Sicrhau y dilynir arferion diogelwch bwyd wrth baratoi a gweini bwyd a diod

URN: PPLHSL30
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch Goruchwylio ac Arwain
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae’r safon hon yn disgrifio’r cymhwysedd mae ei angen i sicrhau y dilynir arferion a gweithdrefnau diogelwch bwyd priodol wrth baratoi a gweini bwyd a diod. Mae’r safon hon i arweinwyr timau, rheolwyr llinell gyntaf a goruchwylwyr ym maes lletygarwch, prif weinyddion, cogyddion a phen-cogyddion. Mae diogelwch bwyd yn hollbwysig. Nododd ymchwil a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ym mis Mehefin 2014 ryw filiwn o achosion o wenwyn bwyd bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig, y gellir priodoli eu hanner i 13 pathogen penodol. Felly mae’n hanfodol, mewn unrhyw leoliad lletygarwch, fod pob risg posibl yn cael ei dileu. Y ffordd orau i osgoi gwenwyn bwyd yw sicrhau y cynhelir safonau uchel o hylendid bwyd wrth storio, trin a pharatoi bwyd. Mae arferion da o ran diogelwch bwyd yn hanfodol i unrhyw un sy’n trin bwyd er mwyn gwybod sut i atal y risgiau sy’n gysylltiedig â gwenwyn bwyd. Mae sicrhau y caiff peryglon posibl eu canfod a’u lliniaru a bod y staff wedi’u hyfforddi i weini bwyd a diod yn ddiogel ac yn gallu gwneud hynny, ac y rhoddir gwybod yn brydlon am unrhyw beryglon newydd, yn dasgau allweddol i unrhyw un sy’n goruchwylio’r gwaith o baratoi a chyflenwi bwyd a/neu ddiod i gwsmeriaid. Mae’r safon hon wedi’i bwriadu i unrhyw un sy’n goruchwylio’r gwaith o baratoi a chyflenwi bwyd a/neu ddiod i gwsmeriaid. Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni: •Sicrhau y dilynir arferion diogelwch bwyd wrth baratoi a gweini bwyd a diod

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. Sicrhau bod gennych wybodaeth berthnasol am weithdrefnau diogelwch bwyd a’ch bod yn dehongli eich cyfrifoldebau’n gywir
2. Sicrhau bod arferion da o ran hylendid ar waith
3. Cyflawni eich cyfrifoldebau chi am roi gweithdrefnau diogelwch bwyd ar waith
4. Rhoi adborth i’r sawl sy’n gyfrifol am weithdrefnau diogelwch bwyd eich sefydliad ynghylch eu heffeithiolrwydd
5. Monitro a bod yn effro o hyd i’r posibilrwydd o beryglon i ddiogelwch bwyd yn eich maes cyfrifoldeb chi
6. Nodi dangosyddion ffynonellau posibl peryglon i ddiogelwch bwyd
7. Nodi peryglon i ddiogelwch bwyd a mesurau rheoli priodol
8. Rhoi gwybod i’r person cyfrifol am unrhyw beryglon posibl newydd i ddiogelwch bwyd er mwyn adolygu a gwerthuso gweithdrefnau diogelwch bwyd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.  Pwysigrwydd bod â gweithdrefnau diogelwch bwyd
2.  Y mathau o beryglon i ddiogelwch bwyd (microbiolegol, ffisegol, cemegol ac alergenig)
3.  Prif achosion peryglon i ddiogelwch bwyd (ffactorau dynol; gan gynnwys diffyg goruchwyliaeth effeithiol, diffyg gwybodaeth ar labeli, ansawdd cyflenwyr, traws-halogiad, safleoedd a gwastraff, iechyd personol, problemau o ran trin a phlâu)
4.  Y peryglon arwyddocaol i ddiogelwch bwyd yn eich gweithle chi
5.  Yr amodau sy’n effeithio ar dwf microbau 
6.  Y prif ddulliau o reoli peryglon arwyddocaol i ddiogelwch bwyd
7.  Gofynion cyfredol deddfwriaeth diogelwch bwyd sy’n effeithio ar eich cyfrifoldebau chi
8.  Eich cyfrifoldebau chi o dan weithdrefnau diogelwch bwyd eich sefydliad a sut i’w cyflawni
9.  Yr ystod o arferion hylendid da sy’n berthnasol i’ch gwaith chi a pham maen nhw’n bwysig
10. Egwyddorion sylfaenol dyluniad a phatrwm da yn y gweithle 
11. Peryglon plâu a mesurau rheoli effeithiol 
12. Dulliau effeithiol o lanhau cyfarpar ac wynebau a pham mae’r rhain yn bwysig
13. Pwysigrwydd rheoli tymheredd bwyd
14. Lefelau a rheolaethau tymheredd i’r mathau o fwyd yr ydych yn gyfrifol amdano wrth: ei ddanfon, ei storio, ei baratoi, ei goginio, ei oeri a’i aildwymo, ei gadw a’i weini
15. Pwysigrwydd gwaredu gwastraff mewn modd hylan ac effeithiol a’r dulliau cywir o reoli gwastraff
16. Peryglon traws-halogiad a dulliau y gallwch eu defnyddio i ddileu’r rhain ar gyfer unrhyw fath o berygl i ddiogelwch bwyd
17. Arferion hylendid personol y dylai eich staff eu dilyn yn unol â’r gofynion gweithrediadol gan gynnwys: golchi dwylo, gwisgo dillad diogelwch, esgidiau a phenwisg, gwisgo gemwaith a chyfwisgoedd, trin a gorchuddio toriadau, cornwydydd, crafiadau a briwiau, rhoi gwybod i’r person priodol am salwch a heintiadau
18. Sut i gyfleu cyfrifoldebau am weithdrefnau diogelwch bwyd i’r staff a sicrhau eu bod yn eu deall
19. Sut i sicrhau y caiff y staff hyfforddiant priodol er mwyn cyflawni eu cyfrifoldebau o ran diogelwch bwyd yn unol â’ch lefel cyfrifoldeb ac ymreolaeth chi
20. Y mathau o fethiannau a all ddigwydd gyda mesurau rheoli a’r camau unioni i’w cymryd ar gyfer y rhain
21. Pwysigrwydd rhoi adborth i’r person sy’n gyfrifol am y gweithdrefnau diogelwch bwyd a’r mathau o broblemau y dylech roi gwybod amdanyn nhw
22. Pwysigrwydd bod yn effro o hyd am y posibilrwydd o beryglon i ddiogelwch bwyd yn eich maes cyfrifoldeb chi a sut i wylio am y rhain
23. Enghreifftiau cyffredin o beryglon i ddiogelwch bwyd yn y grwpiau canlynol: microbiolegol, ffisegol, cemegol ac alergenig
24. Y dangosyddion peryglon i ddiogelwch bwyd yn eich maes cyfrifoldeb chi (difetha bwyd, rheolaethau tymheredd, cyflwr y safle)
25. Y mesurau rheoli sy’n briodol i’r dangosyddion hyn o beryglon i ddiogelwch bwyd
26. Pwysigrwydd cyfrannu at y gwerthusiad o’r gweithdrefnau diogelwch bwyd

