Cynorthwyo â defnyddio cyfarpar technolegol mewn gwasanaethau lletygarwch

URN: PPLHSL25
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch Goruchwylio ac Arwain
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymdrin â defnyddio technoleg newydd ym maes lletygarwch a chynorthwyo staff i’w defnyddio. Mae’r safon hon i arweinwyr timau, rheolwyr llinell gyntaf neu oruchwylwyr ym maes lletygarwch. Mae enghreifftiau o’r mathau o dechnoleg mae’r safon hon yn ymdrin â hi’n cynnwys:

•cyfarpar coginio cymhleth

•cyfarpar cymhleth i wneud diodydd
•cyfarpar technegol sy’n ymwneud â chynnal cyflenwadau
•systemau bwciadau a rhaglenni cyfrifiadurol eraill

Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:

•Goruchwylio’r defnydd o gyfarpar technolegol mewn gwasanaethau lletygarwch


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. Sicrhau bod y staff yn eich maes cyfrifoldeb chi yn gymwys i weithio gyda’r dechnoleg mae’n rhaid iddyn nhw ei defnyddio
2. Monitro’r ffordd y defnyddir y dechnoleg i sicrhau ei bod yn cael ei defnyddio’n ddiogel ac yn effeithlon, er budd cwsmeriaid a’r sefydliad ac yn unol â chanllawiau’r sefydliad a’r gwneuthurwr
3. Delio’n brydlon ac yn effeithiol â phroblemau sydd o fewn eich rheolaeth, a gofyn am gymorth a chyfarwyddyd gan y bobl berthnasol os oes gennych broblemau na allwch eu datrys
4. Gwirio bod gwaith cynnal a chadw’n cael ei wneud yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, canllawiau iechyd a diogelwch a gweithdrefnau’r sefydliad
5. Sicrhau y caiff unrhyw gofnodion gofynnol eu cwblhau’n gywir 
6. Canfod ac adrodd ar unrhyw ffyrdd y gellid gwella’r ffordd y defnyddir y dechnoleg


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.Y math o dechnoleg sy’n bodoli i gynorthwyo â gweithgareddau gwaith yn eich maes gwaith chi
2.Buddion ac anfanteision posibl cyflwyno technolegau newydd mewn sefydliadau
3.Ffyrdd y gellir goresgyn anfanteision cyflwyno technolegau newydd neu eu lleihau i’r eithaf
4.Ffynonellau gwybodaeth ac arferion gorau mewn perthynas â gwahanol fathau o dechnoleg a ddefnyddir yn y diwydiant
5.Gweithdrefnau’r sefydliad a threfniadau wrth gefn os yw’r dechnoleg yn eich maes cyfrifoldeb chi yn methu
6.Sut i ymdrin â chwsmeriaid os oes tarfu oherwydd methiant cyfarpar
7.Sut i reoli newid wrth gyflwyno technoleg newydd
8.Sut i sicrhau eich bod chi a’ch staff yn gymwys i weithredu’r dechnoleg maen nhw’n ei defnyddio
9.Sut i ganfod a diwallu anghenion am hyfforddiant mewn cysylltiad â defnyddio technolegau
10.Gweithdrefnau gweithrediadol y dylai’r staff eu dilyn wrth iddyn nhw ddefnyddio technoleg yn eich maes cyfrifoldeb chi
11.Gofynion a rhagofalon iechyd a diogelwch mewn perthynas â defnyddio technoleg yn eich maes cyfrifoldeb chi
12.Gweithdrefnau cynnal a chadw ar gyfer y dechnoleg yr ydych yn gweithio gyda hi
13.Sut i fonitro’r defnydd o dechnolegau newydd yn y gweithle a sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n gywir
14.Sut i sicrhau bod y dechnoleg yn eich maes cyfrifoldeb chi’n cael ei defnyddio’n effeithlon ac er budd cwsmeriaid a’r sefydliad
15.Sut i ddefnyddio’r dechnoleg newydd yn eich maes chi mewn ffordd sy’n lleihau unrhyw effeithiau negyddol ar yr amgylchedd i’r eithaf 
16.Yr ystod nodweddiadol o broblemau a allai godi gyda’r dechnoleg yn eich maes cyfrifoldeb chi a sut i ddelio â’r rhain
17.Sut i rymuso aelodau o’r staff i ddelio â phroblemau technolegol sydd, mae’n amlwg, o fewn eu rheolaeth a’u harbenigedd
18.Systemau cofnodi ar gyfer defnyddio a chynnal a chadw cyfarpar technolegol yn eich maes cyfrifoldeb chi a pham mae’n bwysig cynnal y rhain yn gywir                                                                                                   


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

1. Rydych yn ceisio gwella perfformiad yn ddi-baid
2. Rydych yn dod o hyd i ffyrdd ymarferol o oresgyn rhwystrau
3. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy’n hybu dealltwriaeth
4. Rydych yn sicrhau bod amser ar gael i gynorthwyo pobl eraill
5. Rydych yn cymryd cyfrifoldeb personol dros wneud i bethau ddigwydd
6. Rydych yn hoelio eich sylw personol ar fanylion penodol sy’n hollbwysig er mwyn cyflawni canlyniadau llwyddiannus


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Mae’r safon hon yn benodol i’r sector ac mae ganddi gysylltiadau penodol â’r safonau canlynol yng nghyfres safonau Lletygarwch Goruchwylio ac Arwain:

• PPLHSL1-5
• PPLHSL7
• PPLHSL10-17
• PPLHSL19
• PPLHSL24
• PPLHSL26
• PPLHSL28
• PPLHSL30



Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol


Galwedigaethau Perthnasol

Arweinydd Tîm, Goruchwyliwr

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cyfarpar technolegol, lletygarwch