Cyfrannu at y gwaith o ddethol staff ar gyfer gweithgareddau
URN: PPLHSL29
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch Goruchwylio ac Arwain
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2016
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â helpu i ganfod personél addas ar gyfer gwaith. Mae’r safon hon i arweinwyr timau, rheolwyr llinell gyntaf neu oruchwylwyr ym maes lletygarwch.
Ni all busnesau ddarparu gwasanaethau o ansawdd da i’w cwsmeriaid ond os oes ganddyn nhw staff sydd â’r agweddau, profiad a hyfforddiant iawn, a’r potensial i dyfu yn eu swyddi. Fodd bynnag, mae penderfyniadau recriwtio’n cael effaith yn fewnol hefyd. Nid yn unig mae’r gweithwyr iawn yn hanfodol i gadw cleientiaid yn hapus a sefydlu enw da sy’n para, maen nhw hefyd yn ganolog i ddiwylliant busnes mewnol cwmni.
Mae’r safon hon yn ymdrin â meysydd allweddol fel sut i gyflwyno dadl dros ofynion staffio ychwanegol a’r broses ddethol sy’n briodol i ganfod a recriwtio staff priodol.
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
•Cyfrannu at y gwaith o ddethol staff ar gyfer gweithgareddau
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Nodi gofynion staffio sy’n cymryd i ystyriaeth amcanion gwaith a chyfyngiadau gweithio
2. Sicrhau bod y gofynion staffio yr ydych yn eu nodi wedi’u seilio ar wybodaeth ddilys a dibynadwy
3. Cyflwyno gofynion staffio sydd wedi’u nodi i’r bobl berthnasol ar adeg ac mewn fformat sy’n briodol i’ch sefydliad
4. Defnyddio dulliau asesu a dethol sy’n addas i’ch sefydliad i asesu a dethol staff; lle bo’n briodol wrth ddethol, gwrando’n ofalus, cael eglurder ynghylch pwyntiau ac aralleirio’r hyn mae pobl eraill yn ei ddweud er mwyn gwirio bod pawb yn deall ei gilydd
5. Dangos uniondeb, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau; sicrhau bod eich detholiad wedi’i seilio ar asesiad gwrthrychol o’r wybodaeth sydd ar gael o gymharu â’r meini prawf dethol y cytunwyd arnyn nhw
6. Cofnodi’ch cyfraniadau at y broses ddethol gan sicrhau eu bod yn gyflawn, yn gywir, yn glir ac yn gryno, yn bodloni gofynion y sefydliad a, lle mae gwybodaeth gyfrinachol dan sylw, yn cael eu cadw’n ddiogel
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. Sut i gyflwyno dadl dros ofynion staffio ychwanegol mewn ffordd sy’n debygol o ddylanwadu ar benderfynwyr mewn modd cadarnhaol
2. Sut i gasglu a gwirio dilysrwydd y wybodaeth sy’n angenrheidiol er mwyn cyfrannu at ofynion staffio
3. Y gofynion cyfreithiol a gofynion y sefydliad mewn perthynas â chanfod anghenion o ran personél
4. Y math o amcanion gwaith a chyfyngiadau a all ddylanwadu ar ystyriaethau gan gynnwys: cynlluniau gwaith, ystyriaethau ariannol, argaeledd staff, y gronfa recriwtio a gwerthoedd a pholisïau’r sefydliad
5. Sut i adnabod a dehongli’r amcanion gwaith a chyfyngiadau sy’n berthnasol i adnabod eich anghenion o ran personél
6. Sut i gyflwyno awgrymiadau ar gyfer dethol mewn modd effeithiol
7. Pwysigrwydd cyfrinachedd yn ystod prosesau dethol a pha fathau o wybodaeth y gellir eu datgelu i ba aelodau o’r staff
8. Pwysigrwydd cadw cofnodion cywir, cyflawn a chlir o’ch cyfraniadau i’r broses ddethol
9. Y gofynion cyfreithiol ar gyfer dethol staff
10. Gofynion y sefydliad a’r diwydiant ar gyfer dethol personél
11. Yr ystod o ddulliau y gellir eu defnyddio i asesu a dethol staff a manteision ac anfanteision y rhain i’ch tîm
12. Y cyfraniad y gallwch ei wneud i’r gwaith o asesu a dethol staff
13. Sut i wneud asesiadau teg a gwrthrychol yn erbyn meini prawf yn ystod y broses ddethol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
1. Rydych yn dangos uniondeb, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
2. Rydych yn gwrando’n weithredol, yn gofyn cwestiynau, yn cael eglurder ynghylch pwyntiau ac yn aralleirio’r hyn mae pobl eraill yn ei ddweud er mwyn gwirio bod pawb yn deall ei gilydd
3. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy’n hybu dealltwriaeth
4. Rydych yn cadw gwybodaeth gyfrinachol yn ddiogel
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safon hon yn benodol i’r sector ac mae ganddi gysylltiadau â’r holl safonau eraill yng nghyfres safonau Lletygarwch Goruchwylio ac Arwain.
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPLHSL29
Galwedigaethau Perthnasol
Arweinydd Tîm, Goruchwyliwr
Cod SOC
Geiriau Allweddol
dethol staff, gweithgareddau