho bagiau gan ystyried pa deithwyr sydd yn ymadael pryd a ble
  7. dosbarthu pwysau'r bagiau er mwyn cydymffurfio ag ymarfer diogel wrth gludo
  8. cadarnhau bod y ffordd y mae'r bagiau ar eu pen eu hunain yn cael eu cludo yn cadw at reoliadau perthnasol a gweithdrefnau eich sefydliad
  9. cadarnhau bod bagiau sydd wedi eu gosod y tu mewn i'r cerbyd neu ar ôl-gerbydau yn ddiogel
  10. osgoi niweidio bagiau tra'n dadlwytho
  11. dadlwytho bagiau gan ddefnyddio'r dulliau cymeradwy ac arferion diogel, yn cynnwys defnyddio offer yn gywir
  12. gwneud cais am gymorth gan eraill os oes angen
  13. cadarnhau bod pob bag neu eitem arall wedi eu trosglwyddo i'r person cywir
  14. cael derbynneb ar gyfer bagiau os oes angen yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  15. dosbarthu a sicrhau bod y bagiau sy'n weddill yn unol ag arfer diogel
  16. cadarnhau bod y cerbyd a'r ardal uniongyrchol yn glir rhag bagiau i gael eu dadlwytho ac yn aros i gael eu trosglwyddo
  17. rheoli bagiau heb eu hawlio yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  18. chwilio am fagiau heb eu hawlio ac ymdrin â nhw yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  19. ceisio adnabod a chysylltu â pherchennog y bagiau heb eu hawlio neu unrhyw berson sydd â hawl i dderbyn yr eiddo yn brydlon
  20. cynorthwyo teithwyr i chwilio am neu hawlio bagiau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  21. cwblhau cofnodion yn ymwneud â bagiau heb eu hawlio yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  22. rheoli eitemau amheus yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad, yn cynnwys sicrhau eich bod chi ac eraill yn ddiogel

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer codi ac ymdrin â bagiau yn ddiogel
  2. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer prosesu bagiau wedi eu niweidio neu sy'n peri problem
  3. yr arferion diogel perthnasol ar gyfer llwytho bagiau ar gerbydau, yn cynnwys defnyddio offer
  4. arferion diogel perthnasol ar gyfer dosbarthu bagiau, yn arbennig i helpu i ddadlwytho'r cerbyd
  5. y rheoliadau perthnasol sy'n ymwneud â chludo bagiau ar eu pen eu hunain, yn cynnwys eitemau sydd wedi eu cyfyngu neu eu gwahardd
  6. gweithdrefnau gofal cwsmeriaid eich sefydliad ar gyfer ymdrin â bagiau
  7. eich cyfrifoldebau eich hun ar gyfer llwytho'r cerbyd yn gywir a'i ddiogeledd, yn cynnwys pwysau'r cerbyd a pham na ddylai uchafswm pwysau'r cerbyd a'i lwyth fynd y tu hwnt i uchafswm pwysau gros y cerbyd
  8. arferion diogel perthnasol ar gyfer dadlwytho bagiau o gerbydau, yn cynnwys defnyddio offer
  9. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin â bagiau sydd wedi eu niweidio tra'n cael eu cludo
  10. yr arferion diogel perthnasol ar gyfer dosbarthu bagiau
  11. canllawiau eich sefydliad ar gyfer gwneud cais am gymorth gan eraill wrth lwytho, cludo a dadlwytho bagiau ar eu pen eu hunain
  12. eich cyfrifoldebau eich hun ar gyfer llwytho'r cerbyd yn gywir a'i ddiogeledd
  13. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin â bagiau ar eu pen eu hunain, yn cynnwys eitemau amheus
  14. gweithdrefnau gofal cwsmeriaid eich sefydliad yn ymwneud â bagiau ar eu pen eu hunain neu eiddo coll
  15. sut i ddiogelu pobl os byddwch yn canfod eitem amheus
  16. rheoliadau eich sefydliad ar eiddo coll

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLPCVD15

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth

Cod SOC


Geiriau Allweddol

bagiau; pecynnau amheus; llwytho; dadlwytho