 
 

 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

1.  Rydych yn canfod anghenion pobl o ran gwybodaeth
2.  Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy’n hybu dealltwriaeth
3.  Rydych yn cytuno’n glir gyda phobl eraill ar yr hyn a ddisgwylir ganddyn nhw ac yn eu dal i gyfrif
4.  Rydych yn effro i beryglon posibl
5.  Rydych yn nodi goblygiadau neu ganlyniadau sefyllfa
6.  Rydych yn wynebu problemau perfformiad ac yn eu datrys yn uniongyrchol gyda’r bobl dan sylw
7.  Rydych yn rhoi cyfleoedd i bobl ddarparu adborth ac rydych yn ymateb yn briodol
8.  Rydych yn myfyrio’n rheolaidd ar eich profiadau chi a phrofiadau pobl eraill ac yn defnyddio’r rhain i lywio camau gweithredu yn y dyfodol
9.  Rydych yn gwirio ymroddiad unigolion i’w rolau mewn cam gweithredu penodol
10. Rydych yn defnyddio ffyrdd cost-effeithiol, amser-effeithiol a moesegol i gasglu, storio ac adalw gwybodaeth
11. Rydych yn gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael ac yn mynd ati i chwilio am ffynonellau cymorth newydd pan fo angen


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​Argymhellir y safon hon yn gryf i’r rheiny sy’n bwrw ymlaen â safonau PPLHSL7, PPLHSL10 a PPLHSL11.

Mae’r safon hon yn benodol i’r sector ac mae ganddi gysylltiadau penodol â’r safonau canlynol yng nghyfres safonau Lletygarwch Goruchwylio ac Arwain:

1.  PPLHSL1
2.  PPLHSL3
3.  PPLHSL4
4.  PPLHSL8
5.  PPLHSL9
6.  PPLHSL12-15
7.  PPLHSL17
8.  PPLHSL24
9.  PPLHSL25
10. PPLHSL29

 


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLHSL30

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Uned, Arweinydd Tîm, Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin, Goruchwyliwr

Cod SOC


Geiriau Allweddol

arferion diogelwch bwyd, paratoi, gweini, bwyd, diod