Goruchwylio digwyddiadau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â goruchwylio digwyddiad, fel gwledd, digwyddiad adloniant corfforaethol, derbyniad neu gynhadledd, ac mae’n debygol o gael ei defnyddio gan oruchwylydd sy’n gyfrifol am y gweithgareddau yn y maes gwaith yn ddyddiol, o dan gyfarwyddyd y rheolwr perthnasol.
Bydd llwyddiant neu fethiant digwyddiad allweddol yn dibynnu ar gael y wybodaeth gywir am ofynion eich gwesteion. Cyn y digwyddiad, mae’n ymwneud â blaenoriaethu beth sydd angen ei wneud a sicrhau bod aelodau’r tîm wedi’u brifio’n llawn a’u bod yn gallu cyflawni. Yn y digwyddiad ei hun, mae’n ymwneud â monitro pob agwedd ar y digwyddiad i sicrhau bod popeth yn mynd yn ôl y bwriad ac y gellir nodi unrhyw amhariadau posibl ymlaen llaw, a delio â nhw’n gyflym.
Ar ddiwedd y dydd, gallech fod yn gyfrifol am ddigwyddiad mawr ym mywyd personol neu fywyd gwaith rhywun. Her gyffrous!
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi, cynnal a dirwyn y digwyddiad i ben. Felly, mae’n cynnwys gweithgareddau fel briffio, monitro, clirio ac ôl-friffio staff ar ôl i’r digwyddiad ddod i ben.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Oruchwylio digwyddiadau
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Casglu’r holl wybodaeth angenrheidiol am y digwyddiad, gofynion cwsmeriaid, cyllidebau, cyfyngiadau a’ch cyfrifoldebau
- Blaenoriaethu amcanion a blaengynllunio i sicrhau bod y gweithdrefnau cywir ar waith a bod gofynion wedi’u bodloni
- Nodi unrhyw risgiau a datblygu cynlluniau wrth gefn i ddelio ag unrhyw risgiau sy’n codi
- Neilltuo cyfrifoldebau staff a’u briffio ar ddyletswyddau, gweithdrefnau perthnasol ac unrhyw wybodaeth y mae ei hangen arnynt i gyflwyno’r digwyddiad, gan annog awyrgylch o broffesiynoldeb a chefnogi ei gilydd
- Sicrhau bod gan staff y sgiliau, y wybodaeth a’r adnoddau y mae eu hangen arnynt i gyflawni eu cyfrifoldebau ac annog staff i ofyn cwestiynau os bydd gwybodaeth nad ydynt yn ei deall
- Archwilio lleoliad y digwyddiad i wneud yn siŵr ei fod wedi’i baratoi yn unol â gofynion ac i’r safon y cytunwyd arni; gwneud yn siŵr bod y cyfarpar a’r deunyddiau y mae eu hangen ar gyfer y digwyddiad ar y safle mewn da bryd a’u bod ar gael i’r staff y bydd arnynt angen eu defnyddio
- Arwain staff i adnabod cwsmeriaid gwahanol a’u hanghenion go iawn ac anghenion canfyddedig a chyfathrebu â chwsmeriaid mewn ffordd sy’n annog ewyllys da a dealltwriaeth
- Sicrhau bod y digwyddiad a phob gweithgaredd cysylltiedig yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau’r diwydiant, codau proffesiynol a pholisïau sefydliadol perthnasol
- Rhoi gwybod i’ch staff a’ch cwsmeriaid am unrhyw newidiadau i’r gwasanaeth a all effeithio arnynt
- Monitro’r digwyddiad i wneud yn siŵr ei fod yn mynd yn ei flaen yn ôl y bwriad a chymryd camau effeithiol i reoli problemau pan fyddant yn digwydd, gan ddod o hyd i ffyrdd ymarferol o oresgyn rhwystrau a lleihau eu heffaith ar y cwsmeriaid
- Cyfleu’r wybodaeth gyfreithiol angenrheidiol a gwybodaeth arall yn glir i gwsmeriaid, a chydweithio â’r bobl berthnasol drwy gydol y digwyddiad i wneud yn siŵr y bydd y trefniadau yn bodloni gofynion y cwsmer
- Monitro ac adolygu gweithdrefnau i sicrhau bod y gwasanaeth yn bodloni anghenion cwsmeriaid
- Casglu a throsglwyddo adborth a gwelliannau argymelledig i’r bobl berthnasol yn unol â gofynion eich sefydliad
- Rhoi adborth i staff i’w helpu i wella’u perfformiad, lle bo’n briodol
- Defnyddio dulliau effeithiol i gasglu, storio ac adalw gwybodaeth, cwblhau’r cofnodion gofynnol yn gywir ac adrodd ar berfformiad i gefnogi’r gwasanaeth, yn unol â’ch gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Beth yw polisi gofal cwsmeriaid eich sefydliad
- Sut a pham mae’n bwysig asesu’r effaith mae’r digwyddiad yn debygol o’i chael ar bobl eraill (cwsmeriaid, preswylwyr, busnesau lleol) a chamau gweithredu y gellir eu cymryd i leihau tarfu
- Yr amrywiaeth o wybodaeth y mae ei hangen i gynllunio gwahanol fathau o ddigwyddiadau
