Datblygu a gweithredu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer digwyddiad

URN: PPLEVC2
Sectorau Busnes (Suites): Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol – Ar Gyfer Uwch Gynhyrchwyr - Ebrill 2003
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Ion 2014

Trosolwg

Yn aml mae ar y rheiny sy'n ymwneud â digwyddiadau angen cyfarwyddwyd clir ynghylch sut i reoli neu ymateb i amrywiaeth o sefyllfaoedd a materion. Gan ddibynnu ar y math o ddigwyddiad, gall y rhain gynnwys: * gofal cwsmeriaid * iechyd, diogelwch personol a diogelwch eiddo * rhoi mynediad i bobl * cymhwystra i gymryd rhan * defnyddio cyfleusterau * marchnata a hyrwyddo * mynediad * amddiffyn plant * cynaliadwyedd * nawdd * trwyddedu * hawliau perfformio * cysylltiadau â'r cyfryngau ac ati. Bydd gan ddigwyddiadau llwyddiannus bolisïau a gweithdrefnau i ymdrin â'r materion hynny sy'n berthnasol i'r digwyddiad a chaiff y staff eu briffio'n llawn a'u cynorthwyo i roi'r polisïau a'r gweithdrefnau hynny ar waith. Argymhellir y Safon Alwedigaethol Genedlaethol ar gyfer Rheolwyr a Chydgysylltwyr Digwyddiadau. #  

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adolygu'r gofynion cyfreithiol a rheoliadol a gofynion eraill ar gyfer y digwyddiad, gan gynnwys risgiau a nodwyd
  2. nodi pa agweddau ar y digwyddiad sydd angen polisïau a gweithdrefnau
  3. dadansoddi'r polisïau a'r gweithdrefnau sy'n bodoli eisoes i weld a ydynt yn ymdrin â'r agweddau lle mae arnoch angen polisïau a gweithdrefnau
  4. os oes angen, cael cyngor a gwybodaeth arbenigol a gweithredu arnynt
  5. llunio/diweddaru polisïau a gweithdrefnau yn ôl yr angen
  6. cael cefnogaeth cydweithwyr allweddol, rhanddeiliaid a sefydliadau allanol i'ch polisïau a gweithdrefnau
  7. sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn deall ac yn glynu at y polisïau a'r gweithdrefnau
  8. gwneud yn siŵr bod pawb sy'n ymwneud â'r digwyddiad yn deall y polisïau a'r gweithdrefnau perthnasol a sut i'w rhoi ar waith
  9. monitro'r ffordd y caiff y polisïau a'r gweithdrefnau eu gweithredu, gan roi cymorth a chyfarwyddyd os oes angen
  10. ystyried yr holl ofynion o ran moeseg a chynaliadwyedd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

**Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

**

1.  sut mae 'polisïau' a 'gweithdrefnau' yn perthyn i'w gilydd

2.  pwysigrwydd polisïau a gweithdrefnau ar gyfer rheoli digwyddiadau

3.  y risgiau sy'n gysylltiedig â digwyddiad

4.  ffynonellau gwybodaeth am ofynion cyfreithiol a rheoliadol a gofynion eraill ar gyfer digwyddiadau

5.  sut i ddehongli gofynion cyfreithiol a rheoliadol a gofynion eraill perthnasol

6.  canlyniadau tebygol peidio â chael polisïau a gweithdrefnau i fodloni'r gofynion hyn

7.  ffynonellau cyngor a gwybodaeth arbenigol am y polisïau a'r gweithdrefnau gofynnol a sut i gael gafael ar y rhain

8.  proses diweddaru polisïau a gweithdrefnau sy'n bodoli eisoes neu lunio rhai newydd

9.  pwysigrwydd ymgynghori ar bolisïau a gweithdrefnau drafft a phwy y dylid ymgynghori â nhw

10.  sut i ymgynghori ar bolisïau a gweithdrefnau drafft

11.  sut i gyfleu a hyrwyddo polisïau a gweithdrefnau i bobl berthnasol sy'n ymwneud â'r digwyddiad

12.  pwy y mae angen iddynt wybod pa bolisïau a gweithdrefnau sy'n berthnasol i'w gwaith a sut i'w gweithredu

13.  pa fathau o gymorth y gall fod ar bobl eu hangen wrth roi polisïau a gweithdrefnau ar waith a sut i ddarparu'r cymorth hwn

**

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant/sector

**

14.  y prif fathau o ddigwyddiadau a gynhelir yn eich sector

15.  gofynion a chwmpas nodweddiadol digwyddiadau yn eich sector, gan gynnwys gofynion cyfreithiol a rheoliadol

16.  pam y gall fod angen i chi ystyried anghenion amlieithyddol

17.  y materion a'r cyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r cyd-destun

*
*
 

18.  hyd a lled eich cyfrifoldebau chi am bolisïau a gweithdrefnau

19.  sut mae'ch rôl yn cysylltu â rolau pobl eraill yn eich sefydliad a'r holl randdeiliaid

20.  prif gyfrifoldebau'r cydweithwyr yr ydych yn gweithio gyda nhw wrth ddatblygu polisïau a gweithdrefnau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

1. Rydych yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau'r sefydliad a chodau proffesiynol, ac yn sicrhau bod eraill yn cydymffurfio â nhw 2. Rydych yn rhoi sylw personol i fanylion penodol sy'n hanfodol i sicrhau canlyniadau llwyddiannus 3. Rydych yn nodi goblygiadau neu ganlyniadau sefyllfa 4. Rydych yn canfod a gweithio gyda phobl a sefydliadau a all ddarparu cefnogaeth i'ch gwaith 5. Rydych yn rhoi gwybod i bobl yn gyson am gynlluniau a datblygiadau 6. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy'n hybu dealltwriaeth 7. Rydych yn rhoi cyfleoedd i bobl ddarparu adborth ac rydych yn ymateb yn briodol 8. Rydych yn gwneud pethau heb i neb ofyn i chi a heb i ddigwyddiadau eich gorfodi i wneud 9. Rydych yn gwirio ymrwymiad unigolion i'w rolau mewn ffordd benodol o weithredu 10. Rydych yn cyfrifo risgiau'n gywir ac yn eu rheoli 11. Rydych yn adnabod materion a chyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd ac yn cymryd camau priodol

Sgiliau

Rhestrir isod y prif 'sgiliau' generig y mae angen eu cymhwyso yn y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon. Mae'r sgiliau hyn yn echblyg / ymhlyg yng nghynnwys manwl y Safon a chânt eu rhestru yma fel gwybodaeth ychwanegol. 1. Ymchwilio 2. Rheoli gwybodaeth 3. Rheoli risg 4. Dadansoddi 5. Cyfathrebu ysgrifenedig 6. Ymgynghori 7. Monitro 8. Negodi 9. Cynorthwyo eraill 10. Craffter busnes

Geirfa

Diffinnir cynaliadwyedd fel ymagwedd barhaus a chytbwys at weithgarwch economaidd, cyfrifoldeb amgylcheddol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol.

Dolenni I NOS Eraill

Mae'r Safon hon yn gysylltiedig â Safonau:

A2    Ymchwilio i gwmpas digwyddiad a chytuno arno

A3    Rheoli risgiau i'ch sefydliad

A4    Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol

F13  Datblygu a chytuno ar gynllun busnes ar gyfer digwyddiad

a'r holl Safonau eraill yn Adran C o gyfres gyffredinol y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Digwyddiadau

 


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLEVC2

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr

Cod SOC


Geiriau Allweddol

datblygu; gweithredu; polisïau; gweithdrefnau; digwyddiad