Cynnal iechyd, hylendid, diogelwch a diogeledd yr amgylchedd gweithio
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal safonau iechyd, hylendid, diogelwch a diogeledd sy’n berthnasol i’r maes rydych chi’n gyfrifol amdano. Mae cynnal y safonau hyn yn hanfodol i amddiffyn staff a chwsmeriaid rhag niwed. Mae’r safon hon ar gyfer arweinwyr tîm, rheolwyr llinell gyntaf neu oruchwylwyr lletygarwch.
Yn y rhan fwyaf o amgylcheddau gweithio, mae posibilrwydd bob amser y bydd damwain neu niwed i iechyd rhywun. Pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le, gall y gost fod yn uchel. Yn ogystal â’r trawma i unigolion yn achos anaf personol, mae cost bosibl colli diwrnodau staff oherwydd salwch neu anaf yn gysylltiedig â gwaith. Mae potensial hefyd am daliadau iawndal a niwed i enw da’r sefydliad yn sgil cwyn gan gwsmer.
Nid oes rhaid i gynnal amgylchedd gweithio diogel fod yn gymhleth na chymryd amser. Y cyfan y mae ei angen ar lawer o sefydliadau yw cyfres sylfaenol, ond cadarn, o weithdrefnau sy’n amddiffyn staff, cwsmeriaid ac aelodau eraill o’r cyhoedd rhag niwed.
Mae cymryd cyfrifoldeb personol am ddeall a chymhwyso gweithdrefnau yn bwysig i unrhyw oruchwylydd neu reolwr, fel y mae sicrhau bod staff yn gwneud yr un peth. Mae’r safon hon yn cwmpasu’r maes allweddol hwn yn fanylach.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynnal iechyd, hylendid, diogelwch a diogeledd yr amgylchedd gweithio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwneud yn siŵr bod gennych wybodaeth am weithdrefnau iechyd,
hylendid, diogelwch a diogeledd sy’n berthnasol i’r maes rydych chi’n gyfrifol amdano - Gwneud yn siŵr bod gan gydweithwyr wybodaeth berthnasol am faterion iechyd, hylendid, diogelwch a diogeledd o fewn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano
- Tynnu sylw cydweithwyr at bwysigrwydd dilyn gweithdrefnau iechyd, hylendid, diogelwch a diogeledd
- Gwirio bod cydweithwyr yn dilyn y gweithdrefnau iechyd, hylendid, diogelwch a diogeledd sy’n berthnasol i’r maes rydych chi’n gyfrifol amdano
- Monitro’r maes rydych chi’n gyfrifol amdano am risgiau i iechyd, hylendid, diogelwch a diogeledd
- Delio â risgiau a damweiniau yn brydlon, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol a gofynion cyfreithiol ar gyfer diogelu cwsmeriaid, staff ac aelodau eraill o’r cyhoedd
- Cofnodi neu roi gwybod am risgiau ac unrhyw weithred iechyd, hylendid, diogelwch neu ddiogeledd rydych chi wedi’u cymryd yn unol â’ch gweithdrefnau sefydliadol
- Trosglwyddo gwybodaeth am sut mae gweithdrefnau’n gweithio a sut gellir eu gwella o ran risgiau iechyd, hylendid, diogelwch a diogeledd a nodwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Eich cyfrifoldebau a gweithdrefn eich sefydliad ar gyfer iechyd, hylendid, diogelwch a diogeledd sy’n berthnasol i’ch gwaith
- Prif feysydd rheoliadau a chyfreithiau iechyd, hylendid a diogelwch perthnasol sy’n effeithio ar y gwaith rydych chi’n gyfrifol amdano
- Yr awdurdodau statudol sy’n gorfodi’r cyfreithiau a’r rheoliadau iechyd, hylendid a diogelwch hyn
- Goblygiadau torri’r gyfraith ar iechyd, hylendid a diogelwch i chi ac i’ch sefydliad
- Y person sy’n gyfrifol am gymorth cyntaf, iechyd, hylendid, diogelwch a diogeledd yn eich sefydliad a’u cyfrifoldebau
