Cyfrannu at ddatblygu rhestr winoedd
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â helpu i ddatblygu rhestri gwinoedd newydd. Mae’r safon hon ar gyfer arweinwyr tîm, rheolwyr llinell gyntaf, goruchwylwyr lletygarwch neu brif weinyddion.
Mae gwin yn rhan hanfodol o lawer o brofiadau ciniwau ac mae’n ffynhonnell werthfawr o elw i’r busnes. I lawer o sefydliadau, mae’n fuddiol ac yn broffidiol iddynt gynnig eu rhestr winoedd eu hunain, i gynhyrchu elw ac i’w gwahaniaethu rhag cystadleuwyr.
Rhan bwysig o lunio rhestr winoedd yw ymchwilio i dueddiadau presennol ynghyd â chasglu barn gan staff a chwsmeriaid ar gyflwyno gwinoedd newydd. Yna, gall y wybodaeth hon gael ei bwydo’n ôl i’r penderfynyddion perthnasol yn eich sefydliad.
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r agweddau allweddol ar ddatblygu rhestr winoedd, gan gynnwys ymchwilio i winoedd, eu dadansoddi a’u cyflwyno.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gyfrannu at ddatblygu rhestr winoedd
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Casglu a gwerthuso gwybodaeth a fydd yn helpu i ddatblygu’r rhestr winoedd
- Ategu eich awgrymiadau ar gyfer y rhestr winoedd gyda’r holl wybodaeth ac adborth y gwnaethoch eu casglu a’u gwerthuso
- Cynorthwyo penderfynyddion i gytuno ar y rhestr winoedd derfynol
- Cofnodi’r penderfyniadau a wnaed yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Casglu’r wybodaeth y mae ei hangen i gyflwyno’r gwinoedd newydd
- Gwneud yn siŵr bod gan staff y wybodaeth, y sgiliau a’r adnoddau y mae eu hangen i gefnogi cyflwyno’r gwinoedd newydd, yn unol â’u rolau unigol
- Casglu a chyfrif am adborth gan staff a chwsmeriaid ar gyflwyno gwinoedd newydd
- Dadansoddi adborth a rhoi gwybod amdano i’r bobl berthnasol, yn unol â’ch gofynion sefydliadol.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer pwysau a mesurau, disgrifiadau masnach a deddfwriaeth trwyddedu, a sut i’w gweithredu
- Gwahanol rolau a chyfrifoldebau pobl yn eich sefydliad o ran datblygu rhestr winoedd a pha weithdrefnau sefydliadol sy’n berthnasol
- Beth yw’r tueddiadau mewn arddull gwin ac yfed gwin nawr ac yn y dyfodol, a sut gall y rhestr winoedd gael ei haddasu yn unol â’r canfyddiadau
- Beth mae eich cystadleuwyr uniongyrchol yn ei gynnig a sut gall y wybodaeth hon lywio datblygiad y rhestr winoedd
- Pa fathau o gwsmeriaid newydd neu gwsmeriaid presennol y mae’r rhestr winoedd wedi’i hanelu atynt
- Pa gyllideb sydd ar gael a sut i brisio gwin er mwyn cyflawni maint elw priodol
- Beth yw nodweddion gwinoedd o wahanol ranbarthau
- Pa mor gydnaws y mae gwahanol winoedd â bwydlen eich sefydliad
- Faint o alcohol sydd yn y gwinoedd a restrir
- Pa winoedd sydd ar gael gan eich cyflenwyr a pha gyflenwyr eraill y gallech droi atynt
- Sut i gyflwyno gwybodaeth i reolwyr mewn fformat a fydd yn helpu i wneud penderfyniadau
- Sut i gasglu a gwerthuso gwybodaeth a fydd yn helpu i gynllunio a diweddaru’r rhestr winoedd
- Sut i hyrwyddo ymwybyddiaeth cwsmeriaid o winoedd a rhestri gwinoedd newydd
- Y mathau o bobl y dylid ymgynghori â nhw o ran cael adborth
- Sut i gasglu adborth y gellir ei ddefnyddio i werthuso effaith gwinoedd newydd a sut i gyflwyno’r canlyniadau i reolwyr
- Pa ddulliau cyfathrebu sy’n briodol ar gyfer aelodau tîm, cwsmeriaid, rheolwyr a chyflenwyr.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Rhoddir yr ymddygiadau canlynol yn ganllaw er mwyn bod yn sail i berfformiad effeithiol goruchwylydd ym maes lletygarwch
- Rydych chi’n rhagweld senarios tebygol yn y dyfodol ar sail dadansoddiad realistig o dueddiadau a datblygiadau
- Rydych chi’n defnyddio dulliau cost effeithiol, amser effeithiol a moesegol i gasglu, storio ac adalw gwybodaeth
- Rydych chi’n nodi anghenion gwybodaeth pobl
- Rydych chi’n nodi dewis gyfryngau ac arddulliau cyfathrebu pobl ac yn mabwysiadau cyfryngau ac arddulliau yn briodol i bobl a sefyllfaoedd gwahanol
- Rydych chi’n cyflwyno syniadau a dadleuon yn argyhoeddiadol, mewn ffyrdd sy’n taro deuddeg gyda phobl
- Rydych chi’n annog ac yn croesawu adborth gan bobl eraill ac yn defnyddio’r adborth hwn yn adeiladol
- Rydych chi’n cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau’r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol, ac yn sicrhau bod pobl eraill yn cydymffurfio â’r rhain
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safon hon yn safon penodol i’r sector ac mae ganddi gysylltiadau penodol â’r safonau canlynol yng nghyfres safonau Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch:
• HSL1-6
• HSL19
• HSL23
• HSL24