Defnyddio cyfryngau digidol mewn digwyddiadau

URN: PPLEVB3
Sectorau Busnes (Suites): Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol – Ar Gyfer Uwch Gynhyrchwyr - Ebrill 2003
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Ion 2014

Trosolwg

Mae cyfryngau digidol wedi dod yn ffordd o godi ymwybyddiaeth o ddigwyddiadau ac o werthuso digwyddiadau. Dylech allu cysylltu â phobl a fydd o bosibl yn dod i'r digwyddiad i godi ymwybyddiaeth ohono, a defnyddio cyfryngau digidol fel dull o hysbysebu. Bydd angen i chi ddeall sut i ymdrin â gwybodaeth yn y parth cyhoeddus, yn enwedig gydag unrhyw ymatebion a materion negyddol neu gadarnhaol. Dylech hefyd ddeall sut y gellir defnyddio cyfryngau digidol yn ystod digwyddiad ac i gysylltu cyfranogwyr. Mae'r Safon hon yn gysylltiedig â maes sy'n newid a datblygu'n ddi-baid wrth i'r defnydd o gyfryngau digidol gynyddu yn y diwydiant digwyddiadau. Y termau a ddefnyddir yw'r rheiny a arferwyd yn 2013/14. Argymhellir y Safon Alwedigaethol Genedlaethol ar gyfer Rheolwyr a Chydgysylltwyr Digwyddiadau neu bobl eraill sy'n ymwneud â defnyddio cyfryngau digidol yn ystod digwyddiadau. ** **

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynllunio strategaeth ar gyfer defnyddio cyfryngau digidol mewn digwyddiad
  2. nodi cyfryngau digidol sy'n berthnasol i'r digwyddiad
  3. llunio proffiliau o ddefnyddwyr, cymunedau a phlatfformau cyfryngau digidol sy'n berthnasol i'r digwyddiad
  4. defnyddio cyfryngau digidol yn unol â gofynion cyfreithiol, rheoliadol a sefydliadol
  5. canfod yr adeg orau i ddiweddaru cyfryngau digidol am ddigwyddiad
  6. rhannu'r wybodaeth briodol am y digwyddiad trwy gyfryngau digidol
  7. sganio cyfryngau digidol i ganfod gwybodaeth berthnasol
  8. monitro rhyngweithio ar gyfryngau digidol
  9. ymateb i negeseuon a cheisiadau ar gyfryngau digidol mewn modd priodol ac amserol
  10. ystyried yr effaith ar deimladau'r nifer fawr o gymunedau sy'n bodoli o fewn y gynulleidfa i'ch digwyddiad yn unol â deddfwriaeth ar gydraddoldeb
  11. gwirio a ydych yn ymateb yn gywir i gyfryngau digidol os ydych yn anfon ateb preifat a phwy fydd yn gweld/cael y neges hon
  12. canfod adborth am y digwyddiad ar gyfryngau digidol
  13. cadarnhau bod adborth a geir trwy gyfryngau digidol yn gywir ac yn ddilys
  14. ymdrin ag adborth sy'n anghywir neu'n amhriodol
  15. cynnal presenoldeb ar gyfryngau digidol ar gyfer digwyddiadau a gynhelir llawer o weithiau
  16. defnyddio cyfryngau digidol yn unol â pholisi'ch sefydliad ar gyfathrebu
  17. ystyried yr holl ofynion o ran moeseg a chynaliadwyedd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.  sut i fesur y defnydd effeithiol o gyfryngau digidol
2.  y cyfryngau digidol prif ffrwd ac arbenigol a ddefnyddir mewn digwyddiadau
3.  sut mae'ch sefydliad yn defnyddio cyfryngau digidol
4.  y gynulleidfa darged ar gyfer defnyddio cyfryngau digidol
5.  demograffeg y gynulleidfa bosibl
6.  sut i gael gwybodaeth i gynorthwyo â defnyddio cyfryngau digidol
7.  yr adeg fwyaf effeithiol i gyfathrebu trwy gyfryngau digidol er mwyn sicrhau ei fod yn effeithiol
8.  sut y gellir defnyddio cyfryngau digidol yn fewnol ac yn allanol
9.  pwysigrwydd cael effaith ar weithrediadau cyfryngau digidol
10.  rheoliadau deddfwriaeth a diogelwch sy'n gysylltiedig â defnyddio cyfryngau digidol
11.  sut i chwilio trwy ffynonellau cyfryngau digidol am bostiadau gan gwsmeriaid
12.  pwysigrwydd anfon negeseuon clir a chryno wrth ddefnyddio cyfryngau digidol

