Cynnal perthynas waith effeithiol gyda chydweithwyr

URN: PPLPCVD01
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau sy’n Cludo Teithwyr (Bws a Choets)
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 30 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal perthynas waith effeithiol gyda chydweithwyr. Dylech fod yn gallu cyfathrebu'n effeithiol gyda'ch cydweithwyr a chynnig cymorth a chyngor a gweithredu mewn ffordd broffesiynol bob amser. Dylech wybod a deall polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad yn ymwneud ag ymddygiad yn y gweithle, yn cynnwys sefyllfaoedd wyneb yn wyneb, ysgrifenedig ac ar-lein.

Mae'r safon hon ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr trafnidiaeth a staff gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth.

* *

*Pan fyddwch wedi cwblhau'r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth a’ch gallu i:

*

Chynnal perthynas waith effeithiol gyda chydweithwyr


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​ymddwyn tuag at gydweithwyr mewn ffordd sydd yn cynnal perthynas waith effeithiol ac yn sicrhau bod bysys a choetsis yn gweithredu'n effeithlon
  2. ymateb i geisiadau gan gydweithwyr yn brydlon a chyda pharch, heb amharu ar eich gwaith eich hun
  3. bodloni unrhyw ymrwymiad a wneir i gydweithwyr yn y ffordd a'r raddfa amser y cytunwyd arnynt
  4. rhoi gwybodaeth y mae cydweithwyr yn gofyn amdani yn gywir, yn glir ac yn brydlon
  5. cymryd rhan fel y bo angen mewn trafodaethau am berthynas waith
  6. cefnogi cydweithwyr sydd yn dysgu, i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth
  7. trafod problemau gyda'r person priodol os oes anawsterau mewn perthynas waith, neu arferion gwaith
  8. cael y wybodaeth sydd ei hangen gan gydweithwyr, gan ddefnyddio gweithdrefnau a nodwyd gan y sefydliad
  9. rhoi gwybodaeth i gydweithwyr sydd yn gywir, yn berthnasol ac y bydd yn bodloni eu gofynion
  10. cyfleu gwybodaeth ar fformat sy'n bodloni'r gofynion hyn
  11. cadarnhau bod y wybodaeth a roddir wedi ei hawdurdodi pan gaiff ei darparu

  12. rhoi cymorth mewn achosion lle mae anhawster i gyfathrebu'n effeithiol gyda chydweithwyr

  13. cadarnhau cyfyngiadau eich cyfrifoldebau yn y swydd
  14. cael cyngor gan y person priodol pan fydd problemau yn cytuno ar eich gweithgareddau neu gyfrifoldebau, neu rai pobl eraill
  15. rhoi gwybodaeth i gydweithwyr ar amser ac sydd yn briodol i'w hanghenion
  16. cynorthwyo cydweithwyr gyda'u gwaith, yn unol â therfynau y cytunwyd arnynt
  17. ymateb yn effeithiol i sefyllfaoedd lle mae angen newid cynlluniau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​yr angen i gynnal perthynas waith effeithiol yn y sefydliad er mwyn sicrhau bod bysys a choetsis yn gweithredu'n effeithiol
  2. safonau a chanllawiau eich sefydliad yn ymwneud ag ymddygiad yn y gweithle
  3. sut i gydbwyso rhoi cymorth i gydweithwyr gyda'ch llwyth gwaith eich hun
  4. terfynau eich cyfrifoldebau eich hun a rhai eich cydweithwyr
  5. gofynion dysgu cydweithwyr sy'n cael eu hyfforddi
  6. y gweithdrefnau ar gyfer trin a thrafod perthynas waith
  7. y gofynion ar gyfer cyfathrebu gwybodaeth gywir a pherthnasol yn eich sefydliad
  8. y dulliau o gael a darparu gwybodaeth rhwng cydweithwyr
  9. terfynau eich awdurdod mewn perthynas â rhoi gwybodaeth i gydweithwyr
  10. y fformatiau gwahanol lle gellir cyfathrebu gwybodaeth a'u defnydd
  11. y gofyniad ar gyfer darparu, a ffyrdd o ddarparu, cyfleoedd i gydweithwyr gyfathrebu'n rhydd ac yn agored
  12. y gweithdrefnau ar gyfer trin a hysbysu ynghylch anawsterau yn cyfathrebu yn rhydd ac yn agored
  13. y gweithdrefnau ar gyfer rhoi'r wybodaeth sydd eu hangen ar gydweithwyr yn eu gwaith
  14. cyfrifoldeb pobl eraill yn y tîm
  15. digwyddiadau arferol a allai ei wneud yn ofynnol i gynlluniau gael eu newid
  16. y gweithdrefnau ar gyfer trin a hysbysu ynghylch anawsterau yn cytuno ar weithgareddau neu gyfrifoldebau gwaith

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLPCVD01

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth

Cod SOC


Geiriau Allweddol

bws; coets; cyfathrebu; cydweithwyr