Trafod a chytuno ar hynt teithiau

URN: PPLPCVD11
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau sy’n Cludo Teithwyr (Bws a Choets)
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 30 Maw 2017

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â thrafod a chytuno ar hynt teithiau. Mae’n cynnwys cyfathrebu gyda chleientiaid, cyflenwyr a phobl eraill. Dylech allu trafod a chytuno ar brif nodweddion taith a chytuno ar y prif lwybrau a’r amserau. Dylech wybod a deall y ffactorau logistaidd sydd yn gysylltiedig â llwybrau ac amserau teithiau.

Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd yn gyrru bysus a choetsis.

Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth a’ch gallu i:

Drafod a chytuno ar hynt teithiau gyda chleientiaid


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​trafod a chytuno ar brif nodweddion hynt teithiau cleientiaid yn cynnwys unrhyw ofynion arbennig
  2. cadarnhau y gellir bodloni gofynion cytûn
  3. nodi a chael y cydweithrediad angenrheidiol, os o gwbl, gan eraill sy'n gysylltiedig â'r daith
  4. nodi faint o gyfrifoldeb ac awdurdod sydd gennych mewn perthynas â'r daith
  5. trafod a chytuno ar drefniadau adrodd priodol rhyngoch chi a'r cleient
  6. cadarnhau hynt y daith gyda'r cleient yn ysgrifenedig neu ar fformat arall fel y bo angen
  7. cadw unrhyw drafodaethau a chytundeb yn ymwneud â hynt y daith yn gyfrinachol
  8. cadarnhau bod llwybr ac amseru'r teithiau yn realistig ac yn briodol i'r cleient, ac y gellir eu gweithredu o fewn y gofynion cyfreithiol perthnasol, yn cynnwys oriau gyrwyr
  9. cadarnhau bod cydweithrediad gan drydydd partïon wedi ei gael lle bo angen
  10. ystyried yr arhosiadau angenrheidiol a'r digwyddiadau posibl ar y llwybrau a'r amserau
  11. cytuno ar yr hyn yr ydych yn gyfrifol amdano ac ag awdurdod i'w wneud mewn perthynas â'r llwybrau a'r amserau
  12. cyflwyno manylion hynt teithiau ar fformat sy'n briodol i unrhyw un a allai ei dderbyn
  13. cadarnhau'r llwybrau a'r amserau gyda'r cleient yn ysgrifenedig neu ar fformat arall fel y bo angen

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​nodweddion grwpiau cleientiaid gwahanol mewn perthynas â'u gofynion ar y daith
  2. sut i gyfathrebu a thrafod gyda phobl eraill yn effeithiol
  3. terfynau eich awdurdod, eich gallu a'ch cyfrifoldeb chi wrth drafod a chytuno ar deithiau
  4. sut i wneud nodweddion y daith i gyd-fynd â gofynion cleientiaid
  5. trefniant gwasanaethau ac adnoddau sydd yn gysylltiedig â theithiau
  6. y trefniadau contract amrywiol rhwng cwmnïau teithio a chwsmeriaid teithiau
  7. nodweddion grwpiau cleientiaid gwahanol mewn perthynas â gofynion eu taith
  8. cyfyngiadau eich awdurdod, eich gallu a'ch cyfrifoldeb eich hun wrth drafod a chytuno ar lwybrau ac amserau
  9. cyfyngiadau eich awdurdod, eich gallu a'ch cyfrifoldeb chi wrth wyro o'r llwybr neu'r amserlen a gynlluniwyd
  10. sut i wneud i lwybrau ac amserau teithiau gyd-fynd â gofynion cleientiaid
  11. y ffactorau logisteg sydd yn gysylltiedig â llwybrau ac amserau teithiau a'r goblygiadau a allai godi os bydd y logisteg yn newid cyn neu yn ystod taith
  12. ffynonellau gwybodaeth hynt teithiau, fel llety, gwasanaethau ac atyniadau
  13. sefyllfaoedd posibl a allai olygu bod yn rhaid newid trefniadau'r daith

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLPCVD11

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth

Cod SOC


Geiriau Allweddol

hynt teithiau; cleientiaid; trafod; taith; coets; amserau