13.  pam mae'n bwysig monitro sut mae pobl yn rhyngweithio ar gyfryngau digidol, yn enwedig os ydynt o dan un deg chwech oed
14.  pam mae'n bwysig ystyried yr effeithiau ar deimladau'r nifer fawr o gymunedau sy'n bodoli o fewn cynulleidfa eich digwyddiad yn unol â deddfwriaeth ar gydraddoldeb
15.  y gall gwybodaeth gael ei hanfon ymlaen trwy gyfryngau digidol, a'r effaith y gall hyn ei chael
16.  pam mae delwedd sefydliad yn bwysig wrth ddefnyddio cyfryngau digidol ar ei ran

17.  y materion a'r cyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd
18.  sut i reoli mynediad i ryngweithiadau gyda chwsmeriaid wrth ddefnyddio cyfryngau digidol
19.  pam y gall cyfryngau digidol fod yn briodol i'w defnyddio dim ond gyda rhai grwpiau/digwyddiadau penodol
20.  pam y dylid defnyddio cyfryngau digidol fel rhan o strategaeth ehangach i godi ymwybyddiaeth o ddigwyddiad
21.  sut i adnabod beth ddylai fod y cam olaf mewn cyfres o ryngweithiadau ar gyfryngau digidol
22.  sut i chwilio trwy gyfryngau digidol am adborth am ddigwyddiadau

23.  sut i ymdrin ag adborth a gaiff ei bostio ar blatfformau cyfryngau digidol sy'n anghywir a/neu'n amhriodol

24.  pwysigrwydd cynnal presenoldeb ar y cyfryngau digidol y tu allan i gyfnod y digwyddiad
25.  pam y gall fod angen i chi ystyried anghenion amlieithyddol
26.  sut i ddefnyddio cyfryngau digidol i wneud arian o'r gynulleidfa, os mai dyna yw amcan y digwyddiad


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

1. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd  sy'n hybu dealltwriaeth 2. Rydych yn adnabod newidiadau mewn amgylchiadau'n gyflym ac yn addasu cynlluniau a gweithgareddau yn unol â hynny 3. Rydych yn ceisio gwella perfformiad yn ddi-baid 4. Rydych yn llunio ac yn adnabod datrysiadau dychmygus ac arloesol 5. Rydych yn rhoi gwybod i bobl yn gyson am gynlluniau a datblygiadau 6. Rydych yn rhagweld senarios tebygol yn y dyfodol ar sail dadansoddiad realistig o dueddiadau a datblygiadau 7. Rydych yn blaenoriaethu amcanion ac yn cynllunio gwaith i wneud y defnydd gorau o amser ac adnoddau 8. Rydych yn cyfrifo risgiau'n gywir ac yn eu rheoli 9. Rydych yn adnabod materion a chyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd ac yn cymryd camau priodol

Sgiliau

Rhestrir isod y prif 'sgiliau' generig y mae angen eu cymhwyso yn y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon. Mae'r sgiliau hyn yn echblyg / ymhlyg yng nghynnwys manwl y Safon a chânt eu rhestru yma fel gwybodaeth ychwanegol. 1. Trefnu gwybodaeth 2. Rheoli prosiectau 3. Rheoli perthnasoedd 4. Dadansoddi 5. Cynllunio 6. Negodi 7. Cyfathrebu 8. Craffter busnes


Geirfa

Diffinnir cyfryngau digidol fel cynnwys wedi'i ddigido y gellir ei drawsyrru dros y rhyngrwyd neu rwydweithiau cyfrifiadurol. Diffinnir cynaliadwyedd fel ymagwedd barhaus a chytbwys at weithgarwch economaidd, cyfrifoldeb amgylcheddol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol.

Dolenni I NOS Eraill

Mae'r Safon hon yn gysylltiedig yn benodol â Safonau:

C3   Datblygu cynlluniau manwl ar gyfer digwyddiad

C10 Rheoli'r gwaith o redeg digwyddiad

D1   Gwerthuso ac adrodd ar effaith digwyddiad

yng nghyfres gyffredinol y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Digwyddiadau


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLEVB3

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr

Cod SOC


Geiriau Allweddol

digwyddiadau; cyfryngau digidol; cyfryngau cymdeithasol; technoleg; cynulleidfa; gwerthuso; adborth; marchnata