Rheoli’r gwaith o redeg digwyddiad

URN: PPLEVC10
Sectorau Busnes (Suites): Rhestr o Safonau Galwedigaethol Proffesiynol a Chenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Ion 2014

Trosolwg

Dylai cynllunio ymlaen llaw sicrhau bod popeth yn rhedeg yn ddidrafferth pan gynhelir digwyddiad. Fodd bynnag, mae angen i'r rheiny sy'n gyfrifol am reoli digwyddiadau gadw rheolaeth, yn arbennig trwy fonitro ac arsylwi manwl ac adnabod problemau wrth iddynt godi a mynd i'r afael â  nhw'n effeithiol. Mae arwain personél yn arbennig o bwysig, ac felly hefyd cyfathrebu effeithiol. Argymhellir y Safon Alwedigaethol Genedlaethol ar gyfer Rheolwyr a Chydgysylltwyr Digwyddiadau. #  

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dilyn cynlluniau cytunedig ar gyfer y digwyddiad
  2. sicrhau bod yr holl adnoddau, personél a chymorth wedi'u trefnu ac yn barod, gan gynnwys unrhyw dechnoleg mae ei hangen
  3. sicrhau bod yr holl bersonél a chyfranogwyr wedi cael eu briffio'n llawn
  4. darparu awdurdodiad i bob cam o'r digwyddiad gael ei gymryd
  5. goruchwylio gwaith personél allweddol a rhanddeiliaid eraill trwy gydol y digwyddiad, trwy gyfathrebu'n effeithiol
  6. monitro'r ffordd y caiff y digwyddiad ei redeg ac ymdrin yn effeithiol ag unrhyw broblemau sy'n codi gan ddefnyddio'ch cynlluniau rheoli risg
  7. rheoli newid yn ystod y digwyddiad er mwyn sicrhau bod cyn lleied o darfu ar y cyfranogwyr ag sy'n bosibl  
  8. rhoi gwybod am ddatblygiadau perthnasol yn gyson i bawb sy'n ymwneud â'r digwyddiad  
  9. cadw cofnodion gofynnol yn ystod y digwyddiad
  10. ystyried yr holl ofynion o ran moeseg a chynaliadwyedd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

**Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

**

1.  pwysigrwydd dilyn cynlluniau cytunedig ar gyfer digwyddiad

2.  y prosesau y dylech eu dilyn i fonitro digwyddiad

3.  pam mae'n bwysig darparu awdurdodiad ar gyfer pob cam o ddigwyddiad a'r prosesau y dylech eu dilyn

4.  y trefniadau rheoli nodweddiadol ar gyfer digwyddiad a rolau a chyfrifoldebau'r rheiny sy'n ymwneud ag ef, gan gynnwys sefydliadau allanol

5.  pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol yn ystod y digwyddiad a'r prosesau y dylech eu dilyn

6.  egwyddorion arweinyddiaeth effeithiol yn ystod digwyddiad a'i phwysigrwydd

7.  y mathau nodweddiadol o broblemau a all godi yn ystod digwyddiad a sut i ymateb yn effeithiol i'r problemau hyn

8.  pam mae'n bwysig rheoli newid yn ystod digwyddiad a'r prosesau y dylech eu dilyn

9.  pam mae'n bwysig cyfleu unrhyw newidiadau a datblygiadau yn ystod digwyddiad a'r prosesau y dylech eu dilyn

10.  problemau posibl o ran mynediad a chytunedd y gall cyfranogwyr eu hwynebu a sut i'w datrys

11.  yr effaith ychwanegol y gall cynnal agwedd rithwir ar ddigwyddiad ei chreu

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant/sector

*
*
 

12.  y prif fathau o ddigwyddiadau a gynhelir yn eich sector

13.  y prosesau penodol sy'n gysylltiedig â rhedeg digwyddiadau yn eich sector

14.  y prif ofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol sy'n effeithio ar ddigwyddiadau yn eich sector a'u goblygiadau i'ch gwaith

15.  pam y gall fod angen i chi ystyried anghenion amlieithyddol

16.  y materion a'r cyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd

**Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r cyd-destun

**

17.  hyd a lled eich cyfrifoldebau chi am redeg digwyddiad

18.  sut mae'ch rôl chi'n gysylltiedig â rolau pobl eraill yn eich sefydliad


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

1. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy'n hybu dealltwriaeth 2. Rydych yn mynd i'r afael â nifer o alwadau heb golli ffocws nac egni 3. Rydych yn adnabod newidiadau mewn amgylchiadau'n gyflym ac yn addasu cynlluniau a gweithgareddau yn unol â hynny 4. Rydych yn ymateb yn gyflym i argyfyngau a phroblemau gyda ffordd arfaethedig o weithredu 5. Rydych yn canfod ffyrdd ymarferol i oresgyn rhwystrau 6. Rydych yn sicrhau bod amser ar gael i gynorthwyo eraill 7. Rydych yn rhoi gwybod i bobl yn gyson am gynlluniau a datblygiadau 8. Rydych yn rhoi adborth i eraill i'w helpu i wella eu perfformiad 9. Rydych chi'n cymryd cyfrifoldeb personol am sicrhau bod pethau'n digwydd 10. Rydych yn creu ymdeimlad o bwrpas cyffredin 11. Rydych yn gwneud penderfyniadau amserol sy'n realistig ar gyfer y sefyllfa 12. Rydych yn adnabod materion a chyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd ac yn cymryd camau priodol

Sgiliau

Rhestrir isod y prif 'sgiliau' generig y mae angen eu cymhwyso yn y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon. Mae'r sgiliau hyn yn echblyg / ymhlyg yng nghynnwys manwl y Safon a chânt eu rhestru yma fel gwybodaeth ychwanegol. 1. Cyfathrebu 2. Arweinyddiaeth 3. Monitro 4. Rheoli adnoddau 5. Datrys problemau 6. Cofnodi ac adrodd 7. Craffter busnes

Geirfa

Diffinnir cynaliadwyedd fel ymagwedd barhaus a chytbwys at weithgarwch economaidd, cyfrifoldeb amgylcheddol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol.

Dolenni I NOS Eraill

Mae'r Safon hon yn gysylltiedig yn benodol â Safonau:
C1  Cynllunio a gweithredu llwybr critigol ar gyfer digwyddiad
C3  Datblygu cynlluniau manwl ar gyfer digwyddiad
C9  Rheoli'r gwaith o osod a datod digwyddiad
a phob Safon arall yn adran C yng nghyfres gyffredinol y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Digwyddiadau

Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLEVC10

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr

Cod SOC


Geiriau Allweddol

rheoli; digwyddiad