Goruchwylio gwasanaethau diodydd
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â goruchwylio paratoi a darparu’r gwasanaeth diodydd ac mae’n debygol o gael ei defnyddio gan oruchwylydd sy’n gyfrifol am y gweithgareddau yn yr ardal waith yn ddyddiol, o dan gyfarwyddyd y rheolwr perthnasol.
Yn yr un modd â chynifer o elfennau lletygarwch gwych, mae gwasanaeth diodydd effeithlon yn dechrau gyda’r staff sydd yn eu lle i weini. Bydd gwirio bod pawb yn gweithio yn ôl yr un gweithdrefnau a bod ganddynt gyfarwyddyd clir a diamwys yn chwarae rôl allweddol mewn sicrhau bod cwsmeriaid wrth eu bodd.
Mae’r safon hon yn esbonio mwy am alluogi gwasanaeth cyfeillgar, hylan ac effeithlon mewn amgylchfyd diogel, hamddenol, gan sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r gyfraith ac yn delio â phroblemau ymddygiad cwsmeriaid yn gyflym ac yn gywir.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Oruchwylio gwasanaethau diodydd
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwneud yn siŵr bod gan staff y sgiliau, y wybodaeth a’r adnoddau y mae eu hangen arnynt pan fydd eu hangen arnynt ac annog staff i ofyn cwestiynau os bydd gwybodaeth nad ydynt yn ei deall
- Archwilio’r ardaloedd yfed i sicrhau eu bod yn gysurus ac yn ddeniadol
- Archwilio’r ardaloedd paratoi i sicrhau eu bod wedi’u paratoi yn unol â gofynion, i’r safon y cytunwyd arni ac mewn pryd i ganiatáu am ddarparu’r gwasanaeth diodydd wedi’i drefnu
- Gwneud yn siŵr bod eich staff yn dilyn gweithdrefnau gwasanaeth diodydd, yn cynnal golwg ardal y gwasanaeth diodydd, ac yn ymddwyn ac yn cyflwyno eu hunain yn unol â gofynion a safonau sefydliadol
- Arwain staff i adnabod cwsmeriaid gwahanol a’u hanghenion go iawn ac anghenion canfyddedig a chyfathrebu â chwsmeriaid mewn ffordd sy’n annog profiad cadarnhaol i gwsmeriaid
- Gwneud yn siŵr bod y gwasanaeth diodydd yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau’r diwydiant, cyfrifoldeb cymdeithasol, codau proffesiynol a pholisïau sefydliadol perthnasol
- Cydweithio â phobl ac adrannau perthnasol eraill i wneud yn siŵr bod gwasanaeth diodydd effeithiol yn cael ei ddarparu, rhoi gwybod i’ch staff a’ch cwsmeriaid am unrhyw newidiadau i’r gwasanaeth a all effeithio arnyn nhw
- Monitro ardaloedd y gwasanaeth diodydd ac ansawdd y gwasanaeth a gweithredu’n brydlon ac yn effeithiol i ddelio ag unrhyw broblemau
- Rheoli costau, gwneud y defnydd gorau o adnoddau sydd ar gael a cheisio ffynonellau cymorth newydd yn rhagweithiol pan fydd problemau’n codi
- Monitro ac adolygu gweithdrefnau i sicrhau bod y gwasanaeth diodydd yn bodloni anghenion cwsmeriaid
- Casglu a throsglwyddo adborth a gwelliannau argymelledig i’r bobl berthnasol yn unol â gofynion eich sefydliad
- Rhoi adborth i staff i’w helpu i wella’u perfformiad, lle bo’n briodol
- Defnyddio dulliau effeithiol i gasglu, storio ac adalw gwybodaeth, cwblhau’r cofnodion gofynnol yn gywir ac adrodd ar berfformiad i gefnogi’r gwasanaeth, yn unol â’ch gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y gofynion cyfreithiol sylfaenol perthnasol sy’n effeithio ar wasanaeth diodydd a ble mae gwybodaeth am ddeddfwriaeth trwyddedu i’w chael
- Gweithdrefnau a pholisïau eich sefydliad sy’n berthnasol i’r gwasanaeth diodydd
- Yr amrywiol weithdrefnau y mae angen eu dilyn ar gyfer paratoi ardal y gwasanaeth diodydd, gan gynnwys gweithdrefnau’n gysylltiedig â: chlirio, stocio cynnyrch a chyfarpar
- Gwahanol rolau a chyfrifoldebau pobl yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano ac mewn rhannau eraill o’r sefydliad sy’n berthnasol i’r gwasanaeth diodydd
- Sut mae gwasanaeth effeithiol yn gysylltiedig â phroffidioldeb y gwasanaeth diodydd a boddhad cwsmeriaid
