Rheoli effaith amgylcheddol eich gwaith
URN: PPLHSL28
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch Goruchwylio ac Arwain
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2016
Trosolwg
Mae’r uned hon yn ymdrin â rheoli gweithgareddau gwaith ac adnoddau yn eich maes cyfrifoldeb chi er mwyn lleihau i’r eithaf yr effaith negyddol a chynyddu i’r eithaf yr effaith gadarnhaol maen nhw’n eu cael ar yr amgylchedd. Mae’r safon hon i arweinwyr timau, rheolwyr llinell gyntaf neu oruchwylwyr ym maes lletygarwch.
Yn unigol, gallai unrhyw fusnes lletygarwch gael effaith negyddol sylweddol ar yr amgylchedd. Ar y cyd, ar draws y diwydiant cyfan, gall y gost fod yn enfawr.
Ynni, dŵr a gwastraff yw tri maes allweddol effaith amgylcheddol. Disgwylir i oruchwylwyr a rheolwyr chwarae rhan flaenllaw wrth helpu i leihau’r effaith negyddol ar yr amgylchedd i’r eithaf trwy reoli gweithgareddau ac adnoddau’n effeithlon. Mae’r safon hon yn esbonio mwy am bwysigrwydd trefnu gweithgareddau gwaith ac adnoddau mewn ffordd sy’n cyflawni’r nod hwn.
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
•Rheoli effaith amgylcheddol eich gwaith
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1.Trefnu gweithgareddau gwaith a’r defnydd o adnoddau yn eich maes cyfrifoldeb fel eu bod yn effeithlon ac yn effeithiol, yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol a pholisïau amgylcheddol ac yn lleihau i’r eithaf yr effaith negyddol ac yn cynyddu i’r eithaf yr effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd
2.Canfod effaith amgylcheddol gweithgareddau gwaith a’r defnydd o adnoddau yn eich maes cyfrifoldeb chi
3.Rhoi gwybod yn brydlon am unrhyw risgiau a ganfyddir i’r amgylchedd, nad ydych chi’n gallu eu rheoli
4.Annog pobl yn eich maes cyfrifoldeb chi i ganfod cyfleoedd i wella’r perfformiad amgylcheddol a chyfrannu ato
5.Canfod a gweithredu newidiadau i weithgareddau gwaith a’r defnydd o adnoddau a fydd yn lleihau’r effaith negyddol ac yn cynyddu’r effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd
6.Cyfleu’r buddion amgylcheddol a ddaw o ganlyniad i newidiadau i weithgareddau gwaith a’r defnydd o adnoddau
7.Cael cyngor arbenigol, lle bo angen, i’ch helpu i ganfod a rheoli effaith amgylcheddol eich gweithgareddau gwaith a’ch defnydd o adnoddau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. Sut i drefnu gweithgareddau gwaith a’r defnydd o adnoddau yn eich maes cyfrifoldeb chi fel eu bod yn effeithlon ac yn effeithiol
2. Pwysigrwydd trefnu gweithgareddau gwaith a’r defnydd o adnoddau, fel eu bod yn lleihau i’r eithaf eu heffaith negyddol a chynyddu i’r eithaf eu heffaith gadarnhaol ar yr amgylchedd a sut i wneud hynny
3. Pwysigrwydd canfod effaith amgylcheddol gweithgareddau gwaith a’r defnydd o adnoddau yn eich maes cyfrifoldeb chi, a sut i wneud hynny
4. Pwysigrwydd rhoi gwybod yn brydlon am unrhyw risgiau a ganfyddir i’r amgylchedd nad ydych chi’n gallu eu rheoli a sut i wneud hynny
5. Sut i annog pobl i wneud cyfraniadau
6. Sut i ganfod a gweithredu newidiadau i weithgareddau gwaith a’r defnydd o adnoddau a fydd yn lleihau eu heffaith negyddol ac yn cynyddu eu heffaith gadarnhaol ar yr amgylchedd
7. Egwyddorion cyfathrebu effeithiol a sut i’w rhoi ar waith
8. Gofynion y diwydiant / sector o ran rheoli perfformiad amgylcheddol yn eich maes cyfrifoldeb chi
9. Y gofynion cyfreithiol a pholisïau amgylcheddol a sut i gydymffurfio â nhw
10. Y mathau o risgiau i’r amgylchedd na allwch eu rheoli
11. Pobl yn eich maes cyfrifoldeb chi a all ganfod a chyfrannu at gyfleoedd i wella’r perfformiad amgylcheddol
12. Yr ystod o arbenigwyr amgylcheddol sy’n bodoli y tu mewn i’ch sefydliad a/neu y tu allan iddo
13. Eich rôl a’ch cyfrifoldebau chi a therfynau eich awdurdod
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
1. Rydych yn adnabod newidiadau mewn amgylchiadau’n gyflym ac yn addasu cynlluniau a gweithgareddau’n unol â hynny
2. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy’n hybu dealltwriaeth
3. Rydych yn rhoi gwybod i bobl yn rheolaidd am gynlluniau a datblygiadau
4. Rydych yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau’r diwydiant, polisïau’r sefydliad a chodau proffesiynol, ac yn sicrhau bod pobl eraill yn cydymffurfio â nhw
5. Rydych yn gweithredu o fewn terfynau eich awdurdod
6. Rydych yn effro i beryglon posibl
7. Rydych yn darparu gwybodaeth briodol yn brydlon i’r rhai mae arnyn nhw ei hangen ac mae ganddyn nhw hawl iddi
8. Rydych yn annog pobl eraill i rannu gwybodaeth yn effeithlon o fewn cyfyngiadau cyfrinachedd
9. Rydych yn gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael ac yn mynd ati i chwilio am ffynonellau cymorth newydd pan fo angen
10. Rydych yn nodi goblygiadau neu ganlyniadau sefyllfa
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safon hon yn benodol i’r sector ac mae ganddi gysylltiadau penodol â’r safonau canlynol yng nghyfres safonau Lletygarwch Goruchwylio ac Arwain:
•PPPLHSL1
•PPPLHSL1
•PPLHSL3
•PPLHSL7
•PPLHSL10
•PPLHSL11
•PPLHSL17
•PPLHSL18
•PPLHSL25
•PPLHSL30
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
Uned E9
Galwedigaethau Perthnasol
Arweinydd Tîm, Goruchwyliwr
Cod SOC
Geiriau Allweddol
effaith amgylcheddol, gwaith