Defnyddio technoleg mewn digwyddiadau

URN: PPLEVC12
Sectorau Busnes (Suites): Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol – Ar Gyfer Uwch Gynhyrchwyr - Ebrill 2003
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Ion 2014

Trosolwg

Mae defnyddio technoleg, yn ystod digwyddiadau ac i'w cynnal, yn rhan gynyddol o waith rheoli digwyddiadau. Mae sicrhau bod y nifer fwyaf posibl o bobl yn cymryd rhan mewn digwyddiadau trwy dechnoleg yn cynyddu. Dylech allu ymchwilio i'r dulliau sydd ar gael i weithio gyda thechnoleg, er enghraifft cofrestru electronig, gweminarau, gweddarllediadau o ddigwyddiadau. Dylech ddeall sut i sicrhau y caiff technoleg yr effaith fwyaf posibl ar gyrraedd y gynulleidfa ehangaf i'r digwyddiad. Mae'r Safon Alwedigaethol Genedlaethol yn addas ar gyfer Rheolwyr a Chydgysylltwyr Digwyddiadau. #  


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. canfod a chytuno ar gyfleoedd i ddefnyddio technoleg mewn digwyddiad
  2. ymchwilio i'r adnoddau sydd ar gael i weithio â nhw
  3. trafod a chytuno ar y dechnoleg briodol i gael ei defnyddio
  4. nodi'r adnoddau mae eu hangen er mwyn defnyddio technoleg fel rhan o'r digwyddiad
  5. nodi'r adnoddau mae eu hangen er mwyn defnyddio technoleg i gyrraedd nifer fwy o gyfranogwyr
  6. sicrhau bod adnoddau wedi'u trefnu yn ystod y digwyddiad, gan gynnwys y dechnoleg a'r cymorth cywir
  7. mynd i'r afael â phroblemau gyda thechnoleg a ganfyddir yn ystod y digwyddiad
  8. cael y wybodaeth ddiweddaraf am y dechnoleg a ddefnyddir mewn digwyddiadau
  9. casglu adborth ar y defnydd o dechnoleg mewn digwyddiad
  10. ystyried yr holl ofynion o ran moeseg a chynaliadwyedd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. buddion defnyddio technoleg mewn digwyddiad
  2. buddion defnyddio technoleg i sicrhau bod y nifer fwyaf posibl o bobl yn cymryd rhan mewn digwyddiad
  3. beth i'w ystyried wrth gynllunio'r gofynion o ran technoleg cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiad
  4. yr adnoddau sydd ar gael i weithio gyda thechnoleg
  5. ffynonellau cyngor ar weithio gyda thechnoleg
  6. pa adnoddau mae eu hangen i ddefnyddio technoleg mewn digwyddiad
  7. sut i addasu cynnwys digwyddiad i'w gwneud yn bosibl defnyddio technoleg
  8. sut i sicrhau mynediad diogel trwy dechnoleg
  9. cyfrifoldebau cyfreithiol a moesegol perthnasol wrth weithio gyda thechnoleg
  10. pam y gall fod angen i chi ystyried anghenion amlieithyddol
  11. y materion a'r cyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

1. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy'n hybu dealltwriaeth 2. Rydych yn mynd i'r afael â nifer o alwadau heb golli ffocws nac egni 3. Rydych yn adnabod newidiadau mewn amgylchiadau'n gyflym ac yn addasu cynlluniau a gweithgareddau yn unol â hynny 4. Rydych yn ymateb yn gyflym i argyfyngau a phroblemau gyda ffordd arfaethedig o weithredu 5. Rydych yn canfod ffyrdd ymarferol i oresgyn rhwystrau 6. Rydych yn sicrhau bod amser ar gael i gynorthwyo eraill 7. Rydych yn rhoi gwybod i bobl yn gyson am gynlluniau a datblygiadau 8. Rydych yn rhoi adborth i eraill i'w helpu i wella eu perfformiad 9. Rydych chi'n cymryd cyfrifoldeb personol am sicrhau bod pethau'n digwydd 10. Rydych yn creu ymdeimlad o bwrpas cyffredin 11. Rydych yn gwneud penderfyniadau amserol sy'n realistig ar gyfer y sefyllfa 12. Rydych yn adnabod materion a chyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd ac yn cymryd camau priodol

Sgiliau

Rhestrir isod y prif 'sgiliau' generig y mae angen eu cymhwyso yn yr uned hon. Mae'r sgiliau hyn yn echblyg / ymhlyg yng nghynnwys manwl yr uned a chânt eu rhestru yma fel gwybodaeth ychwanegol. 1. Cyfathrebu 2. Arweinyddiaeth 3. Monitro 4. Rheoli adnoddau 5. Datrys problemau 6. Cofnodi ac adrodd 7. Craffter busnes


Geirfa

Diffinnir cynaliadwyedd fel ymagwedd barhaus a chytbwys at weithgarwch economaidd, cyfrifoldeb amgylcheddol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol.

Dolenni I NOS Eraill

Mae'r Safon hon yn gysylltiedig yn benodol â Safonau:
C1  Cynllunio a gweithredu llwybr critigol ar gyfer digwyddiad
C3  Datblygu cynlluniau manwl ar gyfer digwyddiad
C9  Rheoli'r gwaith o osod a datod digwyddiad
a phob Safon arall yn adran C yng nghyfres gyffredinol y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Digwyddiadau

 


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLEVC12

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr

Cod SOC


Geiriau Allweddol

digwyddiad; technoleg; rhith-gyfranogwr; gweminar; adborth; cyfranogwr