Goruchwylio gwasanaethau cadw tŷ
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal gwasanaeth cadw tŷ ac mae’n debygol o gael ei defnyddio gan oruchwylydd sy’n gyfrifol am y gweithgareddau yn y maes gwaith yn ddyddiol, o dan gyfarwyddyd y rheolwr perthnasol.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae pwysigrwydd y swyddogaeth cadw tŷ fel rhan allweddol o gynnig llety wedi cael lle blaenllaw. Mae safonau cadw tŷ a glendid yn chwarae rhan bwysig mewn denu a chadw cwsmeriaid. O ran datblygiad personol rhywun, gall cadw tŷ ddatblygu amrywiaeth o sgiliau defnyddiol a throsglwyddadwy, gan gynnwys cynllunio, sgiliau trefnu, rheoli pobl a llygad graff am fanylder.
Mae’r safon hon yn delio â pharatoi, goruchwylio ac adolygu’r gwasanaeth, gan gynnwys cynllunio cyfarpar a chyflenwadau, paratoi rotâu staff, briffio staff a chasglu adborth gan gwsmeriaid.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Oruchwylio gwasanaethau cadw tŷ
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Trefnu bod gweithdrefnau cadw tŷ yn digwydd ar adegau sy’n addas i gynnal safonau’r gwasanaeth cadw tŷ
- Dyrannu staff a’u briffio ar ddyletswyddau, gweithdrefnau perthnasol ac unrhyw amrywiadau’n gysylltiedig â’u harferion gwaith
- Gwneud yn siŵr bod gan staff y sgiliau, y wybodaeth a’r adnoddau y mae eu hangen arnynt pan fydd eu hangen arnynt ac annog staff i ofyn cwestiynau os bydd gwybodaeth nad ydynt yn ei deall
- Gwneud yn siŵr bod eich staff yn dilyn y gweithdrefnau cadw tŷ, yn cynnal golwg y llety a’r ardaloedd cyhoeddus, ac yn ymddwyn a chyflwyno’u hunain yn unol â gofynion a safonau sefydliadol
- Arwain staff i adnabod cwsmeriaid gwahanol a’u hanghenion go iawn ac anghenion canfyddedig a chyfathrebu â chwsmeriaid mewn ffordd sy’n annog profiad cadarnhaol i gwsmeriaid
- Sicrhau bod y gwasanaeth cadw tŷ yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau’r diwydiant, codau proffesiynol a pholisïau sefydliadol perthnasol
- Rhoi gwybod i’ch staff a’ch cwsmeriaid am unrhyw newidiadau i’r gwasanaeth a all effeithio arnyn nhw
- Monitro ansawdd gwaith a chynnydd yn erbyn cynlluniau a gweithredu’n effeithiol i reoli problemau a all darfu ar y gwasanaeth porthora a concierge pan fyddant yn digwydd, gan ddod o hyd i ffyrdd ymarferol o oresgyn rhwystrau
- Rheoli costau, gwneud y defnydd gorau o adnoddau sydd ar gael a cheisio ffynonellau cymorth newydd yn rhagweithiol pan fydd problemau’n codi
- Monitro ac adolygu gweithdrefnau i sicrhau bod y gwasanaeth yn bodloni anghenion cwsmeriaid
- Casglu a throsglwyddo adborth ac argymell gwelliannau i’r bobl berthnasol yn unol â gofynion eich sefydliad
- Rhoi adborth i staff i’w helpu i wella’u perfformiad, lle bo’n briodol
- Defnyddio dulliau effeithiol i gasglu, storio ac adalw gwybodaeth, cwblhau’r cofnodion gofynnol yn gywir ac adrodd ar berfformiad i gefnogi’r gwasanaeth, yn unol â’ch gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Rolau a chyfrifoldebau gwahanol bobl yn eich sefydliad a’ch adran ar gyfer gweithdrefnau yn gysylltiedig â’r gwasanaeth cadw tŷ
- Sut mae deddfwriaeth yn effeithio ar weithdrefnau cadw tŷ, beth yw’r gofynion cyfreithiol yn gysylltiedig â storio gwybodaeth am gwsmeriaid, staff a’u sylwadau, a pham mae angen adolygu goblygiadau gofynion cyfreithiol yn rheolaidd
