Monitro a datrys problemau gwasanaeth cwsmeriaid

URN: PPLHSL19
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch Goruchwylio ac Arwain
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymdrin â monitro problemau gwasanaeth cwsmeriaid a chymryd camau i lunio ateb. Mae’r safon hon i arweinwyr timau lletygarwch, rheolwyr llinell gyntaf neu oruchwylwyr. Dim ond un cwsmer anfodlon ac anhapus mae ei angen i ddifetha diwrnod da yn y gwaith i bawb. At hynny, gyda phŵer y cyfryngau cymdeithasol, gall cwsmeriaid anhapus gyrraedd nifer fawr o gwsmeriaid posibl a lledu’r gair ynghylch pa mor wael maen nhw’n meddwl y cawson nhw eu trin. Fodd bynnag, mae cyfle bob amser i gymryd rheolaeth dros gwynion cwsmeriaid a throi’r fantol i’n mantais ni. Mae monitro pryderon cwsmeriaid yn effeithiol a thrin cwynion yn sgil wirioneddol; mae’n sgil sydd wedi dod yn fwyfwy pwysig yn y blynyddoedd diwethaf ac yn un y bydd angen i unrhyw sefydliad llwyddiannus ganolbwyntio arni o hyd. Mae’r safon hon yn ymdrin â’r ymddygiadau, prosesau a dulliau sy’n fwyaf effeithiol wrth ddelio â phroblemau gwasanaeth cwsmeriaid. Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni: •Monitro a datrys problemau gwasanaeth cwsmeriaid

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1.  Ymateb yn gadarnhaol i broblemau gwasanaeth cwsmeriaid gan ddilyn canllawiau’r sefydliad
2.  Datrys problemau gwasanaeth cwsmeriaid pan mae gennych ddigon o awdurdod
3.  Gweithio gyda phobl eraill i ddatrys problemau gwasanaeth cwsmeriaid
4.  Rhoi gwybod i gwsmeriaid yn rheolaidd am y camau sy’n cael eu cymryd
5.  Gwirio gyda chwsmeriaid eu bod yn gyfforddus â’r camau sy’n cael eu cymryd
6.  Datrys problemau gyda systemau a gweithdrefnau gwasanaeth a allai effeithio ar gwsmeriaid cyn iddyn nhw ddod yn ymwybodol ohonyn nhw
7.  Rhoi gwybod i reolwyr a chydweithwyr am y camau sydd wedi cael eu cymryd i ddatrys problemau penodol
8.  Adnabod problemau gwasanaeth cwsmeriaid sy’n codi dro ar ôl tro
9.  Adnabod yr opsiynau i ddelio â phroblem gwasanaeth cwsmeriaid sy’n codi dro ar ôl tro ac ystyried manteision ac anfanteision pob opsiwn
10. Gweithio gyda phobl eraill i ddewis yr opsiwn gorau i ddatrys problem gwasanaeth cwsmeriaid sy’n codi dro ar ôl tro, gan gydbwyso disgwyliadau cwsmeriaid ag anghenion eich sefydliad
11. Cael cymeradwyaeth rhywun sydd â digon o awdurdod i newid canllawiau’r sefydliad er mwyn lleihau’r siawns y bydd problem yn codi eto
12. Rhoi’r ateb yr ydych wedi cytuno arno ar waith
13. Rhoi gwybod i’ch cwsmeriaid yn rheolaidd mewn modd cadarnhaol a chlir am y camau sy’n cael eu cymryd i ddatrys unrhyw broblemau gwasanaeth
14. Monitro’r newidiadau yr ydych wedi’u gwneud a’u haddasu os yw’n briodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. Gweithdrefnau a systemau’r sefydliad i ddelio â phroblemau gwasanaeth cwsmeriaid
2. Gweithdrefnau a systemau’r sefydliad i adnabod problemau gwasanaeth cwsmeriaid sy’n codi dro ar ôl tro
3. Sut mae datrys problemau gwasanaeth cwsmeriaid yn llwyddiannus yn cyfrannu at deyrngarwch cwsmeriaid gyda’r cwsmer allanol a gwell perthnasoedd gweithio gyda phartneriaid gwasanaeth neu gwsmeriaid mewnol
4. Sut i negodi gyda chwsmeriaid a thawelu eu meddyliau wrth i’w problemau gael eu datrys


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

1. Rydych yn adnabod newidiadau mewn amgylchiadau’n gyflym ac yn addasu cynlluniau a gweithgareddau’n unol â hynny
2. Rydych yn datblygu a theilwra cynhyrchion a gwasanaethau er mwyn sicrhau y caiff anghenion cwsmeriaid eu diwallu
3. Rydych yn creu ac yn adnabod atebion arloesol a llawn dychymyg
4. Rydych yn rhoi gwybod i bobl yn rheolaidd am gynlluniau a datblygiadau 
5. Rydych yn adnabod problemau sy’n codi dro ar ôl tro ac yn hybu newidiadau i strwythurau, systemau a phrosesau i’w datrys
6. Rydych yn adnabod ac yn gweithio gyda phobl a sefydliadau a all ddarparu cymorth i’ch gwaith
7. Rydych yn gweithredu o fewn cyfyngiadau eich awdurdod chi


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​Mae gan y safon hon gysylltiadau penodol â’r safonau canlynol yng nghyfres safonau Lletygarwch Goruchwylio ac Arwain:

1.  PPLHSL1-6
2.  PPLHSL8 – PPLHSL10
3.  PPLHSL11
4.  PPLHSL16
5.  PPLHSL17
6.  PPLHSL20
7.  PPLHSL21
8.  PPLHSL22
9.  PPLHSL23
10.PPLHSL26


Cysylltiadau Allanol

​Mae’r safon hon wedi’i theilwra o Uned 32 yn fframwaith Lefel 3 safonau’r Sefydliad Gwasanaeth Cwsmeriaid​


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLHSL19

Galwedigaethau Perthnasol

Goruchwyliwr, Arweinydd Timau, Goruchwyliwr gwasanaeth lletygarwch, Lletygarwch

Cod SOC


Geiriau Allweddol

lletygarwch, goruchwyliwr, goruchwylio, arweinydd tîm