Goruchwylio gweithrediadau selerau a storfeydd diodydd

URN: PPLHSL13
Sectorau Busnes (Suites): Lletygarwch Goruchwylio ac Arwain
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymdrin â goruchwylio selerau a storfeydd diodydd er mwyn sicrhau bod diodydd ar gael i’w defnyddio yn y cyflwr gorau posibl. Mae cynnal gweithrediad seler effeithlon ac effeithiol yn hanfodol. Gall pibellau glân, tymereddau cywir ac elfennau newidiol eraill i gyd effeithio ar ansawdd terfynol y diodydd yr ydych yn eu cynnig ac, mewn achosion eithafol, arwain at gadw neu golli cwsmeriaid! Yr hyn sy’n allweddol yw’r gallu i sicrhau y caiff yr holl weithdrefnau angenrheidiol eu dilyn yn gywir a chan bob aelod o’r tîm. Mae rheoli seler yn dda yn golygu monitro’r perfformiad yn rheolaidd, canfod problemau posibl a llunio strategaethau i wrthsefyll unrhyw beth a allai fynd o’i le. Mae’n golygu adnabod problemau sy’n codi dro ar ôl tro a sicrhau bod y bobl berthnasol yn y sefydliad yn ymwybodol ohonyn nhw. Mae’r safon hon yn ymdrin â’r meysydd hyn ac eraill sy’n hollbwysig i gyflawni gwaith da wrth reoli seler. Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i’w gyflawni: •Goruchwylio gweithrediadau selerau a storfeydd diodydd

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1.  Sicrhau eich bod chi a’ch staff yn dilyn gweithdrefnau y cytunwyd arnyn nhw o ran selerau a storfeydd diodydd, er mwyn sicrhau bod y diodydd yn y cyflwr gorau posibl a lleihau gwastraff i’r eithaf
2.  Sicrhau bod gweithrediadau selerau a storfeydd diodydd yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol, rheoliadau’r diwydiant, codau proffesiynol a pholisïau’r sefydliad  
3.  Canfod risgiau posibl i’r gweithrediadau selerau a storfeydd diodydd a rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith i’w lleihau i’r eithaf
4.  Arwain trwy esiampl a briffio’r staff i chwilio am broblemau a rhoi gwybod amdanyn nhw wrth iddyn nhw godi ac ymateb mewn modd adeiladol
5.  Monitro ansawdd gwaith a chynnydd yn erbyn cynlluniau a chymryd camau effeithiol i reoli problemau a all darfu ar weithrediadau selerau a storfeydd diodydd wrth iddyn nhw godi, gan ddod o hyd i ffyrdd ymarferol o oresgyn rhwystrau
6.  Rheoli costau, gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael a mynd ati i chwilio am ffynonellau cymorth newydd pan mae problemau’n codi
7.  Monitro ac adolygu gweithdrefnau selerau a storfeydd diodydd er mwyn canfod ac awgrymu ffyrdd o’u gwneud yn fwy effeithlon
8.  Rhoi adborth i’r staff i’w helpu i wella eu perfformiad lle bo’n briodol
9.  Defnyddio dulliau effeithiol i gasglu, storio ac adalw gwybodaeth yn gywir
10. Cwblhau’r cofnodion gofynnol ac adrodd ar berfformiad er mwyn cynorthwyo’r gwasanaeth diodydd yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad

 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.    Sut i gynllunio gweithrediadau effeithiol o ran selerau a storfeydd diodydd 
1.1. Y ddeddfwriaeth a chodau ymarfer ym meysydd iechyd a diogelwch a hylendid sy’n berthnasol i weithrediadau selerau a storfeydd diodydd
1.2. Sut i gael deddfwriaeth a chodau ymarfer sy’n berthnasol i’ch rôl a chael y wybodaeth ddiweddaraf amdanyn nhw
1.3.Gweithdrefnau’r sefydliad sy’n ymwneud â’r gweithrediad selerau a storfeydd diodydd a pham maen nhw’n bwysig  
1.4 Yr effaith economaidd mae dilyn neu fethu â dilyn gweithdrefnau selerau a storfeydd diodydd yn ei chael ar y sefydliad, ei gyflogeion a’i gwsmeriaid
1.5 Buddion amgylcheddol gweithrediadau selerau a storfeydd diodydd effeithiol
1.6 Sut y gellir nodi gweithdrefnau newydd a’u rhoi ar waith
1.7 Sut i lunio cynlluniau wrth gefn a sut y gellir eu defnyddio i leihau effeithiau negyddol i’r eithaf