- Eich cyfrifoldebau am iechyd, hylendid, diogelwch a diogeledd staff parhaol a staff dros dro a phwysigrwydd gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod am y gweithdrefnau perthnasol
- Sut i gyfathrebu â chydweithwyr am faterion yn ymwneud ag iechyd, hylendid, diogelwch a diogeledd
- Y mathau o wybodaeth y mae eu hangen a’r gweithdrefnau y dylech eu dilyn wrth gofnodi a storio gwybodaeth am iechyd, hylendid, diogelwch a diogeledd
- Pobl a sefydliadau eraill y mae angen iddynt gael at eich gwybodaeth am iechyd, hylendid, diogelwch a diogeledd a’r wybodaeth y gall fod rhaid i chi ei rhoi i awdurdodau allanol
- Y gweithdrefnau y dylech eu dilyn i wneud argymhellion am iechyd, hylendid, diogelwch a diogeledd ac i bwy y dylech eu gwneud nhw
- Sut i nodi namau ar y cyfarpar rydych chi’n gyfrifol amdano, sut i roi gwybod amdanynt neu sut i ddelio â nhw
- Terfynau eich awdurdod wrth ddelio’n uniongyrchol â risgiau a pheryglon – beth allwch ei wneud eich hun a beth mae angen i chi roi gwybod amdano
- Sut i ddatblygu cynlluniau wrth gefn a fydd yn lleihau effaith unrhyw broblemau iechyd, hylendid, diogelwch a diogeledd sy’n digwydd
- Sut i fonitro’r maes rydych chi’n gyfrifol amdano i sicrhau eich bod yn cynnal iechyd, hylendid, diogelwch a diogeledd gweithwyr, cwsmeriaid ac aelodau eraill o’r cyhoedd, a pha mor aml y dylech gyflawni archwiliadau iechyd, hylendid, diogelwch a diogeledd
- Y peryglon iechyd, hylendid, diogelwch a diogeledd nodweddiadol sy’n bodoli, neu a all fodoli, yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano, sut i asesu, dileu neu leihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r peryglon hyn yn yr amgylchedd gweithio
- Gweithdrefnau brys eich sefydliad, beth i’w wneud yn achos argyfwng, a’r gweithdrefnau gwacau sy’n gysylltiedig â chi a’ch staff yn yr ardal weithio, gan gynnwys ar gyfer rhybudd bom a thân
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Rhoddir yr ymddygiadau canlynol yn ganllaw er mwyn bod yn sail i berfformiad effeithiol goruchwylydd ym maes lletygarwch
- Rydych chi’n ymateb yn gyflym i argyfwng ac i broblemau gyda dull gweithredu arfaethedig
- Rydych chi’n nodi anghenion pobl am wybodaeth
- Rydych chi’n darparu gwybodaeth briodol yn brydlon i’r bobl sydd angen y wybodaeth ac sydd â hawl iddi
- Rydych chi’n cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau’r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol, ac yn sicrhau bod pobl eraill yn cydymffurfio â nhw
- Rydych chi’n effro i risgiau a pheryglon posibl
- Rydych chi’n cymryd cyfrifoldeb personol am wneud i bethau ddigwydd
- Rydych chi’n nodi goblygiadau neu ganlyniadau sefyllfa
- Rydych chi’n gweithredu o fewn terfynau eich awdurdod
- Rydych chi’n ceisio gwella perfformiad yn gyson
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safon hon yn safon penodol i sector. Mae’r safon hon yn gysylltiedig â phob safon arall yng nghyfres safonau Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch.
Dylai goruchwylwyr sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda bwyd a diod gyfeirio hefyd at safon HSL30 sy’n canolbwyntio’n benodol ar ddiogelwch bwyd, gan ymdrin â'r pwnc ar lefel fanylach sy’n briodol i’w maes gwaith