Datblygu cynlluniau manwl ar gyfer digwyddiad
URN: PPLEVC3
Sectorau Busnes (Suites): Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol – Ar Gyfer Uwch Gynhyrchwyr - Ebrill 2003
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
01 Ion 2014
Trosolwg
Dylai'ch cynlluniau manwl gael eu datblygu ymhell cyn y digwyddiad a nodi'n glir beth mae angen iddo ddigwydd yn unol â llwybr critigol y digwyddiad. Mae cynlluniau manwl yn hanfodol bwysig i bersonél y digwyddiad a dylent nodi pwy fydd yn gwneud beth a pha adnoddau y bydd eu hangen. Hefyd gellir addasu'ch cynlluniau i roi'r i'r cyfranogwyr a chwsmeriaid eraill y wybodaeth mae ei hangen arnynt i wneud y mwyaf o'r digwyddiad. Gallai'r cynlluniau gynnwys elfennau fel: * rhaglenni'r digwyddiad * cynllun a'r defnydd o'r lle * nodweddion neu gynnwys arall * logisteg * defnyddio technoleg ar gyfer rhith-gyfranogwyr Argymhellir y Safon Alwedigaethol Genedlaethol ar gyfer Rheolwyr a Chydgysylltwyr Digwyddiadau. # |
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adolygu cwmpas, cynllun busnes a llwybr critigol y digwyddiad
- adolygu cynlluniau ar gyfer digwyddiadau tebyg
- canfod cyfleoedd ar gyfer arloesedd
- datblygu cynlluniau manwl sy'n cyflawni'r nodau ac amcanion cytunedig ac yn adeiladu ar ddigwyddiadau llwyddiannus
- sicrhau bod eich cynlluniau wedi cael eu datblygu ymhell cyn y digwyddiad
- cyflwyno'r cynlluniau mewn ffyrdd y mae'n hawdd i'r staff eu gweithredu ac i gyfranwyr a chwsmeriaid eu dehongli
- sicrhau y diwellir holl anghenion a disgwyliadau'r cyfranwyr a'r cwsmeriaid
- cynllunio ar gyfer hapddigwyddiadau posibl
- neilltuo rolau i bersonél y digwyddiad fel sy'n briodol i'w cyfrifoldebau a'u sgiliau
- neilltuo adnoddau i'r cynlluniau, sy'n gwneud y defnydd gorau o'r hyn sydd ar gael
- cynllunio ar gyfer gofynion technoleg cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad
- sicrhau bod y cynlluniau'n bodloni gofynion cyfreithiol a rheoliadol
- cael cefnogaeth cydweithwyr allweddol a rhanddeiliaid i'ch cynlluniau
- cyfleu gwybodaeth berthnasol am y cynlluniau i'r cyfranwyr a'r personél
- ystyried yr holl ofynion o ran moeseg a chynaliadwyedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
**
- egwyddorion a dulliau datblygu cynlluniau manwl ar gyfer digwyddiadau
- yr hyn y dylai cynllun manwl ymdrin ag ef
- pwysigrwydd sicrhau bod y cynllun yn gyson â nodau cyffredinol, amcanion a gofynion eraill digwyddiad
- pwysigrwydd adeiladu ar lwyddiannau digwyddiadau tebyg eraill a ffynonellau gwybodaeth am y rhain
- pwysigrwydd cael y wybodaeth ddiweddaraf am arferion cyfredol a cheisio arloesedd
- gwahanol ddulliau o gyflwyno cynlluniau fel y gellir eu gweithredu'n hawdd
- dulliau o neilltuo personél ac adnoddau eraill i elfennau'r cynllun
- beth i'w ystyried wrth gynllunio gofynion technoleg cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiad
- gwahaniaethau rhwng digwyddiad ffisegol gydag elfen rithiol a digwyddiad rhithiol penodol
- pwysigrwydd cael cytundeb a chefnogaeth gan yr holl randdeiliaid allweddol i gynlluniau'ch rhaglen
- gwybodaeth y cynllun y mae angen ei dosbarthu a'r dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio
*Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant/sector
*
- anghenion nodweddiadol ar gyfer digwyddiadau yn eich sector, gan gynnwys gofynion cyfreithiol a rheoliadol
- mathau o hapddigwyddiadau a allai ddigwydd yn ystod digwyddiadau rydych yn ymwneud â nhw a sut i gynllunio ar eu cyfer
- pam y gall fod angen i chi ystyried anghenion amlieithyddol
- y materion a'r cyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r cyd-destun
- hyd a lled eich cyfrifoldebau chi am y rhaglennu manwl
- sut mae'ch rôl chi'n gysylltiedig â rolau pobl eraill yn eich sefydliad mewn perthynas â rhaglennu
- prif gyfrifoldebau cydweithwyr yr ydych yn gweithio gyda nhw wrth raglennu
- gweithdrefnau'ch sefydliad mewn perthynas â datblygu cynlluniau manwl
- arddull eich sefydliad a'i ddulliau o ddosbarthu gwybodaeth am gynllun
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
1. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy'n hybu dealltwriaeth 2. Rydych yn adnabod newidiadau mewn amgylchiadau'n gyflym ac yn addasu cynlluniau a gweithgareddau yn unol â hynny 3. Rydych yn ceisio gwella perfformiad yn ddi-baid 4. Rydych yn llunio ac yn adnabod datrysiadau dychmygus ac arloesol 5. Rydych yn rhoi gwybod i bobl yn gyson am gynlluniau a datblygiadau 6. Rydych yn atgyfnerthu'r cysylltiadau rhwng amcanion penodol, meysydd gwaith a nodau strategol 7. Rydych yn rhagweld senarios tebygol ar sail dadansoddiad realistig o dueddiadau a datblygiadau 8. Rydych yn blaenoriaethu amcanion ac yn cynllunio gwaith i wneud y defnydd gorau o amser ac adnoddau 9. Rydych yn cyfrifo risgiau'n gywir ac yn eu rheoli 10. Rydych yn adnabod materion a chyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd ac yn cymryd camau priodol |
Sgiliau
Rhestrir isod y prif 'sgiliau' generig y mae angen eu cymhwyso yn y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon. Mae'r sgiliau hyn yn echblyg / ymhlyg yng nghynnwys manwl y Safon a chânt eu rhestru yma fel gwybodaeth ychwanegol. 1. Trefnu gwybodaeth 2. Rheoli prosiect 3. Rheoli perthnasoedd 4. Dadansoddi 5. Cynllunio 6. Negodi 7. Cyfathrebu 8. Craffter busnes |
Geirfa
Diffinnir cynaliadwyedd fel ymagwedd barhaus a chytbwys at weithgarwch economaidd, cyfrifoldeb amgylcheddol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol. |
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r Safon hon yn gysylltiedig yn benodol â Safonau: Mae hefyd yn cysylltu'n ôl ag A2 Ymchwilio i gwmpas digwyddiad a chytuno arno ac F13 Datblygu a chytuno ar gynllun busnes ar gyfer digwyddiad |
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Ion 2017
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPLEVC3
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr
Cod SOC
Geiriau Allweddol
datblygu; manwl; cynlluniau; digwyddiad