- Sut i ddelio â gofynion arbennig ar gyfer gwahanol grwpiau cleientiaid, gan gynnwys: plant, pobl hŷn a phobl ag anableddau
- Y mathau o ofynion penodol sydd gan eich cwsmeriaid, gan gynnwys, bwydydd, diodydd, marchnata neu drefn gosod y lleoliad
- Ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy a sut i sicrhau bod cynnyrch a gwasanaethau priodol yn cael eu trefnu’n effeithiol, yn effeithlon ac yn ddiogel i gefnogi amrywiaeth o ddigwyddiadau
- Camau diogelwch bwyd y mae angen eu defnyddio ar gyfer gwahanol fathau o ddigwyddiadau, trefniadau ac amgylcheddau
- Ffactorau y gellir eu defnyddio i addasu’r awyrgylch ar gyfer digwyddiadau
- Y gofynion iechyd a diogelwch a’r gofynion cyfreithiol eraill sy’n effeithio ar y digwyddiad, ac y mae angen eu cyfleu i gwsmeriaid
- Pa ofynion cyfreithiol sy’n ymwneud â chlirio’r lleoliad
- Sut i sicrhau bod y mathau o gontractwyr sy’n debygol o gael eu defnyddio yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano yn cael eu penodi a’u rheoli’n briodol
- Sut i sicrhau bod gan staff a chontractwyr y sgiliau, y wybodaeth a’r adnoddau gofynnol i gyflawni eu cyfrifoldebau
- Ffactorau y mae angen eu hystyried wrth drefnu bwyd a diodydd ar gyfer y digwyddiad
- Sut i reoli’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer digwyddiadau
- Sut i sicrhau bod staff ar gyfer y digwyddiad yn cael eu rheoli’n effeithiol, gan gynnwys:
14.1 dyrannu cyfrifoldebau
14.2 briffio
14.3 goruchwylio - Sut i archwilio’r lleoliad i sicrhau bod paratoadau yn gywir
- Pam mae’n bwysig rhagweld problemau, y mathau o broblemau a all ddigwydd yn ystod digwyddiadau a sut y dylech ddelio â’r rhain
- Sut i gyflawni asesiad risg o’r lleoliad a beth i’w wneud gyda’r wybodaeth
- Y mathau o gofnodion y dylid eu cynnal ar gyfer digwyddiadau a gweithdrefnau eich sefydliad yn gysylltiedig â hyn
- Sut dylai gwybodaeth am y digwyddiad gael ei chyfleu i gwsmeriaid, pam mae’n bwysig cyfathrebu â threfnydd y digwyddiad a sut dylech chi wneud hyn.
- Pwy sy’n gyfrifol am storio cyfarpar a rhoi gwybod am golled neu ddifrod
- Sut i fonitro’r digwyddiad a phwy dylech chi gysylltu â nhw yn ystod y digwyddiad i wneud yn siwr bod pethau’n mynd yn ôl y bwriad
- Sut i archwilio cyfarpar a ddefnyddir yn ystod digwyddiadau
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd pan fydd digwyddiad wedi gorffen, sut i adnabod y rhain a rhoi gwybod amdanynt a sut i ymateb i geisiadau neu gwynion
- Pam mae adborth gan gwsmeriaid a staff yn hanfodol i ddatblygu gwasanaethau digwyddiadau a sut gall adborth gyfrannu at reoli eich sefydliad a gwella gwasanaethau digwyddiadau ymhellach
- Beth yw’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cofnodi a rhoi gwybod am adborth a sut dylech chi ddatblygu a chyflwyno argymhellion am welliannau
- Sut i roi adborth i aelodau’r tîm
Cwmpas/ystod
Mae dulliau effeithiol ar gyfer casglu, storio ac adalw gwybodaeth yn cynnwys dulliau cost effeithiol, amser effeithiol a moesegol
Mae gwybodaeth yn cynnwys gwybodaeth gan gwsmeriaid a staff.
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Rhoddir yr ymddygiadau canlynol yn ganllaw er mwyn bod yn sail i berfformiad effeithiol goruchwylydd ym maes lletygarwch
- Rydych chi’n blaenoriaethu amcanion ac yn cynllunio gwaith i wneud y defnydd gorau o amser ac adnoddau
- Rydych chi’n cyfrifo risgiau yn gywir ac yn trefnu darpariaeth fel nad yw digwyddiadau annisgwyl yn rhwystro cyflawni amcanion
- Rydych chi’n cymryd cyfrifoldeb personol am wneud i bethau ddigwydd, gan ragweld a datrys problemau yn gyflym i sicrhau boddhad rhanddeiliaid
- Rydych chi’n arddangos dealltwriaeth dda o sut mae ffactorau gwahanol mewn cyd-destun gwaith yn perthyn i’w gilydd
- Rydych chi’n nodi goblygiadau neu ganlyniadau sefyllfa
- Rydych chi’n gweithio i ddatblygu awyrgylch o broffesiynoldeb a chymorth tuag at eich gilydd
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safon hon yn safon penodol i sector ac mae ganddi gysylltiadau penodol â’r safonau canlynol yng nghyfres safonau Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch:
- HSL1-6
- HSL11
- HSL19
- HSL27
- HSL28