Darparu gwasanaeth trafnidiaeth i deithwyr ag anghenion ychwanegol neu ofynion penodol

URN: PPLPCVD14
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau sy’n Cludo Teithwyr (Bws a Choets)
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 30 Maw 2017

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â darparu gwasanaeth trafnidiaeth i deithwyr ag anghenion ychwanegol neu ofynion penodol ar daith wedi ei harchebu ymlaen llaw. Dylech fod yn gallu helpu teithwyr ymlaen ac oddi ar y cerbyd o fewn deddfwriaeth berthnasol, yn cynnwys yr hyn sy’n rheoli cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Mae’r safon hon ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr trafnidiaeth.

Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth a’ch gallu i:

Ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth i deithwyr ag anghenion ychwanegol neu ofynion penodol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​sicrhau bod manylion cyrchfannau, llwybrau, amseru a gwybodaeth yn ymwneud ag anghenion ychwanegol a gofynion penodol teithwyr yn gyflawn ac ar fformat eich sefydliad
  2. cadarnhau bod cynlluniau eistedd cerbydau ar gyfer teithiau yn gywir
  3. cadarnhau bod y math a'r niferoedd cywir o offer ar gyfer eistedd a diogelu teithwyr a chadeiriau olwyn cyn dechrau teithiau
  4. cynnal gwiriadau diogelwch ar offer yn unol â chyfarwyddiadau'r cynhyrchydd a gweithdrefnau eich sefydliad
  5. cadw at amserlenni cyhyd â bod yr amodau'n caniatáu hynny wrth ddarparu'r gwasanaeth trafnidiaeth
  6. cynorthwyo teithwyr ar y cerbyd ac oddi arno yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol, a chyda chwrteisi a pharch
  7. defnyddio lifftiau ac offer teithwyr yn unol â gweithdrefnau cymeradwy
  8. dilyn gweithdrefnau eich sefydliad os nad yw unrhyw deithiwr yn eu man casglu cytûn
  9. dilyn gweithdrefnau eich sefydliad os na ellir cadw at yr amserau a gynlluniwyd ar gyfer casglu
  10. cwblhau'r cofnodion angenrheidiol yn ymwneud â theithiau yn unol â gofynion eich sefydliad
  11. ymateb yn brydlon ac yn effeithiol i deithwyr sydd yn eich hysbysu ynghylch digwyddiadau annisgwyl
  12. cymryd camau priodol os yw teithiwr wedi ei anafu neu'n sâl, yn unol â chanllawiau eich sefydliad
  13. gwneud trefniadau ar gyfer parcio'r cerbyd yn ddiogel os nad yw'n ddiogel i barhau i yrru, yn unol â chanllawiau eich sefydliad
  14. lleihau anghyfleustra neu bryder i deithwyr cyhyd â phosibl, yn arbennig os oes angen trosglwyddo teithwyr
  15. ymdrin â phroblemau archebu a chadw cerbyd yn unol â chanllawiau cymeradwy eich sefydliad
  16. hysbysu'r person priodol os gallai gwasanaethau eraill gael eu heffeithio gan y digwyddiad
  17. cael cymorth gan y person priodol os na ellir ymdrin â'r digwyddiad yn effeithiol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​pwysigrwydd cael manylion cywir a pherthnasol y teithwyr sy'n cael eu cludo
  2. y gofynion cyfreithiol a'r codau ymarfer perthnasol ar gyfer cludo teithwyr sy'n defnyddio cadeiriau olwyn
  3. y rhesymau dros a'r defnydd o fathau gwahanol o offer ar gyfer eistedd a diogelu teithwyr a chadeiriau olwyn cyn darparu gwasanaeth trafnidiaeth
  4. sut i gynnal gwiriadau diogelwch cymeradwy ar offer ar gyfer eistedd a diogelu teithwyr a chadeiriau olwyn
  5. y rhannau perthnasol o'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth a sut y mae hyn yn berthnasol i rôl y gyrrwr wrth gludo teithwyr
  6. dulliau priodol o gynnig a rhoi cymorth i deithwyr ag anghenion ychwanegol neu ofynion penodol
  7. hawliau teithwyr ag anghenion ychwanegol neu ofynion penodol i deithio'n ddiogel ac yn gyfforddus yn unol â rheoliadau cydraddoldeb ac amrywiaeth
  8. gofynion a phwysigrwydd defnyddio lifftiau ac offer teithwyr
  9. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer mynd i'r afael ag offer diogelwch teithwyr diffygiol
  10. pa gamau y gellir eu cymryd i ymdrin â sefyllfaoedd lle na ellir bodloni amserlenni neu os nad yw teithwyr yn y mannau casglu cytûn
  11. y rhannau perthnasol o'r ddeddfwriaeth gysylltiedig bresennol a sut y mae'r ddeddf yn gymwys i rôl y gyrrwr yn cludo teithwyr ag anghenion ychwanegol neu ofynion penodol
  12. yr angen i ymdrin yn brydlon ac yn effeithiol â digwyddiadau yn ystod taith, yn arbennig i sicrhau teithwyr
  13. sut i asesu ac ystyried yr opsiynau o fewn gallu a chyfrifoldeb penodol wrth ymdrin â digwyddiadau yn ystod taith
  14. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin ag anafiadau neu salwch teithwyr, digwyddiadau lle nad yw'n ddiogel parhau i yrru, a throsglwyddo teithwyr
  15. y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer ymdrin â phlant sydd yn teithio ar eu pen eu hunain
  16. sut i dawelu meddwl teithwyr a lleihau eu pryderon os oes digwyddiad neu ansicrwydd
  17. y rhannau perthnasol o'r ddeddfwriaeth yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth a'r ffordd y mae hyn yn berthnasol i rôl y gyrrwr wrth gludo teithwyr
  18. y mathau o gyfathrebu llafar ac nad yw'n llafar
  19. sut i gadarnhau bod teithwyr yn deall gwybodaeth a dehongli arwyddion (llafar a rhai nad ydynt yn llafar) oddi wrthynt
  20. ble i gael cymorth i ymdrin ag anawsterau cyfathrebu

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLPCVD14

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth

Cod SOC


Geiriau Allweddol

teithwyr; anghenion ychwanegol; cerbyd; teithiau