Darparu cyfleoedd dysgu i gydweithwyr
URN: PPLHSL24
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch Goruchwylio ac Arwain
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2016
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â helpu cydweithwyr/staff i ddatblygu eu sgiliau trwy amrywiaeth o gyfleoedd dysgu. Mae’r safon hon i arweinwyr timau, rheolwyr llinell gyntaf neu oruchwylwyr ym maes lletygarwch.
Dywed rhai bod hyfforddiant yn rhywbeth a wneir imi gan eraill, ond bod dysgu’n rhywbeth rwyf yn ei wneud drosof fy hun. Nid oes llawer ohonom yn gwybod am yr amrywiaeth fawr o gyfleoedd dysgu sydd ar gael yn y gwaith. Mewn rhai sefydliadau, mae sefyllfaoedd newydd yn codi’n ddyddiol bron; daw heriau newydd i’n hwynebu ac rydym yn cwrdd â phobl newydd o bob cefndir. Mae’r holl bethau hyn yn rhoi’r cyfle inni brofi a dysgu rhywbeth newydd.
Mae’n bwysig gweithio gyda chydweithwyr, gan eu helpu i wireddu’r cyfleoedd i ddysgu, p’un a yw’r rhain yn gyfleoedd ffurfiol a gynlluniwyd, neu’n sefyllfaoedd ad hoc llai ffurfiol. Mae helpu cydweithwyr i ddeall eu dulliau dysgu personol, eu cynorthwyo trwy’r broses, dathlu eu cyraeddiadau ac ymdrin â thanberfformio i gyd yn rhannau allweddol o greu diwylliant dysgu.
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni:
•Darparu cyfleoedd dysgu i gydweithwyr
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Hyrwyddo buddion dysgu i aelodau o’r staff a sicrhau bod eu parodrwydd a’u hymdrechion i ddysgu yn cael eu cydnabod
2. Rhoi adborth teg, rheolaidd a defnyddiol i aelodau o’r staff ar eu perfformiad gwaith, gan drafod a chytuno ar sut y gallant wella
3. Gweithio gydag aelodau o’r staff i ganfod a blaenoriaethu anghenion dysgu yn seiliedig ar unrhyw fylchau rhwng gofynion eu rolau gwaith a’u gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau cyfredol
4. Helpu aelodau o’r staff i ganfod pa ddull(iau) dysgu neu gyfuniad o ddulliau sy’n gweithio orau iddyn nhw a sicrhau y caiff y rhain eu hystyried wrth ganfod a chyflawni gweithgareddau dysgu
5. Gweithio gyda chydweithwyr i ganfod a chael gwybodaeth am amrywiaeth o weithgareddau dysgu posibl er mwyn mynd i’r afael ag anghenion dysgu canfyddedig
6. Cydnabod a cheisio cael gwybod am wahaniaethau o ran disgwyliadau a dulliau gweithio sydd gan unrhyw aelodau o’r staff sy’n dod o wlad neu ddiwylliant gwahanol, a hybu ffyrdd o weithio sy’n ystyried eu disgwyliadau ac yn sicrhau’r cynhyrchiant mwyaf posibl
7. Trafod a chytuno gyda phob aelod o’r staff, gynllun datblygu sy’n cynnwys y gweithgareddau dysgu i’w gwneud, yr amcanion dysgu i’w cyflawni, a’r adnoddau ac amserlenni gofynnol
8. Gweithio gydag aelodau o’r staff i adnabod a defnyddio cyfleoedd dysgu sydd heb eu cynllunio
9. Gofyn am a defnyddio arbenigedd arbenigwyr mewn perthynas â chanfod a darparu dysgu ar gyfer aelodau o’r staff
10. Cynorthwyo aelodau o’r staff i gyflawni gweithgareddau dysgu, gan sicrhau bod unrhyw adnoddau gofynnol ar gael a chan ymdrechu i ddileu unrhyw rwystrau i ddysgu
11. Mewn trafodaethau â phob aelod o’r staff, gwerthuso a yw’r gweithgareddau dysgu a wnaed ganddynt wedi cyflawni’r canlyniadau dymunol a rhoi adborth cadarnhaol ar y profiad dysgu
12. Gweithio gydag aelodau o’r staff i ddiweddaru eu cynlluniau datblygu yng ngoleuni perfformiad, unrhyw weithgareddau dysgu a gyflawnwyd ac unrhyw newidiadau ehangach
13. Annog aelodau o’r staff i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain, gan gynnwys ymarfer a myfyrio ar yr hyn maen nhw wedi ei ddysgu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. Manteision dysgu i unigolion a sefydliadau, a sut i’w hybu ymysg eich cydweithwyr
2. Dulliau o ddatblygu ‘amgylchedd’ lle caiff dysgu ei werthfawrogi a chydnabyddir parodrwydd ac ymdrechion i ddysgu
3. Pam mae’n bwysig annog cydweithwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain
4. Sut i ddarparu adborth teg, rheolaidd a defnyddiol i gydweithwyr ynglŷn â’u perfformiad gwaith
5. Sut i ganfod anghenion dysgu yn seiliedig ar fylchau canfyddedig rhwng gofynion rolau gwaith cydweithwyr a’u gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau presennol