- Pwysigrwydd economaidd gwasanaeth cadw tŷ effeithiol, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, i’r sefydliad a’i aelodau staff
- Sut gall polisïau eich sefydliad effeithio ar ddatblygiad gweithdrefnau ar gyfer y gwasanaeth cadw tŷ
- Safonau cyflwyniad personol, gofal cwsmeriaid ac ymddygiad ar gyfer staff
- Sut mae’r gwasanaeth cadw tŷ yn integreiddio ag adrannau eraill a’r problemau a all godi os na fydd y gwasanaeth cadw tŷ a’r adrannau eraill yn cydweithio
- Sut i ddyrannu gwaith i staff a monitro cyfrifoldebau i sicrhau bod safonau’n cael eu cynnal
- Sut i nodi anghenion hyfforddiant a sicrhau bod gan staff y sgiliau a’r wybodaeth i gyflawni eu gwaith yn effeithiol
- Sut i ddewis dulliau priodol i friffio eich staff, gan gynnwys: cyfarwyddiadau llafar, cyfarwyddiadau ysgrifenedig, arddangosiadau neu ddiagramau
- Sut i roi adborth i staff mewn ffordd sy’n eu cymell
- Y gwahanol gyfryngau, deunyddiau ac offer glanhau sy’n cael eu defnyddio yn y gwasanaeth cadw tŷ a sut i’w defnyddio a’u storio
- Sut dylid glanhau / gofalu am yr arwynebau a’r deunyddiau gwahanol yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano
- Gwahanol ffyrdd o gwblhau a storio cofnodion, papur a chyfrifiadurol, a manteision ac anfanteision pob un ohonynt
- Pam mae’n bwysig adolygu gweithdrefnau a sut i wneud hynny a sut i nodi ac awgrymu ffyrdd posibl o wella’r gwasanaeth cadw tŷ
- Y safonau iechyd a diogelwch y mae angen eu dilyn o ran y gwasanaeth cadw tŷ a’r effaith y gallai torri’r safonau hyn ei chael ar gwsmeriaid, staff a’r sefydliad
- Sut i fonitro gwaith y gwasanaeth cadw tŷ a dyrannu a defnyddio adnoddau
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd yn y gwasanaeth cadw tŷ, sut i ddelio â nhw a rhoi gwybod amdanynt, a therfynau eich awdurdod wrth ddelio â phroblemau
- Pam dylech chi gynnal cyfrinachedd wrth gasglu adborth a sut i roi gwybod am adborth
- Pwysigrwydd casglu adborth, y gweithdrefnau ar gyfer cael a chofnodi adborth gan gwsmeriaid a staff a pham mae’n hanfodol i wella gwasanaethau a rheoli’r sefydliad yn gyffredinol
- Sut i addasu dyraniad gwaith i ymateb i adborth
Cwmpas/ystod
Rhoddir yr ymddygiadau canlynol yn ganllaw er mwyn bod yn sail i berfformiad effeithiol goruchwylydd ym maes lletygarwch
- Rydych chi’n gosod esiamplau o lendid a chyflwyniad, ac mae gennych yr hyder i ddelio â phroblemau yn effeithiol ac yn brydlon
- Rydych chi’n rhyddhau gwybodaeth briodol yn brydlon i’r bobl sydd angen y wybodaeth ac sydd â hawl i’w chael
- Rydych chi’n trosglwyddo’ch gwybodaeth i gefnogi datblygiad staff a chydweithwyr
- Rydych chi’n modelu ymddygiad sy’n dangos parch, cymwynasgarwch a chydweithrediad
- Rydych chi’n adnabod problemau mynych ac yn hyrwyddo newidiadau i strwythurau, systemau a phrosesau i’w datrys
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae dulliau effeithiol ar gyfer casglu, storio ac adalw gwybodaeth yn cynnwys dulliau cost effeithiol, amser effeithiol a moesegol.
Mae gwybodaeth yn cynnwys gwybodaeth gan gwsmeriaid a staff.
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safon hon yn safon penodol i’r sector ac mae ganddi gysylltiadau penodol â’r safonau canlynol yng nghyfres safonau Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch:
• HSL1-6
• HSL14
• HSL18
• HSL19
• HSL23
• HSL24
• HSL29