- Pa broblemau all effeithio ar y gwasanaeth diodydd ac ar baratoi ardaloedd, sut i fynd i’r afael â’r rhain a datblygu cynlluniau wrth gefn i leihau effaith y problemau hyn
- Sut i sicrhau bod ardal y gwasanaeth diodydd yn cael ei pharatoi mewn pryd
- Y sgiliau a’r wybodaeth y mae eu hangen i sicrhau bod staff wedi’u paratoi i gyflawni eu cyfrifoldebau yn effeithiol
- Sut i weithredu’r gofynion cyfreithiol sylfaenol sy’n effeithio ar y gwasanaeth diodydd a goblygiadau methu gwneud hynny
- Yr amrywiaeth o gynnyrch yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano a sut i’w paratoi a’u gweini
- Sut i amrywio ymarfer yn ôl cyfnodau tawel, cyfnodau prysur a darparu gwasanaeth i gwsmeriaid â gofynion arbennig, a sut y gallwch ailddyrannu gwaith i aelodau gwahanol o’ch staff i leihau effaith problemau ar wasanaeth
- Sut i gyfathrebu a delio’n effeithiol â’r amrywiaeth o grwpiau cwsmeriaid (gan gynnwys y rhai sydd dan effaith alcohol), pam mae hyn yn bwysig ac arfer gorau o ran gwrthod gwasanaeth
- Sut gellir nodi gwyriadau o ddeddfwriaeth a rheoliadau penodol i’r diwydiant, a’u cywiro
- Sut i fonitro a goruchwylio ymarfer staff er mwyn cynnal safonau
- Pa ddulliau y gellir eu defnyddio i fonitro paratoi ardal y gwasanaeth diodydd yn effeithiol
- Pa gamau i’w cymryd pan na fodlonir safonau paratoi a chyflwyno
- Pam mae’n bwysig ceisio barn staff a chwsmeriaid a chael eu hadborth a sut i gasglu a dadansoddi adborth
- Sut i roi adborth i’ch staff i’w helpu i wella’u perfformiad a sut i gyflwyno argymhellion
Cwmpas/ystod
- Gofynion cyfreithiol sylfaenol
18.1 oriau a ganiateir
18.2 amser cau
18.3 trwyddedau
18.4 preswylwyr a phobl nad ydynt yn breswylwyr
18.5 pobl sy’n ciniawa a’r rhai nad ydynt yn ciniawa
18.6 pobl ifanc, eu gweini a’u cyflogi
18.7 yr hawl i droi allan a dyletswydd i wrthod gwasanaeth
18.8 hapchwarae, betio a loterïau
18.9 adloniant cyhoeddus
18.10 pwysau a mesurau
18.11 rhestri prisiau, hysbysiadau a thalu am ddiodydd
18.12 cyffuriau
18.13 cyfreithiau disgrifiadau masnachu a diogelu defnyddwyr
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Rhoddir yr ymddygiadau canlynol yn ganllaw er mwyn bod yn sail i berfformiad effeithiol goruchwylydd ym maes lletygarwch
- Rydych chi’n dod o hyd i ffyrdd ymarferol o oresgyn rhwystrau
- Rydych chi’n cytuno ar amcanion cyflawnadwy ar eich cyfer eich hun ac yn perfformio’n gyson ac yn ddibynadwy
- Rydych chi’n cytuno’n glir ar yr hyn sydd i’w ddisgwyl gan bobl eraill ac yn eu dwyn i gyfrif
- Rydych chi’n monitro ansawdd gwaith a chynnydd yn erbyn cynlluniau ac yn cymryd camau cywirol priodol, lle bo angen
- Rydych chi’n modelu ymddygiad sy’n dangos parch, cymwynasgarwch a chydweithrediad
- Rydych chi’n rhyddhau gwybodaeth briodol yn brydlon i’r bobl sydd angen y wybodaeth ac sydd â hawl i’w chael
- Rydych chi’n adnabod problemau mynych ac yn hyrwyddo newidiadau i strwythurau, systemau a phrosesau i’w datrys
- Rydych chi’n nodi ac yn gweithio gyda phobl a sefydliadau sy’n gallu cynnig cymorth ar gyfer eich gwaith
- Rydych chi’n dangos angerdd tuag at gynhyrchion a gwasanaeth diodydd o ansawdd uchel
Sgiliau
Geirfa
Mae dulliau effeithiol ar gyfer casglu, storio ac adalw gwybodaeth yn cynnwys dulliau cost effeithiol, amser effeithiol a moesegol.
Mae gwybodaeth yn cynnwys gwybodaeth gan gwsmeriaid a staff
Dolenni I NOS Eraill
Pa safonau eraill y mae’r safon hon yn cysylltu â nhw?
Argymhellir yn gryf fod HSL30, sy’n ymdrin â hylendid a diogelwch bwyd wrth baratoi a gweini bwyd a diod, yn cael ei astudio ar y cyd â’r safon hon.
Mae’r safon hon yn safon penodol i’r sector ac mae ganddi gysylltiadau penodol â’r safonau canlynol yng nghyfres safonau Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch:
HSL1-6, HSL8, HSL10, HSL13-15, HSL19, HSL26 a HSL31