6. Sut y gall gwerthoedd, moesau, credoau, ffydd, arferion diwylliannol, canfyddiadau a disgwyliadau unrhyw bobl o wledydd neu ddiwylliannau eraill effeithio ar eu datblygiad personol a’u dysgu
7. Sut i flaenoriaethu anghenion dysgu eich cydweithwyr, gan gynnwys ystyried anghenion a blaenoriaethau’r sefydliad ac anghenion personol a gyrfaol y cydweithwyr
8. Y dulliau dysgu gwahanol a sut i gynorthwyo cydweithwyr i adnabod y dull dysgu, neu’r cyfuniad o ddulliau dysgu, sy’n gweithio orau iddyn nhw
9. Y mathau gwahanol o weithgareddau dysgu, eu manteision a’u hanfanteision, a’r adnoddau gofynnol (amser, ffioedd a staff llanw)
10. Ble/sut i ganfod a chael gwybodaeth am weithgareddau dysgu gwahanol
11. Pam mae’n bwysig bod gan eich cydweithwyr gynllun datblygu ysgrifenedig a’r hyn y dylai ei gynnwys (anghenion dysgu canfyddedig, gweithgareddau dysgu i’w cyflawni a’r amcanion dysgu i’w cyflawni, amserlenni ac adnoddau gofynnol)
12. Sut i osod amcanion dysgu CAMPUS (Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol)
13. Ffynonellau arbenigedd arbenigol mewn perthynas â chanfod a darparu dysgu i gydweithwyr
14. Y math o gymorth y gall fod ei angen ar gydweithwyr er mwyn cyflawni gweithgareddau dysgu, yr adnoddau mae eu hangen, y mathau o rwystrau y gallant eu hwynebu a sut y gellir eu datrys
15. Sut i werthuso a yw gweithgaredd dysgu wedi cyflawni’r amcanion dysgu dymunol
16. Pwysigrwydd adolygu a diweddaru’r cynlluniau datblygu ysgrifenedig yn rheolaidd yng ngoleuni perfformiad, unrhyw weithgareddau dysgu a gyflawnir ac unrhyw newidiadau ehangach
17. Sut i ystyried deddfwriaeth cydraddoldeb, unrhyw godau ymarfer perthnasol a materion cyffredinol o ran gwahaniaethu a chynhwysiant wrth ddarparu cyfleoedd dysgu i gydweithwyr
18. Gofynion y diwydiant/sector ar gyfer datblygu neu gynnal gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau a datblygiad proffesiynol
19. Materion dysgu a mentrau a threfniadau penodol sy’n berthnasol yn y diwydiant/sector
20. Diwylliant ac arferion gweithio’r diwydiant neu sector
21. Gwybodaeth berthnasol am ddiben, amcanion a chynlluniau eich tîm neu faes cyfrifoldeb, neu’r sefydliad ehangach
22. Rolau gwaith eich cydweithwyr, gan gynnwys terfynau eu cyfrifoldebau a’u hamcanion gwaith personol
23. Gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau presennol eich cydweithwyr
24. Bylchau canfyddedig yng ngwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau eich cydweithwyr
25. Anghenion dysgu canfyddedig eich cydweithwyr
26. Dull(iau) dysgu neu gyfuniadau o ddulliau sydd orau gan eich cydweithwyr
27. Cynlluniau datblygu ysgrifenedig eich cydweithwyr
28. Ffynonellau arbenigedd arbenigol sydd ar gael yn eich sefydliad neu iddo mewn perthynas â chanfod a darparu dysgu i’ch cydweithwyr
29. Y gweithgareddau ac adnoddau dysgu sydd ar gael yn eich sefydliad neu iddo
30. Polisïau eich sefydliad mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth
31. Polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad mewn perthynas â dysgu
32. Systemau gwerthuso perfformiad eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
1.Rydych yn cydnabod y cyfleoedd a gyflwynir gan amrywiaeth pobl
2.Rydych yn dod o hyd i ffyrdd ymarferol o oresgyn rhwystrau
3.Rydych yn neilltuo amser i gynorthwyo pobl eraill
4.Rydych yn ceisio deall anghenion, teimladau ac ysgogiadau unigolion, ac yn cymryd diddordeb gweithgar yn eu pryderon
5.Rydych yn annog ac yn cefnogi eraill i wneud y defnydd gorau o’u galluoedd
6.Rydych yn cydnabod cyflawniadau a llwyddiant pobl eraill
7.Rydych yn ysbrydoli pobl eraill gyda chynnwrf dysgu
8.Rydych yn wynebu problemau perfformiad ac yn eu datrys yn uniongyrchol gyda’r bobl berthnasol
9.Rydych yn gwrthod unrhyw ofynion afresymol
10.Rydych yn dangos uniondeb, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r holl safonau eraill yng nghyfres safonau Lletygarwch Goruchwylio ac Arwain
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
Uned D7
Galwedigaethau Perthnasol
Arweinydd Tîm, Goruchwyliwr
Cod SOC
Geiriau Allweddol
cyfleoedd dysgu, cydweithwyr