  1.    Sut i weithio allan pa adnoddau mae eu hangen i gyflawni gweithrediadau effeithiol o ran selerau a storfeydd diodydd 

2.1. Y mathau o gynhyrchion sy’n cael eu cadw fel arfer mewn selerau a storfeydd diodydd a’r cynhyrchion penodol yn eich maes cyfrifoldeb chi
2.2. Y sgiliau a gwybodaeth mae eu hangen ar y staff i gyflawni gweithrediadau selerau a storfeydd diodydd yn effeithiol

  •    Sut i gyflawni gweithrediadau effeithiol o ran selerau a storfeydd diodydd 

  • 3.1. Gweithdrefnau sy’n briodol i storio cynhyrchion nodweddiadol, gan gynnwys y rheiny yn eich maes cyfrifoldeb chi
    3.2. Dulliau effeithiol o gyfleu gweithdrefnau i aelodau perthnasol o’r staff ynghylch gweithrediadau selerau a storfeydd diodydd
    3.3. Sut y gellir annog y staff i roi gwybod am broblemau a allai godi

  •    Sut i fonitro gweithrediadau selerau a storfeydd diodydd

  • 4.1. Sut y gellir monitro gweithrediadau selerau a storfeydd diodydd a sut i wneud hyn yn eich maes cyfrifoldeb chi
    4.2. Y mathau o broblemau a all godi a sut y gallwch unioni’r rhain
    4.3 Beth yw terfynau eich awdurdod chi o ran delio â phroblemau ym maes storio diodydd
    4.4 Sut i ganfod, cofnodi a rhoi gwybod am fethiannau i roi’r gweithdrefnau cywir a chodau ymarfer y diwydiant ar waith, a’r camau y gallwch eu cymryd i ymateb i hyn
    4.5 Sut y gellir lleihau tarfu ar y gwasanaeth wrth ymateb i broblemau a all godi

    5.   Sut i weithredu ar adborth

    5.1 Sut i roi adborth i’ch staff i’w helpu i wella eu perfformiad

     

     

     

     


    Cwmpas/ystod


    Cwmpas Perfformiad


    Gwybodaeth Cwmpas


    Gwerthoedd


    Ymddygiadau

    1. Rydych yn dangos brwdfrydedd dros ddiodydd o ansawdd da
    2. Rydych yn ymateb yn gadarnhaol ac yn greadigol i broblemau
    3. Rydych yn cytuno ar amcanion cyflawnadwy i chi’ch hun ac yn rhoi perfformiad cyson a dibynadwy
    4. Rydych yn sicrhau bod gwybodaeth briodol ar gael yn brydlon i’r rhai mae arnyn nhw ei hangen ac mae ganddyn nhw hawl iddi
    5. Rydych yn adnabod problemau sy’n codi dro ar ôl tro ac yn hybu newidiadau i strwythurau, systemau a phrosesau i’w datrys

     


    Sgiliau


    Geirfa

    ​Mae dulliau effeithiol o gasglu, storio ac adalw gwybodaeth yn cynnwys ffyrdd cost-effeithiol, amser-effeithiol a moesegol.

    Mae gwybodaeth yn cynnwys gwybodaeth oddi wrth gwsmeriaid a staff.


     


    Dolenni I NOS Eraill

    ​Mae’r safon hon yn benodol i’r sector ac mae ganddi gysylltiadau penodol â’r safonau canlynol yng nghyfres safonau Lletygarwch Goruchwylio ac Arwain:

    1. PPLHSL1-5
    2. PPLHSL11
    3. PPLHSL14
    4. PPLHSL19
    5. PPLHSL25

     


    Cysylltiadau Allanol


    Fersiwn rhif


    Dyddiad Adolygu Dangosol

    01 Maw 2021

    Dilysrwydd

    Ar hyn o bryd

    Statws

    Gwreiddiol

    Sefydliad Cychwynnol

    People 1st

    URN gwreiddiol

    PPL HSL13

    Galwedigaethau Perthnasol

    Arweinydd Tîm, Goruchwyliwr bwyd a diod, Goruchwyliwr bar

    Cod SOC


    Geiriau Allweddol

    goruchwylio, gweithrediadau, selerau, storfeydd, diodydd